Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

carlamu

carlamu

Ond bu rhaid iddo gyfaddef wrtho'i hun, yn anewyllysgar ddigon, fod golwg eithaf difater ar bawb - hyd yn oed y plant - a oedd yn y cerbyd hir, a'i galon ef yn carlamu gan gyffro eiddgar: a pharhau i guro'n gyflym a wnai pan gyrhaeddodd Paddington.

Byddai Morgan Llwyd yn pregethu ym Mhwllheli ar ddyddiau marchnad, a'i arfer oedd myned trwy'r farchnad a'i ddwy law ar ei gefn, a'i Feibl yn ei law; a byddai y bobl yn cilio o'i flaen, fel pe buasai gerbyd yn carlamu trwy'r heolydd.

Cysgu'n y llofft stabal oedd y gweision un noson ychydig wedyn, pan ddeffrowyd pawb ohonynt gan sūn ceffylau'n carlamu i'r iard, ac yna sūn ratchet brêc yn cael ei dynnu.

Aeth Hector heb ei ginio y diwrnod hwnnw er mwyn carlamu i'r banc a'r siec - a phrofi siom fod y clerc yno mor ddifater yn derbyn yr arian.

Sūn ceffylau'n carlamu'n wyllt, a ratchet y brêc yn cael ei dynnu.

Doedd dim yn well ganddo na dychwelyd i'w balas yn fwd o'i gorun i'w sawdl ar ôl bod yn carlamu ar draws y wlad drwy'r dydd.

Ers yr oes araf honno mae prisiau wedi carlamu; yn ystod y pum mlynedd diwethaf mae'r bunt wedi haneru mewn gwerth.

Mae dy geffyl yn hanner carlamu ar draws y wlad a chyrhaeddi Afon Cynnach ymhen dim.

'Fe glywa'i swn dyfroedd a llifogydd ofnadwy,' meddai hi, 'a swn peiriannau na welodd neb eu bath.' 'Pan fydda'i farw,' meddai hi dro arall, 'gofelwch raffu fy arch ar yr elor.' Ni chymerwyd sylw o'i chyngor ond ar ddydd ei hangladd fe ddychrynodd y ceffylau a dechrau carlamu a phan ddymchwelodd yr elor feirch fe syrthiodd arch Gwenno i lawr i ryw geunant.

Cyn pen eiliad, roedd Medrawd yn carlamu ymaith i ddu%wch y nos, fel pe bai grym ellyllon yn ei yrru.