Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

carwriaeth

carwriaeth

O dipyn i beth datblygodd carwriaeth rhyngddo ef a Mary, a phan godai Ali'n fore i weithio shifft gynnar, nid yn anaml neidiai Fred o un gwely i'r llall i'w gadw'n gynnes, fel petai!

Roedd yn ŵr golygus iawn a dechreuodd carwriaeth rhyngddynt a barodd dipyn o helynt.

Wedi carwriaeth fer priododd y ddau yn 1991 a dwy flynedd yn ddiweddarach ganwyd efeilliaid iddyn nhw - John a Sioned.

Roedd yn ūr golygus iawn a dechreuodd carwriaeth rhyngddynt a barodd dipyn o helynt.

Hanes carwriaeth sydd yma ond carwriaeth sy'n llawn poen a chreulondeb a'r hanes wedi'i adrodd gan awdures brofiadol, Shoned Wyn Jones.

I mi, merch yw'r un a gyferchir yn y penillion ac ol-athronyddu methiant carwriaeth yw'r cynnwys, sef ceisio dadansoddi'r gyfathrach agosaf a mwyaf personol a all ddigwydd rhwng mab a merch.

Mis pwysig i ieuenctid oedd Chwefror oherwydd tua'i ganol disgwylid ffolant; os na ddigwyddai hynny, diflas fyddai ar y person hwnnw o safbwynt carwriaeth tan Galangaeaf.

Ers bod yng Nghwmderi mae Rhian wedi cael sawl carwriaeth - er mawr siom i Reg bu'n gweld Steffan ac yna Gavin.