Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cefndir

cefndir

Yn erbyn cefndir yr ymgyrch hon y clywn ei lais yn galw ar ddynion i gymryd i fyny'r groes a'i ddilyn - anogaeth sydd ar y naill law yn eu cyfarwyddo i gerdded ffordd tangnefedd ac ar y llaw arall yn eu gwahodd i gyfranogi o ddioddefaint y Selotiaid yr oedd eu cyrff meirwon weithiau i'w gweld ar groesbrennau mewn mannau amlwg ym Mhalestina.

Dyna'r elfen gyntaf yn y cefndir i'r gerdd.

Cefndir Adnabod

Yn ddigon tebyg i'w dad a'i deidiau gynt, dim ond mai cyngerdd neu seiat neu ffair oedd cefndir eu dychymyg hwy cyn i'r 'hogan' fynd yn 'slasan'.

Y gwrthdaro rhwng y grefydd sefydledig a 'zel danbaid' y methodistiaid yw cefndir Merch y Sgweiar Bobi Jones a ymddangosodd yn Barn, gyda'i phortread byw o Theophilus Evans, ac aiff Elwyn L.

Wedi holi eu henwau ac ychydig am eu cefndir gofynnodd Mr Puw iddynt sut y gallai eu helpu.

Ni wastreffir dim amser yn peintio cefndir.

Y mae'n gofiant i fardd ifanc addawol, ac y mae'r cerddi a gyhoeddir ynddo, ynghyd â'u cefndir, yn ychwanegu llawer at ein dirnadaeth o farddoniaeth Gymraeg y Rhyfel Byd Cyntaf.

yn sicr, o dderbyn y sbardun hwn yn y llafar a'i barhau o fewn yr un thema gyda'r darllen, yna, byddai'r dasg ysgrifenedig yn manteisio ar y cefndir cyfoethog hwn.

Mae sylweddoli mai dyma'r cefndir yn help i werthfawrogi pam y mae symudiad ychydig o bobl ddi-Gymraeg i ardaloedd Cymraeg yn creu argyfwng.

Cefndir: Drwy'r 90au bu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymgyrchu, drwy ddulliau lobio a gweithredu uniongyrchol, dros drefn addysg ddemocrataidd ac annibynnol i Gymru.

Dwi'n sylwi nad oes gan y myfyrwyr sy'n dod i mewn rwan ddim yr un cefndir mathemategol ag oedd ganddyn nhw gynt.

Sonia ymhellach am ei ddiffyg cefndir llenyddol Cymraeg ar yr aelwyd, er bod yno ddigon o lyfrau - rhai meddygol a chrefyddol gan mwyaf.

Cyn mynd ati i chwilio am atebion i'r ddau gwestiwn, efallai y byddai'n well i ni edrych ar y cyswllt, y cyd-destun, y cefndir, y math o lefydd lle mae plant o dair i bump oed yn derbyn eu haddysg feithrin.

Ac nid dim ond y cefndir a'r celfi sy'n dod i ran y cynllunydd i'w dyfeisio, ond y gwisgoedd hefyd; technegydd yn gweithio i ganllawiau'r cynllunydd ydi meistres y gwisgoedd.

Naturiol i Israel, fel eraill a berthynai i'r un cefndir â hi, oedd meddwl amdani ei hun mewn dull a oedd yn addas i'w bywyd cymdeithasol.

Y mae'r llyfr ar ei hyd yn werslyfr ardderchog i unrhyw un sy'n dymuno gwybod rhywbeth am hanes Ieithyddiaeh a deall cefndir gwaith yr ugeinfed ganrif yn y maes hwn.

Yr iâr yn unig sy'n eistedd ar yr wyau gan fod ei lliw brown tywyll yn ei galluogi i ymdoddi'n rhwydd i'r cefndir grugog, ond byddai'r ceiliog, gyda'i blu llwyd yn sicr o dynnu sylw at safle'r nyth.

Pe byddech chi wedi gwrando'n astud ar Dafydd Wigley yn lansio ymgyrch ei blaid at yr etholiadau Ewropeaidd yr wythnos dwethaf, fe fyddech chi wedi clywed gwylanod yn y cefndir.

MAE CEFNDIR CYMDEITHASOL, amaethyddol a gwerinol Eifionydd yn rhan annatod ohonof, a thros y cyfnod o ugain mlynedd y bu+m yn yr Alban a Lloegr a thros y môr nid aeth diwrnod heibio na chefais gip a r Eifionydd yn nrych fy meddwl.

Cefndir 'Fel Hyn y Bu'.

Cefndir: Drwy'r 90au bu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymgyrchu, drwy ddulliau lobio a gweithredu uniongyrchol dros drefn addysg ddemocrataidd ac annibynnol i Gymru.

Ond daliai'r meddyg i ddweud, "Peidiwch â magu dim ffydd", felly yn y cefndir yr oedd yr ofn a'r pryder yn parhau.

Mae enwau'r ysgrifwyr yn warant o werth yr ysgrifau, sydd gan amlaf yn canolbwyntio'n effeithiol ac yn drylwyr ar un gerdd, gan egluro'r cefndir a'r cyfeiriadau a geir ym mhob un.

Mae'r cefndir yn wyrdd golau, y bandyn yn y canol yn felyn a'r geiriau'n biws.

Er y gwaith cefndir manwl iawn am ddatblygiad poblogrwydd y Cyrff a gweddill sêr sîn yr 80au hwyr, fel mae'r teitl yn awgrymu, Catatonia a Cerys yn benodol syn cael y prif sylw.

Eglurodd y cefndir i ffurfio'r cynllun lleol, gyda'r nod o osod sylfaen gadarn i wneud penderfyniadau teg a chyson ar geisiadau cynllunio.

Wrth gyferbynnu cefndir y nofelau hyn a chefndir llenyddiaeth Saesneg Iwerddon,mae Saunders yn nodi fod bywyd Iwerddon yn dal i fod yn amaethyddol, heb ei gyffwrdd gan ddiwylliant diwydiannol Lloegr.

Cynhyrchwyd hanes pwerus o gariad anghyfreithlon yn erbyn cefndir o gymuned glos, The Passion, ar ran BBC Cymru gan First Choice gyda Gina McKee (wyneb cyfarwydd o Our Friends in the North). Cafwyd edmygaeth gyffredinol i'r cynhyrchiad cymhellol hwn.

Dywedodd ef yn syml fod y cefndir wedi ei osod yn berffaith ar gyfer ymadawiad Arthur.

Mae'r cefndir yn fflamgoch.

Mae'r cytgan yn aros yn eich pen ac yn nes at ei diwedd mae lleisiau'r merched sy'n canu cefndir yn atgyfnerthu'r swn.

Fel Dysgu Nofio mae diweddglo'r gân yma yn drawiadol hefyd, wrth i'r piano a'r bît ddiflannu yn raddol, gan adael llais i ganu'r gytgan heb unrhyw offerynnau yn y cefndir.

Mae'r manylion achyddol a geir yma yn newydd, ac yn cadarnhau'r darlun o Theophilus fel gþr bonheddig, ac yn ei osod mewn cefndir bonheddig, ar hyd glannau Teifi, a oedd o hyd yn Gymraeg ei iaith a'i ddiwylliant ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg.

Yn raddol, drannoeth, gwawriodd arnom ein bod wedi ein dal yn llwyr gan y Bos, a'i fod ef wedi bod yn tynnu coes yn ddidrugaredd, ond gan fod y manylion tybiedig wedi'u plethu i mewn i r cefndir a'r lleoliad dilys yn gelfydd iawn, hyd yn oed tadogi'r stori ar Mr Merfyn Morgan, y Prif Uwch-Arolygydd â gofal am Adran "D" o Heddlu Dyfed-Powys, roeddem wedi credu'r stori'n llwyr.

Bwriad yr wythnos yw denu pobl o bob oed ac o bob cefndir i ddefnyddio eu llyfrgell leol ac i dynnu sylw awdurdodau at bwysigrwydd i gymunedau lleol.

Llond dwrn yn unig a welai Gymru yn erbyn cefndir o athroniaeth Gristnogol am ddyn a chymdeithas.

Gwybodaeth cefndir

Gwna hynny ar sail yr elfennau a roes fod iddi, ac yn wyneb rhwystrau sy'n tarddu o'r cefndir hwnnw ac yn arfaeth yn ei bridd.

Nid oedd dim byd yn arbennig o atyniadol yn y set ac edrychai braidd yn ddiflas yn erbyn cefndir wal werdd y theatr.

Felly, gyda'r cefndir athronyddol-gyffredinol yn glir, roedd modd symud ymlaen i'r meysydd penodol yn y cwricwlwm.

Mae'r Teledu yn mwmian ymlaen yn undonog ac i fyny'r grisiau, yn y cefndir pell clywir curiad trwm cerddoriaeth Gari.) Mam!

Doedd dim modd dadansoddi'n gwbl oeraidd yn erbyn cefndir fel yna; roedd tynged y ddwy wlad, beth bynnag, i raddau helaeth yn cael ei benderfynu fil o gilometrau i'r de-ddwyrain, ym Moscow.

Rhaid deall Keats and Shakespeare yn erbyn cefndir ehangach y ddadl lenyddol-grefyddol rhwng Murry a T.

Cefndir hanesyddol y ddarlith sy'n ddiddorol i mi.

Roedd o'n llawer gwell ond roedd yr hen anesmwythyd yn dal yn y cefndir yn rhywle.

Saith stori gyda'u cefndir mewn byd ffantasi.

Er mwyn mawrhau ei orchestion, darlunnir y cefndir wedi rhyfel Glyndŵr yn fanwl.

Un o anfanteision addysg uwch yw ysgaru pobl o darddiad gwerinol oddi wrth eu cefndir.

Y dylanwad Bedouin oedd y cefndir i'r math hwn o sosialaeth.

Mae'n debyg bod y Prif Uwch-Arolygydd â chyfrifoldeb am Faldwyn a Maesyfed a Brycheiniog, neu Adran "D" Heddlu Dyfed-Powys, â'i bencadlys yn y Drenewydd (sef Mr Merfyn Morgan), wedi esbonio'r cefndir a rhoi'r manylion am y digwyddiad ac roedd yn disgwyl cyngor gennym.

Fel rhan o'r broses o godi ymwybyddiaeth ymhlith ieuenctid ac oedolion yr ydym wedi darparu tapiau sain o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes i dafarndai a chlybiau'r ardal i'w chwarae fel cerddoriaeth cefndir.

Dau mor wahanol o ran oed, cefndir a daliadau, dau mor wahanol o ran eu cynlluniau a'u dyheadau.

Gwell gan Cullmann beidio â sôn am Iesu fel 'Selot' ond dywed fod ei holl weinidogaeth mewn cysylltiad parhaus â Selotiaeth, mai hon oedd cefndir ei anturiaeth ac mai fel Selot y cafodd ei ddienyddio.

Mae rhoi'r amodau gorau i'r cyfieithwyr yn hollol angenrheidiol os am gael cyfieithu o safon uchel a chyfieithu sy'n toddi i'r cefndir yn naturiol.

Cael fy siomi wnes i yn yr epilog serch hynny, roeddwn wedi disgwyl mwy o ddatblygiad, a bu'n rhaid i ni fodloni ar gael Jo yn rhoi cefndir y digwyddiadau i ni.

Serch hynny, roedd hi'n nosi'n braf ac oedodd pawb y tu allan ar ol i'r marchlud orffen ysgythru hetiau-dewin pigog y Silvretta yn ddyfnach eto i'w cefndir o ros golau.

Straeon yw'r rhain sydd yn cael eu dweud, eu hail-ddweud, a'u credu yn ein cymdeithasau modern ledled y byd, ond mae'n ddiddorol nodi mai cefndir Americanaidd sydd i nifer ohonynt - cawn drafod paham yn nes ymlaen.

Dyma'r cefndir i'w gyfres penillion ar y thema hon.

Mae nodiadau yng nghefn y llyfr i gynorthwyo'r darllenydd ddeall cefndir y cerddi a'r awdur ei hun.

mae'r dechrau yn effeithiol iawn gyda swn gwynt a llais plentyn bach yn y cefndir.

ANNWYL OLYGYDD--Rwy'n sgwennu'r llythyr yma atoch fel un o Gynghorwyr Tref Blaenau Ffestiniog yn dilyn ymddiswyddiad un o'r aelodau yn y cyfarfod blynyddol yn ddiweddar am y tybiaf y medraf esbonio rhai o'r rhesymau a'r cefndir i'r digwyddiad yma.

Pwrpas y rhaglenni canlynol fyddai cyflwyno'r Swdan fel enghraifft o wlad sy'n datblygu, gan roi cefndir byr o'i daearyddiaeth, ei hinsawdd, ei hanes diweddar a'r posibiliadau ar gyfer datblygu mewn amaethyddiaeth a diwydiant.

Yr oedd y cefndir brochus hwn yn achos pryderon lawer i arweinwyr crefydd.

Gwybodaeth ysgrifennedig am y recordiau diweddara yn ogystal a rhywfaint o dudalennau yn olrhain hanes recordiau Ankst a gwybodaeth cefndir ar rai o fandiau recordiau ankstmusik.

Mae ongl yr eglwys ychydig yn wahanol ond yr un lliw sydd i'r cerrig ac y mae'r awyr yn y cefndir wedi ei phaentio ond yr un lliw mae'r lleoliad yn debyg.

* gan ystyried yn llawn eu cefndir a'u hanghenion diwylliannol, crefyddol ac ieithyddol.

O gofio'r cefndir hwn, roedd teimladau'r Dirprwywyr wrth iddynt ddod i mewn ­ Gymru yn ddigamsyniol.

Hanes cefndir a phensaernïaeth pontydd diddorol yng Nghymru.

Roedd pob dim yn fwyd a diod i'r Dirprwywyr: gwaddoliadau, amodau materol, daliadaeth, maint ysgolion, y plant, ynghyd â dadansoddiad o'r athrawon a'u cefndir.

Mae'r drydedd elfen yn y cefndir yn perthyn i'r un cyfnod.

Dyma rai nodiadau ar sail sgwrs a gafodd Waldo a minnau ynghylch y cefndir oedd i'r gerdd 'Adnabod'.

Wrth gwrs, y mae rhai unigolion dawnus sydd â'r wybodaeth a'r cefndir angenrheidiol i ddod â gwlad yn hollol ryw i'r myfyrwyr - fel y gall Alex McCowen neu Emlyn Williams lenwi theatr yn y West End a llwyddo, heb gymorth undyn arall, a chall ddibynnu ar eu personoliaeth eu hunain a safon eu deunydd, i hudo cynulleidfa wrth ddarllen o'r Efengyl neu o waith Dickens neu Dylan Thomas.

Mae'n anodd eu gweld nhw am fod eu cotiau meddal lliw hufen yn ymdoddi i'r cefndir gwyn.

Daeth dathlu Dydd Dwynwen yn beth eithaf poblogaidd ymhlith y Cymry ifainc bellach, ond digon prin yw'r defnyddiau ar gyfer trafod cefndir yr þyl yn y dosbarth.

Beth bynnag, roedden ni'n gwybod hanes cefndir Prys Edwards wrth gwrs, a phenderfynwyd gwylio Glantraeth rhag ofn mai yma yn ei gynefin roedd o'n cuddio.

Gan fod holl gwestiwn paham y cafwyd y cyfryw ddadeni ag a welir ym marddoniaeth y Gofynfeirdd heb sôn am paham y cafwyd eu 'rhieingerddi' ynghlwm wrth y cwestiwn hwn, mi fydd efallai'n fuddiol trafod cefndir y rhieingerddi ynghyd â chefndir cyffredinol canu'r Gogynfeirdd yn hytrach na cheisio ateb pendant penodol na all beidio â gorsymleiddio'r sefyllfa.

Lle gwych i gyflwyno rhaglen radio yw'r 'Rynek' enfawr - digon o gyfle i ddal sain cefndir prysurdeb y farchnad, clip-clop y ceffylau, y bandiau jazz a'r bandiau sipsi sy'n diddanu'r torfeydd bob Sadwrn.