Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cawsai

cawsai

Yno cawsai weld mewn llawysgrif destun crefyddol hynod ddiddorol a elwid 'Y Beibl yn Gymraeg'.

Yn dilyn y gwaharddiad nid oedd ond mater o amser hyd nes y byddai'r Weinyddiaeth Amaeth a'r Swyddfa Gymreig yn gwneud profion, ac o ganlyniad i'r sibrydionnid oedd ond mater o amser hyd nes y cawsai rhywun ei ddal.

Cawsai fore wrth ei fodd a dod o hyd i hen ffrindiau a welsai'n dda wedyn i'w hebrwng i'r fan honno, hanner y ffordd tua thre.

Cawsai gweithiau gŵyr fel Luther a Melanchthon lwyddiant ysgubol yno.

Cawsai ei addysg yn Eton a Choleg Eglwys Crist, a bargyfreithiwr ydoedd wrth ei alwedigaeth.

Erbyn hyn cawsai Mr Williams air gan y met yn dweud y byddai lle imi, ac addawodd yntau yrru teligram o'r Barri wedi iddo fynd yn ol.

Cawsai llythyr Hannah ei effaith, ond roedd yn siom hefyd.

oedd fy ngwestiwn i ar y pryd, ond cyn pen saith munud o'r dechrau, cawsai'r Cochion eu cais cyntaf, a chefais yr ateb i'm cwestiwn ar un pryd.

Cawsai ei chyfle.

Cawsai Tomos yntau olwg gefn-dydd-golau ar y ci'n ddiweddar, ac yna'n fuan roedd wedi canfod ei olygon cul a choch yn deifio'r nos.

Cawsai ei danio gan ymweliad Sadhu Sundar Singh i gymryd y cam yma.

Byddwn yn treulio llawer o amser yn nhy fy nain.Dywedodd hi rywbeth syfrdanol wrthyf flynyddoedd ynghynt wrth fy nghymell i fwyta 'Bwyta di ddigon y ngwas i' meddai 'i ti gael cefn cry; fydd dy dad ddim yn fyw yn hir iawn eto, ac mi fydd yn rhaid iti helpu dy fam' Cawsai fy Nhad lwch ar ei frest ac 'roedd yn ddifrifol o fyglyd.

Pe cawsai Bedwyr fyw, buasai yn awr yn cydarwain tîm o weithwyr o dan nawdd y Bwrdd Gwybodau Celtaidd i lunio cyfres o eiriaduron ar enwau llefydd Cymru, tasg y mae hen angen ei chyflawni.

Yr oedd Pont Myrddin ('Merlin's Bridge') yn agos i'r lle y cawsai fy mam ei geni yng nghyffiniau Hwlffordd yn neau Sir Benfro.

Yn ei araith groeso ar ôl cinio ganol dydd y diwrnod cyntaf, dywedodd y Maer na wyddai'n iawn beth oedd amcanion y mudiad yr oedd yn ei groesawu, ond ei fod yn credu y byddai'r mudiad yn gwneud gwasanaeth mawr i Gymru pe gallai beri i'r byd alw Brythons arnom yn lle Welsh: cawsai ef brofiad chwerw mewn busnes am fod yr un gair Saesneg yn enw ar y Cymry ac yn ferf a oedd yn golygu twyllo.

Cawsai ei lle o bryd i'w gilydd yng ngherddi'r prifeirdd, mae'n wir, ond roedd cael ei dyrchafu i gategori'r testunau deugain punt yn brofiad newydd iddi.