Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

casgenni

casgenni

Gollyngwyd tri cwch bychan ac fe ddodwyd casgenni ynddynt.

Ond buan iawn y canfyddwyd y llwybr gwreiddiol, ond roedd gwthio'r casgenni ar ei hyd yn llawer caletach gorchwyl nag oedd hi ar hyd y llwybr arall.

Ni ddychwelwyd ar hyd yr un llwybr yn union â'r un a ddaeth â hwy i'r pentre'n y lle cynta, ond yn hytrach, canfyddwyd llwybyr lletach lle roedd hi'n haws rowlio'r casgenni.

Roedd y morwyr a rowliai'r casgenni'n anadlu fel ceffylau gwedd pan ddaeth y pentre a'r hofeldai gwyngalchog i'r golwg drachefn.

Cyrhaeddwyd y lan yn hwylus ac fe gludiwyd y casgenni'n llafurus trwy'r wîg hyd nes y daeth pentref di-nod - rhyw lond dwrn o hofeldai ac eglwys i'r golwg.

Trôdd pawb ar eu sodlau a cherdded i fyny'r llwybr llydan dan rowlio'r casgenni.