Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cath

cath

Dyna beth oedd y pysgodyn yna'n dda, i ddenu cath i mewn i'r trap !

'Dyma ni!' meddai Mini ymhen rhai eiliadau, gan gadw ei bys esgyrnog ar y gair 'cath'.

Mi fwytith cath rywbeth (bron!).

Am to swear like a trooper cawn, yn gwbl gymeradwy, rhegi fel cath, paun, melin, tincer a cwrcyn ond nid rhegi fel llongwr na nafi.

'Tynnu cynffon cath, eich mawrhydi,' oedd ateb Delwyn.

Prin le i grogi cath." A minnau'n syth yn meddwl am Negro'n disgwyl am ei ginio, a lwmp yn codi yn fy llwnc i.

'...fel Brenhines y Cathod, deiliad i chi yw pob cath - felly, mae tynnu cynffon cath yn drosedd fawr iawn.

'Rydw i'n deall dy fod ti eisiau ymuno â'r giang?' 'Ydw.' 'Be 'di dy enw di?' 'Dei.' 'Dy enw llawn di?' 'David William Lewis.' Ac yna rhag i Bilo sylwi ar lythrennau cyntaf ei enw, ychwanegodd yn sydyn: 'Dei neith.' Cythrodd Bilo'n sydyn i wddw'r bachgen a'i ysgwyd fel cath yn ysgwyd llygoden.

Nawr, y peth cyntaf yw paratoi swyn ar gyfer tyfu cynffon cath.

Ymgais yw'r gair i ddynwared y sŵn a wna'r adar hyn ac ystyr bwncath yw 'aderyn sy'n gwneud sŵn fel cath'.

gyda'r anifeiliaid, yn cysgu dan balfau cath uffern, yn chwennych y rhosyn, heb fynnu dyfod i'r ardd i'w gyrchu'.

meddwn, yn gwenu fel cath, dim ond am dy fod ti ar y ffordd yn ôl a minnau heb gyrraedd."

Rhedodd y tair cath mâs drwy'r drws - byth i ddychwelyd - pan glywsant lais y Sais dieithr o Daventry!

Talfan ar y blaen yn poeri fel cath, a'i fintai filwriaethus yn nyddu o'i gwmpas fel newyddiadurwyr o gwmpas eilun pop.

Y funud honno cyrhaeddodd Fford Escort gwyrdd gola yr iard yn ara deg fel car cnebrwng ac wedi ei fwytho fel cath.

Ond, er gwell neu er gwaeth, ychydig iawn o dosturi a geir ym myd natur ac fe ŵyr y fam hynny gystal â neb; ymhen ychydig ddyddiau bydd yn chwalu'r tylwyth gan gario'r lefrod bychain i walau eraill yma ac acw, fel y bydd cath yn cario'i hepil yn ei cheg.

'Chwilio am swyn ar gyfer tyfu cynffon cath yw'ch gwaith chi, wrachod, nid rhoi gwers natur i ni!' 'Begio'ch pardwn, begio'ch pardwn,' murmurpdd y ddwy gan droi'n ôl at eu llyfr swynion.