Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cawr

cawr

Amheuthun o beth oedd cael gwên ar wyneb y cawr.

'Rŵan,' gollyngodd y cawr ei afael ynddo, 'cymer di'r rhaw fach yna a gad i mi dy weld yn turio am y trysor.

Trodd a gweld y cawr chwe throedfedd a'r graith ar ei wyneb yn gwenu'n hyll arno.

Dowdle, y giard rheilffordd a gafodd droedigaeth oedd y cawr hwn o bregethwr.

'Ie, rwy'n cyfadde hynny,' meddai'r wraig yn ystrywgar, 'ond wyddwn i ddim am y cawr bryd hynny.

Ardal gwasgarog ydy Bol y Mynydd a'r ffermdai a'r tydynnod wedi eu hau yn blith draphlith dros wyneb y rhostir ac, yn ôl un hen goel, y cawr Odo sy'n gyfrifol am y blerwch Un pnawn mwll cyrcydai Odo ar ysgwydd Mynydd yr Ystum yn ddrwg ei hwyl, a hynny am fod ganddo gorn ar fawd ei droed chwith, a hwnnw'n pigo.

Syrthiodd y cawr yn llipa ar wastad ei gefn a'r twrw yn ysgwyd y ddaear gyfan fel daeargryn mawr.

Fe hedfanaf i uwchben y cawr a'i gludo'n saff i ti i'r ochr draw.'

Syrthiodd Gwgon i gwsg trwm o'r diwedd ym mreichiau'r cawr gan chwyrnu cysgu fel ci bach boddhaus.

Mae'r beriniaid hefyd wedi nodi fod yn y chwedl asiad o ddwy thema, sef yr un gyfarwydd am Ferch y Cawr, a geir yn Iwerddon, er enghraifft, a'r un fyd-eang am y Llysfam Eiddigeddus.

Dal ei dir a wnai'r cawr ond gyda'i wen yn crebachu'n gyflym.

Deallodd Idris ei chynllun i'r dim - taflodd y bêl â'i holl nerth a'i hanelu'n union at lygad y cawr.

Storïau am saith cawr o wahanol rannau o Gymru.

Daliai'r cawr i sefyll yno gan ddal un llaw yn y llall fel blwch casgliad.

Y funud y gwelodd Idris, dyma'r cawr ar ei draed, yn rhuo fel tarw, yn chwifio'r ordd uwch ei ben, a'i lygaid yn melltennu.

Y noson honno cafodd Gwaethfoed a Morfudd lety gyda chawr o'r enw Carwed Feudwy wrth odre Rhiw Garwedd ond pan geisiodd y cawr lofruddio'r ddau yn eu cwsg fe laddodd Gwaethfoed hwnnw hefyd.

Cawr oedd ei enw ac roedd o'n warchodwr heb ei ail.

A sawl gwaith yn y ffilm dywedir wrthym - rhag ofn na wnaethon ni ddeall y tro cyntaf - mai'r hyn a wnaeth y Siapaneaid wrth fomio Pearl Harbour oedd deffro cawr cwsg y byddai ei ddialedd yn awr yn erchyll.

Gwelir yr elfennau sy'n tarddu o hanes, a'r rhai onomastig, ond y mae'r rhan fwyaf yn nodi problemau ynglŷn â'r gwaith am fod yr arwr tybiedig, Culhwch, yn cadw ar gyrion y stori, gan adael cyflwyno'r tasgau arwrol i Arthur, a bod hwnnw yn ei dro 'dan law' y cawr ynfyd Ysbaddaden Bencawr.

Twt twtiodd y cawr cyn clepian y drws arno.

Gan fod hen draddodiadau yw'n cysylltu mwy nag un cawr â'r Hengae mae'n bosibl iawn mai yno y trigai Carwed ac mae Rhiw Garwed oedd hen enw'r llechwedd rhwng Bwlch y Clawdd Du a'r Hengae.

'ONd os daw'r cawr ar dy draws di, dyna ddiwedd arnat ti!' 'Ond chi ddwedodd wrtha i am beidio byth â rhoi'r afal i neb - ddim hyd yn oed i chi eich hunan,' amddiffynnodd Idris ei safiad.

Roedd dros ei chwe throedfedd, cawr mawr du ei wallt a thrwm ei olygon.

Ond heibio i'r tro nesa mae cawr anferth yn byw, a chei di ddim mynd heibio hyd nes iddo dy chwilio drosot i gyd.

Yna, arweinidod y cawr ef i'r lifft heb yngan yr un gair ac o hwnnw, gyda thraed Willie yn suddo yn y gwely plu o garped, i'w ystafell.

Mae caredig ferched Jeriwsalem yn arfer paratoi'r diod hwn a'i roi yn hael i'r rhai sy'n mynd i'w tranc." A synhwyrodd rhywrai o wragedd Bwlchderwin felly fod y cawr wedi rhoi un dan y belt i'r corrach?

Yn St-Suliac, mae stori mai dant rhyw hen gawr yw un o'r meini hirion yno poerodd y cawr y dant o'i geg gyda'r fath nerth nes iddo blannu i mewn i'r ddaear.

Ac yma, wedi mynd heibio i'r tro, y daeth wyneb yn wyneb â'r cawr - cawr enfawr yn eistedd ym môn y clawdd.

Williams, y cawr o ail-rengwr a fu'n gapten ar Gymru ac yn chware i'r Llewod, a Howard 'Ash' Davies, cyn rengwr-blaen y Clwb a fu'n gyfrifol am ddatblygiad Delme Thomas pan oedd Howard yn athro arno yng Nghaerfyrddin.