Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cawodydd

cawodydd

Bydd hyn yn cadw'r ffrwyth rhag cael ei faeddu gan bridd ar ôl cawodydd o law.

Dywedir bod un ardal yng ngogledd Ethiopia wedi cael rhai o'r cawodydd trymaf erioed yn dilyn ymweliad gan newyddiadurwyr o Norwy.

Pranciodd y llong fel march piwus, llamsachus trwy'r cawodydd o ewyn hallt nes gyrru'r teithwyr ansicr i lawr i noddfa'r salŵn.

Roeddem ar drothwy tymor y glaw, pan fydd llwythau'r wlad yn cynnal defodau i ddenu'r cawodydd a fydd yn rhoi cynhaeaf da.

Cawsom gawod neu ddwy go drom o eira ar ôl te ac mae wedi rhewi yn galed dan draed, a phan beidiodd y cawodydd yr oedd yr awyr yn glir ac yn oer.