Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cefnu

cefnu

Er eu trwyddedu, fodd bynnag, 'roedd cryn wrthwynebiad i'r Beiblau Saesneg hyn, gan eu bod yn cefnu'n aml ar destun cyfarwydd y Fwlgat, a chan fod eu Saesneg cartrefol yn taro'n chwithig onid yn gableddus ar glustiau a ymhyfrydai yn sŵn mawreddog, litwrgi%aidd y Fwlgat Lladin.

Yn awr y prawf fe fydd yr etholwyr a bleidleisiodd drosom oblegid y ddadl honno yn cefnu arnom yn fradwrus fuan.

Bellach, dan ddylanwad Genefa, y mae wedi cefnu ar ddulliau rhydd Luther a Tyndale a welir yn Kynniver llith a ban ac amcanu at gyfieithu 'air yn ei gilydd' i'r diben, fel yr eglurodd mewn nodiad Saesneg yn y Llyfr Gweddi, 'i air Duw ei hun aros heb ei lygru na'i dreisio o genhedlaeth i genhedlaeth'.

Nid yw'r ystadegau'n cynnwys y rhai a fu rywbryd yn ystod eu hoes ynddynt ond a oeddent wedi cefnu.

Ar ôl cefnu ar drên Llundain - Caeredin, roedd yn rhaid cad trên yn perthyn i gwmni'r 'Highland Railway' ac roedd oriau i aros cyn bod hwn yn codi stêm i'w siwrnai.

Wedyn yn ystod tymor y glaw mawr byddai llifogydd Mekong yn cefnu'n ôl i'r llyn.

Byddai'n golygu y byddai rhai meddygon yn gorfod cefnu ar eu haddewid i ddiogelu bywyd, costied a gostio - egwyddor sydd eisoes wedi ei chleisio gan nifer enfawr yr erthyliadau sy'n digwydd.

Mae o'n torri 'i galon dy fod ti'n cefnu ar y Weinidogaeth.

Faint ohonom, er enghraifft, sy'n gofalu arddel yr iaith ymhlith ein cydnabod ond sy'n cefnu arni pan awn i gwmni dieithriaid?

Roedd yn siŵr na fyddai'r hen gwcw yna wedi cefnu ar Rod pe bai hi'n mynd allan gydag e.