Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cariai

cariai

Os na ddewch chi i agor y blydi drws y funud hon, rydw i'n mynd i'w gicio fo i lawr!" Ar sūn y fath awdurdod, trodd Morfudd ar ei sawdl, a phrysuro cyn gynted ag y cariai ei chrydcymalau hi yn ôl at y drws.

Cariai ei gwpan gyda'i dun bwyd mewn bag, a châi ei llond o ddwr poeth o gwt injian y bonc lle y digwyddai fod yn gweithio, yna fe wagiai hanner llond tun oxo o de a siwgwr yn gymysg ar ben y dwr a gosod ei law yn dynn dros y gwpan a'i hysgwyd yn iawn, ac er i'r dail fod yn nofio ar yr wyneb fe âi'r cwbl i lawr--ond y rhai a lynnai wrth ei fwstas.

Yn ei law, cariai ffon eboni ddu ac arni batrymau cywrain mewn aur coch.

Yn ei law dde cariai bastwn byr gyda phelen bicellog yn hongian oddi wrtho ar gadwyn.

Saith mlwydd oed oedd yr unig ferch ddibriod yn y cwmni, creadures fach â llygaid duon, cudynnau o wallt gludiog, pigog, a'i thrwyn fel rheol heb ei sychu.Ac fel rheol cariai ar ei braich fachgen bach oedd yn ddigon pwysig i wisgo ffe\s coch tywyll.

Cariai un dyn gangen o Fedwen Arian wedi ei haddurno â rhubannau a chreiriau arian gloyw.

Cariai'r tad fwndel o ddillad carpiog, a phâr o goesau tenau a wellingtons yn ymwthio allan ohono.