Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

capten

capten

Roedd y capten llong yn yr ail gerbyd a ddaeth i'r golwg.

Fel y tîm o'r Alban, sgoriodd Llanelli bedwar cais - dau i'r capten Scott Quinnell ac un bob un i Dafydd James a Chris Wyatt.

Maswr Leeds a Phrydain, Iestyn Harries, fydd capten Cymru yng Nghwpan Rygbi 13 y Byd yn nes ymlaen eleni.

Ar ben hynny, mae capten United, Roy Keane, wedi dweud ei fod o'r farn nad yw'r tîm presennol yn ddigon da.

Ar ôl gorffen dadlwytho aethant i Newcastle i lwytho glo ac yno ymddiswyddodd y Capten ond bu mor garedig â chymeradwyo'r Mêt i'r cwmni fel dyn da i gymryd ei le ac felly dyrchafwyd Mr Hughes yn Gapten yn fuan iawn ar ei yrfa gan afael yn y cyfle â'i ddwy law.

Peidiwch â bod yn hir efo'ch cinio, rhag i ni fod yn hwyr yn yr ysgol." Ni fum yn hir yn llyncu fy nghinio, a phan gyrhaeddais at y gamfa, yno'r oedd Capten yn disgwyl amdanaf.

Cyn-wicedwr Morgannwg, Colin Metson, yw capten Cymru - ond mae e yn Bermuda, sydd bellach yn un o brif wledydd criced y byd, gyda Thîm yr MCC.

Gweddnewidiwyd y gêm gan ddiffyg disgyblaeth difrifol Nigel Jemson, capten Yr Amwythig, a gafodd ei hel o'r maes eiliadau cyn yr egwyl.

Bydd capten Lloegr yn cael canlyniadaur sgan heddiw ond mae on ffyddiog y bydd yn holliach ar gyfer gêm gynta Lloegr yn erbyn Portiwgal yn Eindhoven nos Lun.

Ond fydd neb yn poeni nad ydw i wrth y bwrdd bwyd gan fod llawer ohonom yn aros yn hwyrach yn y bync ar fore Sul am fod llai o waith i'w wneud." Gobeithiai y byddai'r capten yn sylweddoli'n weddol fuan ei fod ar goll.

Er gallai Caerdydd fod wedi talu'n ddrud am ffolineb ei capten.

Rwyt ti'n siwr o lwyddo." Cofiodd yn sydyn hefyd am yr hyn a ddywedodd un capten llong wrtho unwaith pan oedd yn forwr ifanc iawn.

Wedi i'r Morfa Maiden angori yn yr harbwr aed â Catherine Edwards, a'r Capten a'i wraig, i Fwlch-y-fedwen i gael lluniaeth ac aros noson neu ddwy, ond fe gymerodd ddeuddydd arall i'r neges gyrraedd Plas Nanhoron a'r wys i Pyrs y Coetsmon fynd cyn belled â Phenmorfa i gyrchu 'i feistres.

Mae cyfnod Mark Taylor fel capten tîm rygbi Cymru wedi dod i ben gyda'r newydd y bydd yn derbyn triniaeth lawfeddygol i'w ben-glîn heddiw.

Y capten y diwrnod hwnnw oedd Alan Jones.

'Rydan ni wedi dwad i'r bae anghywir,' meddai'r capten, a hyder dyn a wyddai ei fod yn iawn fel mêl yn ei lais.

"Ddaw Emrys allan i chwarae?" oedd y cwestiwn a glywais yn llais Capten, a neidiodd fy nghalon gan lawenydd.

Roedd Adrian Dale, capten dros-dro Morgannwg, yn gobeithio gweld Northants yn batio am yr eilwaith yn olynol ond fe sgoriodd y tîm cartre 446 am saith cyn cau eu batiad ar ôl sicrhau y pedwar pwynt bonws.

Cadw'r capten yng nghanol y cae a chadw Scott Quinnell i ganolbwyntio ar eu chwarae ymysg y blaenwyr.

Dengys log manwl y capten y gwaith a gyflawnid o ddydd i ddydd ar ei bwrdd, a'r nwyddau a'r offer a roddwyd yn yr howld, yn cynnwys rhaffau, blociau, meini llif a sialc, a gyfnewidid am gynnyrch brodorion gwledydd tramor megis Mao%riaid Seland Newydd.

Fe ddangosodd y capten Graham Thorpe y ffordd gyda 62 heb fod mâs.

Un o'r hanesion hynny yw un am farwolaeth gwraig Capten T.

Hefyd, bydd bowliwr Swydd Derby, Dominic Cork, ddim yn chwarae i Loegr yn y Prawf Cyntaf oherwydd anaf i'r gefn, ond mae'n bosib y bydd y capten, Nasser Hussain, Michael Vaughan a Craig White yn ddigon iach i chware.

Ennill wnaeth y pencampwyr, Manchester United, 2 - 0 ar faes Celtic yng ngêm dysteb capten ac amddiffynnwr y clwb o'r Alban, Tom Boyd.

Chwarddai Capten yn foddhaus, ac wrth fynd i'r leins wedi i'r gloch ganu, sibrydodd yn fy nghlust, "Ardderchog, fachgen.

Camodd y capten yn sionc fel pe wedi cael rhyw adnewyddiad corfforol.

Cawn nifer o'r bechgyn yn ymweld â mi o bryd i'w gilydd, ac un diwrnod galwodd y Capten i'm gweld.

Y sgôr derfynol oedd 46 - 20, gyda'r capten Craig Quinnell yn sgorio dau o'r chwe chais.

Dywed y capten dros dro, Adrian Dale, y byddai'n hwb mawr i'r tîm tasai James yn gallu wynebu Gwlad yr Haf yng Nghaerdydd yfory.

Cafodd Douglas fraw, a rhedodd at y capten.

Fe allai capten Abertawe, Scott Gibbs, fod mewn dyfroedd dyfnion, hefyd.

Cafwyd gwasanaeth byr ar ol cyrraedd yng ngofal Mr Glyndwr Thomas a chymorth Capten Trefor Williams, Mrs Gwyneth williams a Miss Gladys Hughes.

Dechreuodd ef ei yrfa ar y môr, fel llawer o hogiau ifainc Llyn, mewn llong fechan o'r enw Fishguard Lass ac yntau'n bedair ar ddeg oed a chyda'r Capten a'r Mêt yn gwneud nifer y criw yn dri.

Ni feiddiai neb edrych ar y capten.

Sonia am un llong a oedd mor brin ei bwyd fel pan brynodd y Capten luniaeth yn ynys St.

cyhoeddodd y Capten drwy'r uchel-seinydd.

'Roedd y Capten yn sôn ei bod hi eisiau gair hefo chdi p'run bynnag.

Graeme Thorpe fydd capten tîm criced Lloegr yn y gyfres o gemau un-dydd yn Sri Lanka fydd yn dechrau ddydd Gwener.

Nid oedd gennym ddim yn erbyn y Capten oddieithr ei fod o'n ei gyfrif ei hun braidd yn bwysig.

Roedd y Capten yn barod i dalu'n dda mewn doleri Hong Kong.

Dywed fel y byddai'n cysgu wrth yr olwyn pan oedd y Mêt neu'r Capten yn llywio, er mwyn iddo fod wrth law i alw ar y llall os oedd angen.

Yn sydyn gwelodd y Capten un o'r swyddogion eraill yn brysio ymaith gyda gwely ar ei ysgwydd a rhedodd ar ei ôl.

Ac yr oedd ganddo gludydd arfau ymroddedig yn y pen porthor, Capten Jones.

Lawrence Dallaglio, blaenasgellwr Lloegr a Wasps, fydd capten y Barbariaid yn y gêm yn erbyn De Affrica.

Llewellyn fydd capten Castell Nedd y tymor nesaf.

Steve James capten Morgannwg alwodd yn gywir yn y gêm yn erbyn Caerwrangon yng Nghystadleuaeth Benson & Hedges yng Ngerddi Soffia.

Ond cafodd Price ail arno trwy gynnal cyfarfod coffa (cellweirus) yn Neuadd Powis pan ymddeolodd Capten Jones.

Mae capten Clwb Criced Morgannwg, Steve James, wedi cadarnhau mai Adrian Dale fydd ei is-gapten y tymor nesaf.

Roeddwn innau'n fwy bodlon, ond er hynny ni fentrais gysgu yn y camp bed am rai nosweithiau rhag ofn i rywun sylwi a chlebran wrth y Capten.

Mae capten Clwb Criced Morgannwg, Matthew Maynard, wedi derbyn cais wrth ddewiswyr Lloegr i ymuno âr garfan un-dydd i wynebu Zimbabwe ac Indiar Gorllewin.

"John Jones ydi o ar lyfra'r ysgol, ond Capten ydi f'enw i gan bawb," meddai a gwân ar ei wyneb.

Ymhen ychydig daeth y Capten a gofynnodd: "Popeth yn iawn ?

Gwelais y Capten druan fwy nag unwaith yn ceisio'u difa gyda dwr berwedig o'r gegin.

Bu'r capten yn dawel iawn.

Fel y disgwylid, Martin Johnson o Loegr fydd y capten. Ef, hefyd, oedd capten Y Llewod ar y daith i Dde Affrica ddwy flynedd yn ôl.

Ymhen hir a hwyr fe gododd y capten ar ei draed: bu'n gweddio'n galed ac roedd ei lygaid yn goch.

Yna dywed ei hanes yn mynd i'r farchnad gyda'r Capten i brynu bwyd a'r Capten yn bargeinio gyda'r cigydd faint i dalu am ben dafad a thalu deg ceiniog am hwnnw.

Un noson cariodd Mr Hughes lawer o hwyliau a daeth y Capten i fyny a dweud wrtho am dynnu hwyliau oddi ar y llong, ac o dan ei wynt yn mwmian, "Dam, you know nothing, fear nothing".

Rhoddodd y Capten bunt i Twm am fentro'i fywyd, a dyma'i ymateb yntau yn ei einau ei hun:

Penderfynodd y capten y byddai'n anelu adre am Genoa - 'o leia mi ga'i groeso'n fanno' - i fyny'r arfordir.

Gyda charfan o osodwyr plât yn y blaen, rhuthrodd y picedwyr at yr heddlu a'r milwyr, gan lwyddo i ailfeddiannu'r groesfan Gofynnodd y Capten Burrows i Thomas Jones ddarllen y Ddeddf Derfysg, ond-gwrthododd Jones gan nad oedd y trais yn ddigon i gyfiawnhau gwneud hynny.

Yn fwy na dim i foddhau fy nghydwybod euthum i chwilio am y Capten a dweud wrtho am y morwr dyfeisgar hwn.

Nadolig Saithdeg wyth daeth nodyn i'r Plas - un swyddogol wedi'i ddanfon ar gefn ceffyl o Swyddfa'r Tollau ym Mhwllheli - i ddweud fod Capten Timothy ar hwylio o Ynys Rhode i'r Caribî, ar warthaf Comte d'Estaing a llynges Ffrainc.

Er bod pedwar deg wyth wedi marw allan o bron i bymtheg can o garcharorion, morwyr a milwyr a gludwyd mewn un ar ddeg o longau, roedd Capten Arthur Phillip wedi cyflawni un o fordeithiau enwocaf hanes y mor, dros bymtheng mil o filltiroedd heb golli'r un llong.Roedd y marwolaethau'n llawer mwy yn y llyngesau a'i dilynodd oherwydd gorlwytho, prinder bwyd, creulondeb annynol ac afiechydon a oedd yn deillio'n anorfod o'r sefyllfa ar y llongau, a'r ffaith bod y fordaith mor hir.

Yn nhîm Llanelli mae'r wythwr Scott Quinnell a'r clo Chris Wyatt yn cael gorffwys a'r maswr Stephen Jones fydd y capten.

Mae Ronnie Irani, eu capten, yn 69 heb fod mâs a sgoriodd Paul Prichard 59.

Yr oedd gwraig y Capten John Williams a gwraig y mêt yn y llong a boddwyd hwy gydag un ar bymtheg o'r criw.

Am y tro cyntaf ar y daith bydd y capten, Martin Johnson, yn chwarae.

Pan oedd y cyfan yn gweithio'n gywir, gallai'r capten weld pa mor bell roedd ei long wedi teithio bob dydd, dim ond wrth edrych ar y cloc.

Mae'n bosib y bydd capten Clwb Criced Morgannwg, Steve James, yn dychwelyd i'r tîm yfory ar ôl triniaeth i'w benglîn.

Yna ychwanegodd, "Ac mae'n well gen i Capten." Roedd llawer o gwestiynau ar flaen fy nhafod.

Capten tîm dan 21 Cymru, Alix Popham, fydd yn arwain yn erbyn Ontario.

Rhaid ei fod wedi rhoddi argraff dda iawn ar y Capten oherwydd nid oedd wedi hwylio gydag ef yn hir.

Mae amheuaeth y gallai capten Morgannwg Steve James golli dechrau'r tymor newydd.

Y mewnwr Dan Van Zail fydd capten tîm y Springboks a byddan nhw'n gobeithio gwneud iawn am golli yn erbyn Tîm A Iwerddon yr wythnos dwetha.

Adroddodd yr hyn a welodd wrth y Capten a hwyliodd y llong i Bombay er mwyn ei hatgyweirio.

Capten Scott yn hwylio o Gaerdydd i Begwn y De ar y Terra Nova.

Ar ôl glanio yn nhref Orumiyeh, trodd y capten ato a gofyn os oedd o'n siwr ei fod am aros.

"Yn ôl â ni, felly, cyn gynted ag y gallwn," ebe Capten Coutts.

Y capten Iestyn Harries yn creu dau ac yn trosi tri.

Bu Jimmy Maher yn ymarfer gyda'i glwb newydd ddoe, a mae'r capten, Steve James, yn hyderus bod gan Forgannwg y chwaraewyr i sicrhau llwyddiant y tymor hwn.

Mi fydd yn powlio crio 'gei di weld.' 'Dwi inna isio crio, ond 'mod i yn methu 'te.' Rhyfel Annibyniaeth America ac ymyrraeth y Ffrancwyr a alwodd y Capten Timothy Edwards yn ôl i'r môr, a hynny wedi tair blynedd ar ddeg o fod yn llongwr tir sych.

"Mi fydd oriau wedi mynd heibio cyn iddyn nhw sylwi nad ydw i ar y llong, ac er bydd y capten yn sicr o ddychwelyd i chwilio amdana i, mi fydda i wedi boddi ymhell cyn hynny," meddai'n ddigalon wrtho'i hun, gan wylio'r golau yn diflannu i'r pellter.

(Y mae enghreifftiau eraill o hyn yn digwydd, megis y frech goch yn creu epidemig farwol ymysg pobl ynysoedd Môr y De yn dilyn ymweliad Capten Cook, neu siffilis ymysg morwyr Capten Cook yn dilyn eu hymweliad hwy â'r ynysoedd.

"Edrychwch ar ei ôl o'n ofalus nes cyrhaeddwn ni'r gwersyll newydd." "Reit, syr." Ond wedi meddwl am y peth dechreuais deimlo braidd yn flin fod y Capten mor hunanol, a phan ddaeth y lori heibio i lwytho'n taclau, a minnau'n helpu gyda'r gwaith, dechreuais ddyfalu sut y gallwn i ei ffidlan hi i gadw fy ngwely.

Mae capten tîm rygbi tri-ar-ddeg Cymru, Iestyn Harries, wedi gorfod tynnu allan o gêm Sir Gaerhirfryn yn erbyn Sir Efrog heno.

Sut bynnag, pan ddaeth yr amser i symud yr oedd y Capten yn un o'r rhai a oedd i ddod gyda ni, ac wrth gwrs rhoesai ei fryd ar fynd â'r soffa gydag ef.

Dechreuodd Pakistan y dydd yn dda gyda Yousouf Youhana a'r capten Moin Khan yn ychwanegu 62 am y chweched wiced.

Yn ei galon, gwyddai Capten Timothy mai hwn oedd y cyfle olaf iddo fod gyda'i wraig a'i bum plentyn - naw mis oed oedd Jane, yr ieuengaf - a hynny am hir, hir amser; llythyrent â'i gilydd mor gyson â phosibl yn ôl y cyfleustra a hyd yn oed anfon ambell gerdd i'r naill a'r llall: May Guardian Angels their soft wings display And guide you safe thro' every dangerous way.

Dyna'r capten yn galw'r merched a'r plant i fynd i'r cychod .

Er cystal y cymeriadau, nid oes lawer o linyn cyswllt rhwng y penodau -- ond y berthynas ddigon anniddorol erbyn hyn rhwng Tom y Capten, ei wraig newydd, Wend., a'i gyn wraig, a'i ferch.

Gwaeddodd y capten a gwaeddodd rhai o'r morwyr.

Mae capten Morgannwg, Steve James, yn chwarae'i gem bencampwriaeth gyntaf y tymor hwn.

Mae'r gwaith o ddewis capten newydd ar fin dechrau.

Trefnwyd cyfarfod ar frys rhwng yr ynadon, Capten Burrows, cynrychiolwyr y Pwyllgor Streic, a swyddogion Cwmni'r Great Western.

Roedd Capten Lewis yn chwaraewr gwyddbwyll medrus anghyffredin, a byddai ef a Chapten fy nghatrawd i yn chwarae'i gilydd ambell dro.

Pan oedd Mam yn bedair ar bumtheg oed 'roedd yn gweini yn Olgra, Abersoch efo Mrs Capten Williams.

Crëwyd cryn argraff gan y tîm a oedd yn gyfrifol am Chwedlau Caergaint ac a enwebwyd am Oscar amdano gyda menter uchelgeisiol arall wedii hanimeiddio - ffilm o glasur Herman Melville, Moby Dick, gyda Rod Steiger fel Capten Ahab yn y fersiwn Saesneg.

Bu'n ddigon ffodus i gael teithio ar long y Capten Morfa Williams o Gaernarfon - un o Anghydffurfwyr selocaf y dref honno - a hwyliai o'r Traeth Mawr, a chael gofal caredig y Capten a'i briod gydol y siwrnai hir.

.' Oedodd y capten a syllu i'r môr a'i dduwch: 'Dyna un o'r petha cynta ddeudodd o wrtha i pan fuo ni'n yfed rhyw noson .