Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cawsom

cawsom

Mynd yno, ac er nad oedd neb yn ein disgwyl nac yn gwybod dim oll amdanom, cawsom gyngor gan gapten i osod ein pabell gyda hwy, fel petaem yn ddau westai yn cael eu croesawu gan wr ty caredig, na wyddai am eu bodolaeth cyn hynny, i fwrw noson dan ei gronglwyd.

Er mai edrych ymlaen at arddangos trin gwallt yr oedd yr aelodau, cawsom gystal gwledd a llond gwlad o ddifyrrwch.

Pa fodd bynag cawsom addysg Feiblaidd ac Ysgol Sul'.

Cawsom gymeradwyaeth dda ac roedd pawb yn fodlon.

Cawsom ginio yn Amlwch ac wrth gychwyn oddi yno am Gaergybi gwelsom un o longau cwmni y Blue Funnel yn hwylio'n weddol agos i'r arfordir, ac 'roedd gwledd arall yn ein haros yng Nghaergybi, sef cael mynd ar fwrdd y llong Cambria.

Wedyn cawsom gip ar waith y Body Shop gyda Lisa Davies, ac yna ar ôl cinio Theatr Gorllewin Morgannwg yn cyflwyno hanes y diwydiant cocos ym Mhenclawdd.

Cawsom lawer o gyrddau arbennig, a chymanfaoedd, drwy'r Dyffryn.

Cawsom berfformiad da y tro hwn hefyd, er i'r cantorion gael eu tarfu yn yr act gyntaf drwy i'r golau trydan ddiffodd ddwy neu dair gwaith, a'u gorfodi hwy a'r gerddorfa i roi'r gorau iddi.

Cawsom gynnwrf rowndiau cyn-derfynol a therfynol y gystadleuaeth Choir of the Year yn ystod penwythnos yr Wöyl.

Cawsom y ffisig, rhoddasom ef fesul tropyn yn ôl y gorchymyn ac ymhen yr wythnos daeth newid ynddi.

Cawsom hyd i'r tŷ aros mewn lle prydferth wrth odre rhaeadr anferth gyda golygfa odidog ar draws Karamoja.

Gyda channoedd o rai eraill, cawsom ein hunain ar drên arall.

Cawsom enghreifftiau'n ddiweddar o rieni'n mynd i drafferth a chost i sicrhau na fyddai eu plant hyd yn oed yn clywed Cymraeg ac yn eu symud o ysgolion lle'r oedd "gormod o Gymraeg".

Ar y grib nefolaidd cawsom hufen iâ, gwin a gwledd o olygfa i lawr dros y pîn i'r smotiau tai a'r twr eglwys a oedd fel rhithlun yn nhes haul y dyffryn.

Yn y rhaglen Simon Rattle - Moving On cawsom hanes yr arweinydd a chafodd y rhaglen ddogfen ar John Cale, un o sylfaenwyr y grwöp pop Velvet Underground, ganomoliaeth frwd gan y wasg.

Cawsom beint y tu allan i Cill Dara, ac un arall a chinio ym Mhort Laoise, ac fe stopiodd am y trydydd tro rhyw filltir neu ddwy y tu allan i Luimneach am ei fod angen, meddai ef, "To be ready in my mind to go through the traffic in the city." Ffarweliais ag ef yn y dref gan nad oedd o ddim yn mynd i gyfeiriad yr orsaf, ac fe gredwn nad oedd yn bell i gerdded yno beth bynnag.

Ar ôl y brecwast Tsineaidd cyntaf, cawsom ein tywys o gwmpas y ddinas.

Cawsom sgwrs dda - a thra yr aeth Randall i nôl peint i Syd Aaron cefais ddeng munud i sgwrsio gyda'r hen wariwr hwnnw.

Bu'n rhaid i ni gyfnewid swm penodol o arian am bob diwrnod yr oeddem yn bwriadu aros yno , ond 'roedd y gyfradd newid yn afresymol o uchel (Dyma ran o ffordd y Comiwnyddion o gael arian o'r Gorllewin i mewn i'r wlad.) Wedi cyfnod go faith, cawsom fynd ar ein ffordd.

Cawsom gwpanaid o de a chyfle i ymweld a'r crochendy a'r ganolfan grefftau coed yn Sarn.

Siomedig oedd ymateb Ysgrifennydd y Cynulliad i'n argymhellion (ystyriai arweiniad o'r canol fel ymyrraeth ym musnes yr awdurdod addysg lleol) er y cawsom addewid y byddai'n eu trafod gyda swyddogion Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ynghyd ag addewid o gyfarfodydd pellach yn y dyfodol.

Cawsom wybod mai rhaglenni hanner awr fyddai'n rhaid eu perfformio ar lwyfannau ar hyd a lled yr ynys a golygai hyn drefnu gofalus i geiso arddangos ein traddodiad ar ei orau o ran safon y dawnsio, cerddoriaeth a gwisg.

Amser cinio cyn y gêm yn erbyn Lloegr cawsom y bregeth fwya tanllyd y gallech ddychmygu ganddo.

Cawsom ganddo dipyn o hanes ei ficer parchus, y Parchedig Oliver Evans, gŵr yr oeddwn yn gyd-fyfyriwr ag ef yng Ngholeg Llambed.

Cawsom ddarlun gwerthfawr o'i rieni gan yr Athro David Williams.

Yn ystod y cyfnod dan sylw cawsom ganddynt bortreadu cofiadwy o gyfnodau amrywiol o'r bedwaredd ganrif ymlaen.

Un diwrnod fe'n cawsom ein hunain yn barti gwaith o ddau; dim ond ni ein dau.

Felly, yn unol â hen draddodiad, cawsom ninnau ein gwala a llond gwlad o grempogau i de heddiw.

Am chwarter i chwech yn y bore cawsom orchymyn i godi, a dywedwyd wrthym y caem awr i grwydro'r dref.

Cawsom ein cinio ar yr ochr draw, cyn i'r haul ddiflannu tu cefn i Lliwedd ac i'r oerfel ddechrau gwasgu.

Wedi i ni basio swyddfa dollau'r Almaen yn ddi-rwystr, cawsom ein hunain yn gyrru rhyw hanner milltir hyd nes cyrraedd swyddfa'r ochr Gomiwnyddol.

Cawsom gyfle i gyfarfod aelodau o glybiau eraill.

Cawsom ychydig o gyfle felly i fwynhau golygfeydd hardd, o dan heulwen cynnes Bohemia.

Ar drothwy ei ben-blwydd yn ddeunaw oed ddydd Sul cawsom flas o'r hyn sydd i ddod iddo ef - ac i ninnau.

Cawsom ein digoni, nid yn unig o fara a chaws, ond hefyd gyda hwyl y cymdeithasu.

Cawsom ar ddeall fod Mrs Thatcher yn bwriadu dod i'r achlysur.

Cawsom ddarlithwyr, hyfforddwyr gwych yng ngwahanol adrannau byd amaeth ac y mae llawer brawddeg a chyngor yn canu yn y cof o hyd.

Cawsom bob un bastwn, chwisl a chadwyn, allweddi, ynghyd â llawlyfr rheolau a gorchmynion.

Newid yn Naples, lle cawsom ddigon o amser i nôl bwyd o'r Plas.

Ond er mawr ofid a thristwch i ni cawsom y ddedfryd ofnadwy nad oedd gwella iddi.

Cawsom fwy o eira cyn nos ac yr oedd gþr y tywydd yn darogan mwy eto yfory.

Wedi inni fod yn gweithio yn y chwarel am ryw bythefnos, cawsom orchymyn i ymweld â meddyg am archwiliad, ond nid ein meddyg ein hunain.

Cawsom afael ar hen biano, a chan fod un neu ddau o'r carcharorion yn gerddorion, ac wedi llwyddo i ddal gafael yn eu hofferynnau, yr oedd gennym eithaf cerddorfa.

Cawsom ymateb da gan ysgolion cynradd, ac roedd mwy nag un o'r safleoedd yn deilwng o'r wobr.

Teg er hynny yw nodi y cawsom un bonws gwerthfawr iawn sef genethod y 'Land Army'.

O'r funud gyntaf, cawsom ein swyno gan y lle - y pentref glân ar droed y mynydd enfawr, y tai a'u bocsus blodau lliwgar, cwrteisi'r bobl, a hwyl ein cyd-deithwyr yng Ngwesty Montana.

Cawsom ni anrheg ac yr anrheg oedd pren mesur a cawsom ni afael ar Wilbi.

Ar ôl cinio rhaid oedd bod yn ofalus rhag smygu yng ngŵydd 'Gwep Babi', a rhoi achos iddo ofyn o ble y cawsom hwy.

Yn yr act gyntaf, cawsom gipolwg sydyn ar bersonoliaeth a bywyd bregus ac ansicr Anna wrth iddi lowcio'r gin a galw ei chwaer yn bopeth o "bitch" i'r "hen ast".

Cawsom sgwrs gyda gŵr lleol oedd yn rhedeg trol a cheffyl ac yn cario ymwelwyr i fyny'r mynydd caregog oedd gerllaw.

Bore wedyn, wrth godi, cawsom y newydd fod Anti wedi marw'n sydyn y noson cynt.

Dowch i ista fan'ma, i ni gael sgwrs, tra bydd yr actorion yn cael eu traed danyn'." Cawsom ddwy gadair esmwyth yn ddigon pell o'r llwyfan, ond dal i sibrwd a wnaethom.

Cawsom fwy o eira yn ystod y nos ac yr oedd haenen go dda ohono dros bobman erbyn y bore a brigau'r coed yn edrych yn flinedig dan bwysau'r gwymon gwyn.

Cawsom ein hatgoffa am yr ail dro yn Eisteddfod Bro Madog am ein dyled i'r gorffennol.

Cawsom gymorth yr unawdwyr canlynol o Goleg Cerdd a Drama Caerdydd: Justine Platts, Kate Walker, Wendy Crossland a Richard Evans.

Y tro cyntaf cawsom gopi o agenda'r cwrdd gan gyfaill Gwyddelig o gynghorwr a chael gwybod trwy hynny pa bryd y codai cwestiwn Tryweryn, er mwyn inni gael codi yr un pryd.

Er hynny, wrth ymdrin â gweithiau fel nofelau Daniel Owen a Charadog Prichard, a cherddi megis 'Atgof' Prosser Rhys, yn unig y cawsom ddirnadaethau seiciatreg yn cael eu cyfaddasu at feirniadaeth lenyddol Gymraeg.

Cawsom gawod neu ddwy go drom o eira ar ôl te ac mae wedi rhewi yn galed dan draed, a phan beidiodd y cawodydd yr oedd yr awyr yn glir ac yn oer.

Cawsom ginio ardderchog er gwaethaf y prinder a daeth un o arbenigwyr yr ysbyty, Mr OV Jones, i dorri'r twrci ymhob ward.

Drwy hyn, a'r trip i Goleg y Bala, cawsom ein harwain yn raddol at ddeall pam ein bod yma heddiw.

Cawsom oriau bwygilydd o bleser hefyd wrth bysgota llysywod yn afon Soch a brithyll bychain yn afon y Felin a lifai o lyn y gwaith dwr.

Ar ôl y gêm cawsom wahoddiad i fynd i dafarn gyda bechgyn Leeds.

Cawsom gyfle i roi apêl gerbron y Swyddfa Gymreig ac yn wir fe ysgrifennodd llawer rhiant at y swyddfa honno.

Cawsom groeso cynnes iawn am ddim ond sefyll ar y llwyfan.

Cawsom arwydd i ddechrau canu ein carolau, amneidiodd hithau ar i'r gyriedydd ddod ati estyn cawell mawr.