Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cariadus

cariadus

Yma mae niwl nychlyd yn gysgod, ond un sy'n glynu fel glud ar groen a dilledyn, ac yn chwyrlio yn chwil o dan y ffroenau cyn ysgubo dafnau cydrhwng gwefusau i ymosod yn ddireidus, fel cusan cariadus, ar y drefn sy'n gyfrifol am gwrs yr anadliad.

Ac eto, onid oedd Emyr, fel Carol, wedi gweld yn ddiweddar fel y gallai'r person mwyaf cariadus a ffyddlon droi ei gefn ar briodas hapus yn sydyn ac anesboniadwy?

Cyhoeddodd dri llyfr - y Llythur ir Cymru Cariadus, Gwaedd ynghymru yn wyneb pob cydwybod a Llyfr y Tri Aderyn (a defnyddio ei deitl poblogaidd), - a thrwyddynt arllwys ar wlad fach, na chawsai syniad gwreiddiol er pan genhedlodd John Penry, genlli o feddyliau dierth, a'r rhai hynny wedi eu cyflwyno mewn dull ac ieithwedd a oedd yn syfrdanol o newydd.

I orffen, hoffwn ymdrin â Llythur i'r Cymru Cariadus o safbwynt gramadegol.

Meddyliwch mewn difrif am wynebu ei waith cyhoeddedig cyntaf, sef rhybudd aruthrol (a rhuthrol) y Llythur ir Cymru Cariadus.