Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

carped

carped

Mae carped sy'n adrodd darnau o'r stori ar lawr swyddfa'r cofrestrydd ac ni chaniateir i unrhyw un ganu unrhyw fath o gerddoriaeth yn y Bungelosenstrasse oherwydd ar hyd y stryd hon, yn ôl y chwedl, yr arweiniodd y Pibydd y plant cyn iddyn nhw ddiflannu.

Roedd popeth yn y ddau ddrâr yn ei ddreser yn gorwedd ar y llawr fel carped ychwanegol, ac roedd popeth wedi cael eu torri; ei gloc, ei lestri, ei deledu a'i radio.

"Mae yna waith i'w wneud." Dilynodd hi ar hyd y strydoedd culion, yn hanner rhedeg a hanner llithro hyd y carped gwyn.

Gyda'r goleuadau'n pefrio a'r carped trwchus, lliwgar, yn wir, roedd yn debycach i eglwys nag i gapel.

Y dyffryn rhyngof a bannau Calabria fel carped, a'r ffyrdd a'r pentrefi yn batrymau amryliw arno.

yn fflamgoch ac yn llachar felyn, ac o'r awyr fel carped bob lliw odditanom.

Prynwyd carped tew, o faint, a'i rowlio am yr hen wraig a'i rwymo ar y rac ar ben y car.

Gosodwyd carped i'r merched ac eisteddasant yn goesgroes arno, yr ochr draw i'r tân drain a phrysgwydd lle'r eisteddai'r dynion wrth eu bwyd.

Edrychodd Gwen arno'n cyrcydu'n esmwyth ar y carped hirflew, a golau fflam ffug y ta yn chwarae ar ei wyneb.

Rydym i gyd wedi cael y profiad rwy'n sicr o ddod o hyd i bob math o bethau bach colledig unwaith y codwn ymyl y carped gan edrych oddi tano; yn yr union fodd ag y medr y daearegwr edrych ar ryfeddodau'r creigiau oddi dan wyneb y tirlun llyfn.

Y rhyfeddod mwya oedd mai'r unig losgiade gês i oedd o dan 'y nhraed, lle'r oedd y saim wedi tasgu ar y carped.

Erbyn iddynt gyrraedd y man ddiarffordd, fodd bynnag, doedd y car na'r carped na'r hen fodryb ddim yno.

Cydies yn y sosban, a honno'n poeri saim dros y carped a'r llawr, a'i thaflu allan drwy ddrws y cefn; yna rhwygo'r llenni oddi ar y ffenest, a'u stwffio o dan y tap dwr.

CYFLWYNWYD adroddiad y Swyddog Adeiladau ar gais y tenant am gyfraniad gan y Cyngor tuag at gost difrod a achoswyd i'r carped a phapur ar y wal o ganlyniad i ddŵr redeg i'r tŷ o dan y drws.

Fe ddisgynna'r holl fes o fewn ychydig wyth- nosau i'w gilydd i ffurfio carped trwchus ar y llawr.

Dim pigau pin yn sownd yn y carped tan fis Mai; dim rhochian blynyddol Modryb Matilda ar ôl joch o port; dim crensian papur lapio'n slei bach i deimlo'r anrheg; dim anghofio codi am chwech y bore i roi'r twrci yn y popty; dim Ryan yn canu "Ai hyn yw'r Nadolig pwy a žyr?" ar bob yn ail raglen radio; dim chwilota mewn hen gist am goron Caspar neu am ddoli go lân i orwedd yn y preseb; dim 'Dolig!

O flaen y lle tan yr oedd carped ddaru Anti wneud ei hunan a phwyth croes.