Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

castiau

castiau

A minnau'n meddwl fy mod i uwchlaw castiau dosbarth canol o'r fath, cefais fy hun un p'nawn ar Faes y Brifwyl, yn gwthio merched parchus mewn cotiau plastig yn ddi-seremoni o'm ffordd er mwyn i mi gyrraedd yn gyntaf at y cardiau 'Dolig yn un o'r pebyll elusennol.

Cawn ddeunydd sylweddol ynghylch castiau Robin a'i ymdrechion i ddifwyno cymeriad Margaret.

Wedyn 'fyddai dim taw ar ei chwerthin a'i weiddi a'i frolio am y castiau roedd o wedi eu chwarae ar y ffarmwr hwn a'r ffarmwr acw o fan yma i Groesoswallt ac ymhellach.

Rhaid i'r goeden daro yn ôl yn erbyn y llygod a'u castiau drwg.