Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cefnwr

cefnwr

Bydd cefnwr de Manchester United a Lloegr, Gary Neville, yn apelio yn erbyn penderfyniad Cymdeithas Pêl-droed Lloegr i'w wahardd rhag chwarae am ddwy gêm.

Mae'r cefnwr Pepito Elhorga wedi ei gynnwys yn lle David Bory, er mae'n bosib mai Jean-Luc Sadourny fydd yn chwarae yn y safle hwnnw, fel y gwnaeth yn erbyn Yr Eidal.

Hon fydd gêm ola'r tymor yng Nghynghrair Cymru a'r Alban, gêm ola y cefnwr Mike Rayer a gêm ola Lyn Howells fel hyfforddwr y clwb.

Mae Caerffili, er hynny, wedi gofyn i D.R.Davies edrych ar sawl digwyddiad gan gynnwys un pan gafodd y cefnwr Chris John anaf i asgwrn ei foch.

Mae e y teip o chwaraewr sy'n chwarae fel cefnwr de neu gefnwr yn y canol (centre-half) a fel chwaraewr canol cae.

Mae'r teimlad yn y gwersyll yn dda, meddai cefnwr Abertawe, Kevin Morgan.

Bydd cefnwr Caerfaddon, Ian Balshaw yn dechrau gêm am y tro cynta i'w wlad.

Disgwylir y bydd cefnwr ifanc Caerdydd, Rhys Williams, yn dychwelyd yn lle Stephen Jones o Lanelli.

Synnwn i ddim na fydd raid i Abertawe chwarae dipyn gwell i ennill yn erbyn Caerfyrddin - ac y mae'n bosib y byddan nhw heb ei cefnwr Steve Jones.

Dewiswyd Rhys Williams yn safle'r cefnwr - er iddo ddiodde anaf i'w goes yn gêm Caerdydd ag Abertawe ddydd Sadwrn.

Sgoriodd Colin Charvis a Matthew Robinson ddau gais yr un i Abertawe, a daeth cais hefyd i'r cefnwr Kevin Morgan - yn erbyn ei hen glwb.

Mae newyddion gwell am y cefnwr Rhys Williams.

Y cefnwr chwith John Wyle oedd yn euog.

Mae Christian Stoica wedi'i symud o safle'r cefnwr i'r canol.

Cefnwr Caerdydd, Rhys Williams, fydd yn chwarae yn ei le.

Mae Lloegr wedi galw'r cefnwr Matt Perry yn ôl i'r tîm ar gyfer y gêm yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn.

'Roedd perfformiad Rhys Williams, cefnwr Caerdydd, yn galonogol dros ben - mae ei hyder e 'nôl yn sicr.

'Roedd hi'n gêm eitha anniben,' meddai cefnwr Abertawe, Kevin Morgan, ar y Post Cyntaf y bore yma.

mae'r cefnwr Steve Watson wedi cytuno i adael Aston Villa ac ymuno ag Everton.

Os mai na fydd yr ateb, mae hi'n ddigon posib mai Gary Lloyd - y cefnwr chwith fel arfer - fydd y golwr nos fory.

Cafodd gosb llys am roi dyrnod i Ioan Bebb, cefnwr Cross Keys, mewn gêm glwb flwyddyn yn ôl.

Gaffie du Toit fydd y cefnwr yn lle Delport gafodd ei anafu yn erbyn Cymru.

Mae cefnwr 20 oed Abertawe, Leigh Devulgt, wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda'r clwb.

Bydd Ashley Cole yn dechrau yn safle'r cefnwr chwith.