Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

caws

caws

Ers dau neu dri o berfformiadau bellach rwyf wedi cael rhyw hen deimlad annifyr ym mêr fy esgyrn fod cwmni Bara Caws wedi chwythu'u plwc.

"Ble'r aeth eira llynedd?" fydd Mam yn ei ddweud pan fydd y gacen siocled wedi diflannu i gyd a neb yn gwybod i ble!' 'Ie,' torrodd Delwyn ar fy nhraws a "Caws o fola ci% fydd hi'n ei ddweud pan ofynna i iddi am arian i brynu hufen iâ, ac addo'i thalu'n ôl yr wythnos wedyn.'

Brechdana' caws oedd gynnon ni'n tri, ac mi oedd Mrs Robaits wedi gneud rhai jam ac mi gawsom ni dipyn o'r rheini hefyd, a thamaid o'r deisan gymysg.

Lle'r oedd Arabrab, a oedd yn wraig normal ei harchwaeth, er gwaethaf ei hanfanteision, mor hoff o wynwyn a'r Brenin a'i deulu, doedd dda gan Ynot wnionyn o fath yn y byd, mewn llymed nac mewn llwy, mewn cawl nag mewn caws nac, mewn diod na dim.

Ac wedi cyfaddef bod agendor rhwng delfryd ac ymddygiad yn fy arferion bwyta, megis mewn llawer o bethau eraill, rhaid imi ganmol y bacwn a'r wy a gawsom i frecwast bob bore cyn cychwyn ar y daith, a'r bara toddion bras nad yw dietegwyr heddiw yn ei gymeradwyo, y brechdanau ham, a'r caws, a'r tomatos a'r afalau a baciwyd beunydd ar ein cyfer.

Deud wrthi mai trwsgwl oeddan ni tro dwytha, trwsgwl a blêr, glaw ifanc oeddwn i, yn goesau i gyd fel ebol newydd, doeddwn i heb arfer wrth bwrdd - cofia ddeud wrthi bod yn ddrwg gen i am y llestri - a beth bynnag, chdi oedd y drwg yn y caws go iawn, chdi ddaru droi'r byrddau a chwalu'r lluniau a chwythu'r tân i fyny'r simdde.

Roedd pawb o'r farn mai Brad Roynon oedd y drwg yn y caws ac mai ei benodiad ef fel prif weithredwr oedd dechrau'r gofidiau yn Sir Gaerfyrddin.

Digon yw dweud i Theatr Bara Caws gael gafael ar ddrama arbennig gan Twm Miall, ac i'r cynhyrchiad a'r actio fod yn gyfwerth â hi.

Ond, ac yntau'n un o dras amaethyddol ac, o ran anian, yn gredwr mewn datblygiad a chynnydd, mae ei adroddiadau hefyd yn taflu goleuni ar America'r wlad fawr, flaengar, gyda'i diwydiannau cotwm ac olew, ei ffatri%oedd caws a'i bwydydd anghyfarwydd; roedd hefyd yn anelu at roi gwybod i'r Cymry gartre' am fywyd eu cyd-wladwyr a ymfudodd tros yr Iwerydd.

Fo oedd y drwg yn y caws yn ddieithriad a'r cysgod cyson ar fy mywyd yn y cyfnod ifanc hwnnw yn nechrau ein hail flwyddyn yn yr ysgol uwchradd.

Roedd gen i fy amheuon fod Bara Caws yn ceisio cael cynhyrchiad yn rhy aml ac felly'n dihysbyddu'r pwll bychan o ddramodwyr sydd gennym.

Dogn caws yn cael ei dorri i 1 owns yr wythnos.

Siarad ar eu Cyfer (Theatr Bara Caws) Sgript: Twm Miall; Cyfarwyddwr: John Glyn

Ac fe ddwyseid y tristwch oherwydd imi fod, ar un adeg, yn un o brif edmygwyr Bara Caws.

Caws llyffant yn brin ym Medi - mae'r gaeaf ar ei ffordd.

Hufenfa De Arfon - SCC Wales - Mae Hufenfa De Arfon wedi bod yn cynyrchu caws yn Chwilog, Pen Llyn ers 1938.

Yn y tŷ rhaid oedd pobi bara, gwneud caws a menyn, coginio'r prydau bwyd, nyddu a gwau, golchi a thrwsio dillad yn ogystal â gofalu am y plant.

Ond yr oedd drwg yn y caws.

Byddai wedi bod yn braf cael cipolwg ar eira llynedd, ond rwy'n falch na welais i'r caws o fola ci!

Dro arall, fel yn 'Eryri o Fangor', mae'r cymylau caws llyffant anferth yn gwneud i'r mynyddoedd edrych yn fychan.

Dewiswch gaws calori-isel fel caws tyddyn, Edam a Camembert yn hytrach na chaws calori-uchel fel Cheddar, Stilton ac ati.