Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cefais

cefais

Cefais lonydd i gilio i'r coridor tywyll wrth ymyl y gegin, i atal y ffrwd o'm trwyn ac i lyfu 'nghlwyfau.

Ar y daith hon ar y llong y cefais fy mheint cyntaf o Guinness.

Cefais yr hanesyn yma yn Sussex gan ddyn a gydweithiai â mi.

Ymhen ychydig ddyddiau cefais alwad ffôn ganddo yn dweud bod y telerau'n dderbyniol ac yn gofyn inni fynd yno ymhen pythefnos, aros am ddeng niwrnod, ac y byddai ef yn danfon ticedi inni trannoeth.

Mae'n debyg mai fy awr fawr i ar lwyfan oedd ychydig fisoedd yn ôl fel Doctora mewn sgets yn Esquel, Patagonia - lle cefais yr anrhydedd o fod yr unig feddyg benywaidd gyda barf yn y Wladfa i gyd.

Yn fuan wedi hyn cefais fy nharo'n sâl gan disentri a bu raid imi aros yn fy ngwely am gyfnod.

Cefais enghraifft gan Gymro o Abertawe pa mor ufudd y mae rhaid i filwr fod.

Cefais ddeng mlynedd hapus ar y staff, blwyddyn i ddechrau gydag Aneirin Talfan Davies yn Abertawe a'r naw mlynedd arall gyda Sam Jones ym Mangor.

Cefais lawer cyngor amserol ganddo ar sut i drin pobl.

Fe'i cefais yn ddyn hawdd i weithio iddo ond gadael a wnaeth, a hynny er mwyn mynd at waith arall.

Cefais hyd i rwyd i'w thaenu dros y gwely bach, ac oherwydd hynny gallwn gysgu heb ofni brathiadau mosgito, a rhaid fod hyn eto wedi f'arbed rhag dal malaria.

Dyna fy nghred ac y mae'n gywir dweud mai mewn gwasanaethu'r Efengyl trwy bregethu a hyfforddi myfyrwyr y cefais y boddhad dyfnaf.

Cefais ymateb grêt i'r llun cyhoeddusrwydd o dynnwyd fel y Royle Family.

Ar y Sul, cefais fy hun tu fewn i'r eglwys gadeiriol yn mwynhaur offeren ac yn bwyta ac yn yfed rhywbeth llawer mwy sylweddol.

Wrth eistedd yno ar fy mhen fy hun, cefais amser i sadio, fel pe bai'r cynhyrfiadau a fu'n berwi o'm mewn yn gwaelodi.

Cefais wahoddiad gan Gyngor Eglwysi Rhyddion Cymru a Lloegr i fynd i Strasbourg i weld llysoedd a senedd-dai Ewrop.

Wrth roi help llaw i ddadlwytho un o'r hofrenyddion a oedd yn cludo cymorth i'r mynyddoedd, cefais deimlad annifyr mai dyna o bosib' fyddai fy nghyfraniad mwya' gwerthfawr i dynged y Cwrdiaid.

Dywed: 'Wedi tipyn o ymholi cefais y llyfr cyntaf, llyfr du welais yn y cyfarfodydd lawer gwaith.

Wedyn, pan oeddwn yn nofio yn y dwr y cefais yr ateb.

Gofynnais iddo i ba gyfeiriad yr oedd yr orsaf, ond cefais ateb anniswyl iawn.

Y foment honno cefais brofiad cyfriniol.

Cefais set gyflawn o Woods Aethene Oxoniensis a'r gyfres orau o lyfrau ar Shakespeare mewn rhwymiad godidog.

Yn fuan ar ôl hyn, fe'm cefais fy hun yn mynd am wythnos o wyliau i wersyll Llangrannog.

Cefais hwyl garw yn gwrando arno'n traethu am ei ddyddiau yn Llanrwst - ond yr oedd rhai agweddau ar y sioe yn crafu, braidd.

Er cefais dipyn o sioc hefyd.

Cefais fynd i weithdy Ray Jones pwy ddydd ac fe ryfeddais at yr hyn a welais.

Cefais fy nhemtio, wrth wneud darn i'r camera yn y sgwâr, i sibrwd fy ngeiriau; rwy'n siwr fod hanner y dref wedi clywed yr hyn a ddywedais.

Yn ystod y gystadleuaeth am gwpan rygbi tri ar ddeg y byd cefais air gydag hyfforddwr Awstralia, Chris Anderson.

Cefais yr argraff o'r hyn a wyddwn fod cymaint o hap a siawns yn perthyn i hanes y teulu nes rhyfeddu fy mod ar dir y byw o gwbl a'm bod yr hyn oeddwn.Roedd fy chwilfrydedd yn fawr.

Llyfrgell y cefais wledd wrth brynu llyfrau ynddi oedd un u Parch.

Y tu cefn i'r straeon doniol, mae yna ochr arall ac, wrth fynd i ffilmio mewn gwersyll haf i blant mwya' addawol y wlad, y cefais i fy mhrofiad mwya' ysgytwol yn Libya.

Ar derfyn yr arholiad cefais wys i fynd i weld tri athro yn eu hystafelloedd.

Cefais ef mewn llyfryn a ysgrifennwyd gan L.

Cawsom sgwrs dda - a thra yr aeth Randall i nôl peint i Syd Aaron cefais ddeng munud i sgwrsio gyda'r hen wariwr hwnnw.

"Wedi mynd drwy'r twnnel roedd Twm Dafis, mae'n rhaid," meddai Owain, "ac wedi cael ei rwyfo at Eds fel y cefais i."

'Rydw i'n cofio'n iawn ple cefais i gyhoeddiad ymlaen y tro cyntaf erioed.

Wrth i ni ffilmio yn un o'r gwersylloedd hyn, cefais fy mhrofiad newyddiadurol mwyaf dadlennol yn Libya.

Bob blwyddyn, mi fydda i'n mynd ar ryw fath o bererindod yn ôl i weld y tŷ lle cefais fy ngeni.

Cefais frechdan a jariaid o de.

Yr oeddynt yn ddarganfyddiadau o bwys - ac fe'u cefais serch bod John Dafis a gwþr llygadog Coleg y Gogledd wedi eu bodio o'm blaen.

Cefais lythyr gan y prif Weinidog yn dweud fod cynrychiolydd Uchel Gomisiynydd gwlad Nigeria yn dod yma am dri diwrnod i weld y wlad a siarad â'r llwythau.

Cefais fy synnu'n arw gan arddull amrwd ac anaeddfed llawer o'r hysbysebion, ar y radio'n arbennig.

Cefais Feibl gan Mr RO Roberts y Post pan orffennais weithio yno.

A minnau'n meddwl fy mod i uwchlaw castiau dosbarth canol o'r fath, cefais fy hun un p'nawn ar Faes y Brifwyl, yn gwthio merched parchus mewn cotiau plastig yn ddi-seremoni o'm ffordd er mwyn i mi gyrraedd yn gyntaf at y cardiau 'Dolig yn un o'r pebyll elusennol.

Cysgais gwsg y cyfiawn y noson honno beth bynnag, ond tua chwech o'r gloch y bore cefais fy neffro gan Akram.

Cefais fy hun yno y noson o'r blaen yn darparu gwasanaeth tacsi ar gyfer y ferch.

ategu'r ddamcaniaeth mai mewn gwres mawr y dechreuodd y greadigaeth, ac os cefais fendith yn y gwaith tun, y fendith honno oedd cael gweledigaeth o ystyr a phwrpas bywyd.

Ond cefais gyfle y dydd o'r blaen i weld y maes a'r golofn.

Cefais rywfaint o fy addysg yn Ysgol Twtil a Maesincla.

Cefais y drafferth fwyaf i rwystro fy morwynion fy hunan rhag ei arfer.

Pan oedd Capel Ebenezer yn cael ei adeiladu byddem yn mynd yno yn aml i chwarae, ac rwy'n cofio un diwrnod weld yr hen Robaits yn nrws yr ysgol, a'r ysgolfeistr yn troi ac yn edrych arna i, a phan ddaeth yn ol at y dosbarth, cefais fy ngalw allan, a methwn wybod beth oeddwn wedi wneud.

Cefais fy nghyflwyno'n gwbl annisgwyl i gorff o lenyddiaeth y gallwn weld fod ei bethau gorau yn deilwng i'w gosod ochr yn ochr â rhai o brif greadigaethau'r dychymyg mewn llenyddiaethau eraill.

Cefais ddychryn, oherwydd ni allwn barablu yn Saesneg ac fe wyddai hi hynny.

(Cefais gymorth caredig Miss Rhiannon Herbert rai blynyddoedd yn ôl wrth hel yr hanes.)

Cefais gyfle yn y saith degau i ymweld a'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth gyda'r g^wr (OE Roberts) pan oedd ef ar fin cyhoeddi hanes bywyd y Dr John Dee.

Cefais sgwrs am ychydig ag ef.

Cefais well mantais na neb arall i'w adnabod yn drwyadl.

Cefais fwynhad yn darllen yr anterliwtiau hyn.

Cefais fy ngeni yn ysbyty Bangor ym mis Tachwedd 1954 a bûm yn byw yn Llanrug am ychydig o flynyddoedd ac wedyn yn Nghaernarfon cyn dychwelyd i Lanrug.

Ond yn yr achos arbennig yma fe welwyd yn dda i ychwanegu pwt o hanes trwy ddweud fel y byddai Laura Richards lawer gwaith yn cyrchu gyda'i chymdogesau ar Ddydd yr Arglwydd i chwarae gyda'r delyn; yr oedd yn cofio cadw ffeiriau llestri pridd ym mhorthladd Nefyn a chwarae y Bowl Haf'.' Trwy holi'r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan cefais wybod mai ar y cyntaf o Fai y chwareuid y `Bowl Haf'.

Gyda'r ychwanegiad hwn i ddilyn: 'Gellwch chi gwisgo'ch crys cyn mynd allan.' Wrth chwarae pêl-droed gyda thîm eithaf truenus o egin-weinidogion yng Ngholeg y Bala, cefais ddolur llym tua gwaelod fy nghefn.

Wedyn cefais fynd i ddinas a oedd gryn bellter o'r lle yr arhoswn a chefais swper efo boneddiges oedd â'i Chymraeg yn berffaith.

`Cefais i fy ngorfodi i weithio yn y caeau reis.

Yn Ciwba y cefais fy mhrofiad cynta' o'r minder, y gwarchodwr hwnnw sy'n rhan anorfod o ffilmio mewn amryw o wledydd tramor.

Y llynedd cefais innau flwyddyn Sabothol, a threuliais hi yn dechrau darllen ar gyfer astudiaeth arfaethedig o ddylanwad y Beibl ar lenyddiaeth Gymraeg y canrifoedd modern.

Cefais innau fy ngollwng allan heb orfod ateb rhagor o gwestiynau.

Yn ystod fy nhymor yn fyfyriwr yn y Brigysgol yng Nhaerdydd, yn athro yn Nhonyrefail ac ym Mhenbre, Llanelli ac yn ddiweddarach yn Arolygydd Ysgolion ei Mawrhydi yn y Rhondda y cefais wir gyfle i hel y ffeithiau a hynny oddi ar berthnasau pell ac agos ac o archifdai, llyfrgelloedd a cherrig beddau, a bu'r wybodaeth yn gaffaeliaid ac yn iechyd i'm meddwl a'm hysbryd.

Adeg gêm rhyngwladol arall cefais gynnig chwarae rygbi yn Llundain gyda thîm y meddygon graddedig, yn Glasgow gyda'r deintyddion neu yng Nghaeredin gyda'r milfeddygon.

Cefais fy arbed rhag cael ysgariad gorysgytwal oddi wrth fy nghefndir gan mai i Goleg Prifysgol Cymru ym Mangor yr euthum i ddilyn cwrs gwyddonol am y flwyddyn gyntaf.

Dyna pryd y cefais i'r freuddwyd ddychrynllyd .

Ond yr oedd o hyd un dewis hanfodol arall i'w wneuthur, a'r wythnos ddiwethaf wrth edrych trwy fy nodiadau, cefais hyd i nodyn a wnaethpwyd gennym mewn cyfarfod arall eto o'r grŵp yng Nghaergrawnt - wrth drafod a ddylai'r Blaid fod yn grŵp gwleidyddol ymwthiol neu'n blaid wleidyddol, ac y mae'r gwahaniaeth yn bwysig dros ben.

Cefais fy nghyhuddo unwaith o 'ddwgyd' yr enw oddi wrth y baswr lleol adnabyddus Jac Pennar Williams, ond gellid dadlau fod gennyf ddwbl hawl y cantor hynod hwnnw, hynod ei ddawn a'i lais - er ei fod, gyda llaw, yn gerddorol anllythrennog.

Sôn am flyndar--canys dyna'n union sut y cefais fy hun yn Ysgol Uwchradd Fodern Roscommon Street a swatiai dan gysgodion y Braddocks nid nepell o Scotland Road.

Cefais fynd i weld llywodraeth leol yn gweithio a'r dynion oedd yn trefnu'r holl wasanaethau.

Prynais yno hefyd rai o lyfrau Mordaf Pierce a gwþr llengar eraill o sir Aberteifi; cefais yno gannoedd o lyfrau yn ymwneud â sir Feirionydd o gasgliad Edward Griffith y llyfrbryf, Dolgellau, ac yno, yn ddiweddar, deuthum ar draws set gyflawn o gopi%au o'r "Undebwr" papur Tori%aidd a gyhoeddid yn sir Aberteifi adeg helynt Iwerddon.

Ymhen amser wedyn y cefais wybod hyn ond nid ydym wedi cyfarfod ers hynny; digon prin y buasai'r un ohonom yn adnabod ein gilydd yn awr am mai byr iawn oedd yr amser y buom yng nghwmni'n gilydd ond eto, mae'r cyfan yn fyw yn y cof.

"Cefais arweiniad, bob tro, a bu+m, bob tro, yn gywir yn fy mhenderfyniadau% oedd ei sylw.

Ganddyn nhw y cefais fy mherswadio i fynd i Ariannin.

Cefais wybod, ar ôl rhoi sigare/ t iddynt, eu bod mewn gwersyll gan y Llynges yn 'Puffeli' - fel yr ynganent hwy yr enw.

"Cofia fod gennym siwrnai faith ar ôl glanio!" Cefais drafferth i gerdded ar ganol y llwybr rhwng y cabanau.

Cefais brofiad yn ddiweddar o ddiffygion y Ddeddf bresennol mewn trafodaethau yn y Senedd Ewropeaidd.

Bues i yn y llysoedd sawl gwaith dros ymgyrch Cymdeithas yr Iaith am Ddeddf iaith Newydd, ac roeddwn yn disgwyl achos Cymraeg heb drafferth, fel y cefais bryd hynny.

Cefais deirawr fodlon yn ei gwmni.

Fel y mae'n digwydd cefais y fraint o ddarlledu unwaith yng nghwmni Sam Jones yng nghwrs ei flwyddyn gyntaf oll ef yn y BBC.

Rhyw fis yn ôl, cefais wahoddiad na allwn ei wrthod.

A'r munud cyntaf y cefais fynediad rhuthrais i fyny'r ysgol i'r llofft.

Cefais fy nghythruddo o weld ôl y plygiadau yn y llythyr.

Ond cefais y fraint o weld yr haul yn codi'n goch dros fforestydd Gorllewin yr Almaen.

Rwy'n siwr y daw fy nyddlyfr i ti ryw ddiwrnod ac fe weli ynddo fel y cefais innau fy nghywilyddio ganddo droeon.

Yn y llofft flaen y cefais i fy ngeni.

Cefais gryn fraw o gofio'r wefr a'r rhuthr sydyn o adrenalin a brofais wrth brynu chwe phecyn o gardiau 'Dolig ym mis Awst.

Ar yr ail ymweliad cefais annerch y Cyngor ar ei wahoddiad.

Cefais innau'r gwaith o ddidoli a threfnu'r miloedd o ohebiaethau, taflenni, posteri a ffotograffau sy'n cofnodi eu cyfraniad unigryw i'r Mudiad Heddwch a'r Blaid Lafur Gymreig.

Cefais sgwrs fer gyda'i thad mewn Tsineag.

Cefais achos i ofyn hynny i mi fy hun ynglŷn â sawl problem arall yn ystod fy mywyd.

Cefais fy swyno gan y cyflwyniad gorchestol.

Cefais fy ngeni'n frawd i ddwy chwaer.

Cefais gryn ysgytwad pan glywais ei fod wedi marw.

Ac i goroni'r cyfan cefais ffrae gan Mam am faeddu fy nghot!

Bu+m yn ddiwaith am gyfnod, ond y mae gennyf grefft, felly cefais swydd yn y diwedd.