Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

carfan

carfan

Er gwaethaf ymdrechion carfan o eglwyswyr dylanwadol o dan arweiniad yr Aelod Seneddol, Benjamin Hall, (Llanofer ac Aber-carn), methodd yr Eglwys ymateb yn ddigon cyflym i ofynion y sefyllfa newydd a gododd yn sgil diwydiannu.

Mae carfan ddatblygu Cymru o fewn un gêm i adael Canada gyda record gant y cant ar ôl buddugoliaeth 32 - 17 dros Canada Ifanc yn Calgary neithiwr.

Adroddiad yn dangos fod carfan Drosgïaidd dan yr enw ' Militant Tendency' yn ceisio rheoli'r Blaid Lafur.

Ond mae carfan arall o blaid penodi pobl ar y ddealltwriaeth na ofynnir iddynt fyth ymddangos ar y sgrîn.

Mewn gwlad ddwyieithog fel Cymru, lle mae'n naturiol ac yn ofynnol i bawb ddysgu'r Saesneg sy'n fyd eang ei defnydd, mae'r rheidrwydd i ddysgu a defnyddio iaith carfan leiafrifol o'r boblogaeth ac iaith sydd wedi ei chyfyngu o ran defnydd i dir Cymru yn dibynnu ar wahanol gymhellion.

Llwyddodd carfan o arlunwyr i ddryllio cynlluniau yn ddiweddar i gynnal sioe deithiol i ddathlu ymwybyddiaeth o Gymreictod gan ei bod yn gweld y sioe yn fygythiad iddynt'.

Ond, fel yr awgrymwyd, 'roedd carfan o'r mudiad a oedd yn barod i ddilyn Newman yn hyn, ac yn tueddu i fynd ymhellach nag ef, hyd yn oed, gan haeru fod gan Eglwys Loegr gymaint i'w ddysgu oddi wrth Rufain ag oedd gan Rufain oddi wrth yr Anglicaniaid.

Mi fyddai'r grym yn dal yn styc ar y top ac mi fyddai'r trydydd o'r tair carfan yna enwais i yn gynharach yn dal i drïo dyfalu lle aethon ni'n rong.

Roedd rhaid cael y passes am fod yna sawl carfan yn Beirut a'n bod ni am ffilmio mewn sawl ardal wahanol.

Mae chwaraewr canol-cae Cymru, John Robinson, wedi methu ymuno yn sesiwn ymarfer carfan pêl-droed Cymru yn Yerevan y bore.

Mae carfan Y Llewod yn paratoi am eu hail gêm o'u taith yn Awstralia.

Bydd carfan Cymru ar gyfer y gemau nesaf yn cael ei chyhoeddi yn ystod y dydd.

Mae streic carfan rygbi Lloegr ar ben.

Ar ôl ennill y gêm gynta mae'r gwaith caled ar faes ymarfer Carfan Datblygu Cymru yn parhau ac yn dwysau.

Mae Morgannwg wedi enwi carfan o ddeuddeg ar gyfer eu gêm bencampwriaeth gynta fydd yn dechrau yn Northampton ddydd Gwener.

Methu troi meddiant yn bwyntiau am fod y chwaraewyr yn rhy hunanol oedd cwyn Geraint John o dîm hyfforddi carfan Cymru.

Mae troellwr Morgannwg Robert Croft wedi'i gynnwys mewn carfan o 13 ar gyfer prawf cynta Lloegr gyda Phacistan ddydd Iau.

Mae Hywel Jenkins, chwaraewr rheng ôl Abertawe, wedii ddanfon adre o daith carfan ddatblygu Cymru yng Nghanada ar ôl bod allan yn yfed y noson cyn i'r tîm guro Tîm Canada A, 67 - 10.

Pe digwyddai iddo ddigio carfan o'i braidd yna disgwylid iddo ymadael â'i eglwys a chwilio am fugeiliaeth arall.

Mae Ruddock, oedd gynt yn hyfforddi Abertawe wedi bod gyda Leinster ers tri thymor a wedi bod yn rhan o dîm hyfforddi carfan ryngwladol Iwerddon.

Mae carfan pêl-droed Cymru yn ymarfer yn La Manga yn Sbaen ond mae'r rheolwr Mark Hughes heb naw o'r garfan wnaeth e ddewis yn wreiddiol.

Wrth i'r frwydr i gael gwared ar yr unben, yr Arlywydd Mohammed Siad Barre, ledaenu drwy'r wlad, roedd carfan wedi troi'n erbyn carfan a llwythau wedi troi ar eu cymdogion, gan ddifa ffermydd, tir ffrwythlon prin ac, yn waeth fyth, cymunedau cyfan.

Yn hanesyddol ac yn gwbl ddigynsail, mae arweinwyr y tair carfan wleidyddol ar Gyngor Sir Gâr wedi uno trwy anfon llythyr ar y cyd at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn condemnio ein beirniadaeth ar Brad Roynon, prif weithredwr y cyngor, ac yn pledio am werthfawrogiad o bolisi iaith y Cyngor.

Daeth taith hynod lwyddiannus Carfan Ddatblygu Cymru i ben yn Canada nos Sadwrn gyda buddugoliaeth ardderchog arall.

Cofiwch fod gan y tair carfan yna resymau gwahanol dros alw am ddatganoli grym.

Drwy gydol y blynyddoedd hyn yr oedd sir Fynwy yng nghanol tanbeidrwydd y dadlau; a hynny, nid yn unig oherwydd maint y boblogaeth, ei symudolrwydd a'r broblem fawr o ddarparu addysg ar ei chyfer, ond hefyd oherwydd presenoldeb carfan gref o weinidogion amlwg a llafar iawn eu barn.

Yn hanesyddol ac yn gwbl ddigynsail, mae arweinwyr y dair carfan wleidyddol ar Gyngor Sir Gâr wedi uno trwy ddanfon llythyr ar y cyd at Gymdeithas yr Iaith yn condemnio ein beirniadaeth ar Brad Roynon (Prif Weithredwr y Cyngor), ac yn pledio am werthfawrogiad o bolisi iaith y Cyngor.

Mae cyn-seren y gêm rygbi 13, Ellery Hanley, yn ymuno â thîm hyfforddi carfan rygbi undeb Lloegr ar gyfer y paratoadau am y gemau yn erbyn Awstralia, Ariannin a De Affrica.

'Dim ond Caerdydd sydd wedi ennill lawr ar Y Gnoll y tymor hwn a mae carfan gref, ifanc 'da Castell Nedd.

Mae Carfan Datblygu Rygbi Cymru wedi cyrraedd adre ac yn ymlacio ar ôl taith lwyddiannus yn Canada.

Mae carfan Norwy wedi dechrau eu paratoadau yng Nghaerdydd ar gyfer y gêm brynhawn Sadwrn yn rownd ragbrofol Cwpan y Byd.

Carfan gref, chwaraewyr o safon.

Mae'n ymddangos fod carfan Cymru mewn gwell hwyliau na charfan Lloegr.

Ond wrth i Saddam anelu ei ddicter mwyaf at Israel, gellid disgwyl y byddai carfan helaeth o Balestiniaid rhwystredig yn edrych arno fel achubwr.

Fe fyddai hynny'n gwneud yn iawn i Gymru gan y bydd dros hanner carfan Iwerddon wedi chwarae gêm galed iawn yn rownd gyn-derfynol Cwpan Heineken Ewrop yn Ffrainc wythnos yng nghynt.