Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

casiaid

casiaid

Ac mae'r wyau toredig a pherfedd ceiliogod yn siarad rhwng y meini ac o dan y cromlechi am genedlaethau diflanedig sydd yno o hyd yn llygaid ac yn llafar y Casiaid.

Maen nhw'n ymfalchi%o yn y ffaith nad o'r Sanscrit y daeth eu hiaith nhw; mae tafod y Casiaid yn perthyn yn agos iawn i eiddo'r Khmer yn ne-ddwyrain Asia.

Mae'r Casiaid yn mynnu nad Indiaid mohonynt, ac mae edrych arnynt yn ddigon i gadarnhau hynny.

Gadawodd y cenhadon eu hôl yn ddigamsyniol ar y Casiaid, ac mae olion eu heefengylu brwd i'w canfod o hyd yn yr eglwysi, yr ysgolion, a'r ysbytai, heb sôn am barlyrau lle cenir 'Mae gen'i dipyn o dž bach twt' a lle bwyteir bara brith ac yfed te o lestri sabothol yr olwg.

Gan fod y llywodraeth ganolog yn Delhi Newydd mor bell oddi wrthynt ac mor esgeulus ohonynt mae llawero'r casiaid ifainc yn cefnogi'r mudiad sy'n hawlio anibyniaeth wleidyddol i'w pobol - pobol sy'n ymwybodol iawn o'u tras a'u traddodiadau hynafol.