Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ceg

ceg

Roeddem yn edrych fel rhes o bysgotwyr o gylch pwll tro ond fod y wialen yn ein ceg.

Yna, ymhen rhyw ugain llath, lledodd y sianel yn ddwr llonydd, dwfn o flaen ceg yr ogof.

Doedd gen i'r un syniad ar y pryd beth oedd y ffrwyth, ond wrth ei flasu y prynhawn hwnnw, a chael 'y nghyflwyno am y tro cynta i'r melwyn dwr, fe alle unrhyw un gadw'i caviar a'i siampên--ar yr eiliad honno, fedre dim byd melysach na brafiach fod wedi gwlychu 'ngwefuse i, ac roedd oerni a ffresni'r sudd yn adfywio ceg oedd yn boenus o sych.

Nid oes posib clywed LIWSI o gwbl pan yw'n siarad ac nid yw GARI, sy'n gorwedd ar ei wely a'i lygaid ynghau, yn sylweddoli ei bod hi yno.) (Gwneud siâp ceg, yn gyflym) Helo Gorila.

Bu'r wasg yn llawn yr wythnos hon yn condemnio y Daily Mirror am ymyrryd a phreifatrwydd pobol, ond doedd neb yn cwyno am Nia -- ddim hyd yn oed un wylwraig a oedd a llond ceg o sandwich wy pan ymddangosodd Nia fel huddug i botes wrth ei hochor!

(Rhuthrai'r gwynt drwy'r buarth caregog tu allan i'r ffenestr hir, a fflamau'r tân llydan yn ymestyn i fyny ceg y simnai fawr.

Mae'n lle peryglus iawn i fechgyn bach fel chi,' meddai gan chwerthin a dangos llond ceg o ddannedd drwg.

Cyn gynted ag y daeth y geiriau allan o'm ceg digwyddais ddal llygad Robat John.

Dywedwch `Hy!' a chaewch eich ceg yn glep.

Yn y tyllau hyn bydd nyth diddos o laswellt yn gymysg â blew'r fam, a bydd hithau yn mynd yno bob nos i roi llaeth y frest i'r cywion ac wrth ymadael yn gofalu cau ceg y twll gyda phridd fel nad yw'n hawdd canfod y fynedfa.

Ma' rhyddid yn beth mawr, wyddoch chi a rydw i am ddal 'y ngafal ynddo fo." Ar yr un gwynt, ychwanegodd yn ddyn i gyd: "Rydw i am fynd i weld tipyn ar y byd cyn iddi hi fynd yn rhy hwyr arna i." Agorodd ceg Maggie Huws, ond cyn iddi hi gael yr un gair allan ohoni hi, roedd Willie Solomon wedi cyrraedd ei ddrws ac wedi rhoi clep arno yn ei hwyneb.

Wedi cyrraedd ceg lôn y plas roedd y Llewod yn fwy gwyliadwrus.

Ac mae eu persawr fel melyster pwdr hwran." Rhythais arno â'm ceg ar agor.

Yna dechreuais weiddi ac hyd yn oed sgrechian, ond yr hyn a weithiau fel brec arnynt oedd llond ceg o Gymraeg na fuaswn yn ei defnyddio'n gyhoeddus adre!

Bu+m wedyn yn astudio pob symudiad ym mecanyddiaeth ceg a llwnc y ddwy; roeddwn yn llyncu bob tro y llyncent hwy a hynny'n achosi rhyw arwyddion ffug i'm hymennydd!

`Petasech chi'n siarad fel yna efo fi yn rhywle heblaw yng nghwmni boneddigion fel hyn, Harri, mi faswn yn eich taro yn eich ceg,' ebe Ernest.

Pesychais, a phoeri llond ceg o fwd a glaswellt wrth i mi bwyso ar un penelin.

Llond ceg o Justin.

Y ffordd orau i wneud hynny yw trwy gadw eich ceg yng nghaead hyd eithaf eich gallu.

Llygaid bywiog, clyfar, trwyn hir, mwstas a oedd, fel popeth arall, yn tynnu am i lawr, ceg a wenai'n sur.

Yr oedd ots gan Huw, achos roedd Kelly Mair yn rêl ceg, a byddai'n siŵr o ddweud wrth bawb yn y dosbarth.

Ar ôl cyrraedd Gwesty'r Maes Awyr yn Karachi, dyma'r ddau i mewn i'n stafell ni a dywedodd Bholu wrth Akram am agor ceg y sach.