Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cei

cei

Cawn y teimlad o hyd yn y Cei nad oeddwn na Chardi nac un o wylanod y Cei.

Ryden ni wedi cyfarfod i dy drafod, ac ryden ni wedi penderfynu y cei di fod yn aelod o'r giang.' Hanner cododd Dei ar ei draed gyda gwên fawr ar ei wyneb.

"Cei." "Arian y giat, neithiwr?" Nodiodd ei ben a rhoi ei fys ar ei geg.

Ar ôl i ni fod yn y farchnad, ac i Anti Nel brynu menyn yno, mi ddaethon ni'n ôl yma wedyn i ollwng y negas, a mynd i lawr i'r cei, i edrach os oedd cwch Uncle Danial yno.

"Ond cofia," ychwanegodd, "mi fydd yn rhaid i ti roi cweir i un o'r hogia cyn y cei di lonydd ganddyn nhw." Er cased gen i glywed y newydd hwn ganddo, sylwn gyda boddhad ei fod wedi newid y "chi% bell i'r "ti% agosach ac anwylach.

Mi oedd hi'n brysur iawn ar y cei hefyd - llonga'n dŵad i mewn a llond 'u rhwydi nhw o bysgod yn gwingo 'run fath â phryfaid genwair - O!

"Ddim hyd yma, neu fuaswn i byth wedi mentro ailadrodd yr holl stori wrthych chi heno." "'Rydym yn ffodus ein bod ni wedi gofalu am gaban," meddai fy ngwraig wrth i'r llong symud oddi wrth y cei yn Dover am un o'r gloch y bore.

Ia, ella cei di dy neud yn Barchedig William Cadwaladr.

Nid tafodiaith y Cei oedd tafodiaith yr aelwyd a chlywn gryn dipyn o Welsh English y Rhondda o enau fy mam a 'nhad.

Dywedodd fy mam wrthyf drannoeth fod rhyw dderyn wedi dweud wrthi am y digwyddiad.Euthum i ddawns yn y Cei unwaith.Roedd fy ffrind, Twm Fowey House (y Dr Thomas Gwilym Jones, un o benaethiaid Lever Brothers Port Sunlight wedyn) yn fy nghynorthwyo i smyglo fy siwt orau o'r ty wrth i mi ei thaflu o ffenestr y garet i lawr ato ac yntau yn sefyll ar yr allt wrth dalcen y ty.

Rhuthrais innau i mewn gyda'r cyntaf a dangosais i fechgyn y Cei fy mod o leiaf yn gallu marchogaeth ceffyl a hynny nid yn eistedd ond yn sefyll ar ei gefn.

Ond pan gafodd fyrddio'r llong o'r diwedd rhyfeddai fod creadur mor gryf a solet wrth y cei yn anesmwytho ar y mor agored.

Digwyddodd hyn bron ar ddiwedd y gwyliau ac er bod y fam a'r tad yn sylweddoli y dylent roi cyfrif am yr achlysur ar unwaith i'r awdurdodau yn y Cei, eto sylweddolsant y byddai yn rhaid iddynt aros yn hwy yn Sir Aberteifi nag y trefnasent, felly, dyma benderfynu mynd â chorff y famgu adref gyda nhw a chymryd arnynt ei bod wedi marw gartref gan hysbysu'u meddyg teulu o'r ffaith bod marwolaeth wedi digwydd a gofyn iddo ef ddelio â'r mater ar ôl cyrraedd gartref.

Aeth Waldo ar ei ôl i'r Cei, a chopi o'r swyddi gwag yn y Sir gydag ef.

Yng nghynghrair Cymru curodd Cei Connah Lido Afan 1 - 0.

Bu raid gohirio'r ddwy gêm yng nghystadleuaeth y Cwpan Cenedlaethol oedd i fod i'w chwarae neithiwr - sef Abertawe yn erbyn Cei Connah a Chaerfyrddin yn erbyn Aberystwyth.

Ni welid fy nhad fyth yn yr ysgol Sul yn y Cei.

Symudodd oddi yma i Lundain, yna i'r Cei Newydd, ac wedi hynny i Bontyberem.

Prin y clywais unrhyw un o hen drigolion y Cei yn siarad Saesneg.

Roedd teulu o Birmingham wedi bod ar wyliau yn y Cei Newydd yn Sir Aberteifi, ac wrth gwrs, roeddent wedi gyrru ar draws Sir Drefaldwyn er mwyn cyrraedd Sir Aberteifi, a'r cyfan ar diriogaeth Heddlu Dyfed-Powys.

Ond, ysywaeth, nid oedd tafodiaith y Cei yn gymeradwy iawn y tu allan i blwyf Llanllwchaearn.

Ar Barc Jenner, bydd Y Barri gurodd Abertawe yn eu hunig gêm erbyn hyn, yn croesawu Cei Connah sydd heb bwynt yn y gystadleuaeth.

Chwaraewyd pedair gêm yn y Cynghrair Cenedlaethol neithiwr - Lido Afan yn curo Rhayader 3 - 0; 2 - 1 i TNS yn erbyn Cei Conna.

Yr oedd hyd yn oed yr ychydig wylanod a welai ar y cei yn swatio yn eu cwman heb ddim i'w cynhyrfu o'u diflastod.

Efallai y cei dy ryddhau ar ôl iddynt sugno'r maeth o'th gorff, ond yn sicr nid cyn hynny.

Yna bum yn byw am yn agos i ddwy flynedd yn Llangynin, San Cler cyn symud i'r Cei.

Mae'n deg cydnabod hefyd fod dirywiad wedi digwydd yn y Felinheli: 'Roedd cyfnod y chwarel a'r cei yn un llewyrchus iawn i'r pentref, ac amryw o fusnesion eraill yn ffynnu o'r herwydd, nifer dda o wahanol siopau a phawb i weld yn gwneud busnes, pob cwsmer yn cyfrif, a'r cwsmer yn iawn os y byddai unrhyw wahaniaeth barn.

Fe wyddwn i hynny cyn gynted ag y croesais y bont o'r cei yn Dover .

Mi fydd e yno bob bore, cei fentro, mor ddiogel, mor ddigyffwrdd a gŵr condemniedig mewn cell yn disgwyl ei ddienyddiad.'

Cei gic ddisymwth yng ngwaelod dy gefn ac rwyt bron â gweiddi mewn poen.

Roedd hyd yn oed rhai capteiniaid hen longau hwyliau y Cei yn uniaith Gymraeg pan oeddwn yn llanc yn yr Ugeiniau.

Ceisiodd Cei Hir daro bargen ag Esyllt, gan gynnig gadael i Drystan fynd yn rhydd os câi yntau Olwg Hafddydd, yr oedd wedi ymserchu ynddi.

Nid oeddem ni, y plant, i fynychu na dawns, na sinema, na siop chips, na ffair, na syrcas, na thafarn yn y Cei.

Prin y disgwylid i grwtyn chwilfrydig gydymffurfio a'r gwarharddiad.Fe wn i un peth i sicrwydd, i mi, wrth glustfeinio yno, ddod i wybod aml gyfrinach.Ehangwyd fy ngeirfa aflednais a ddeuthum i ddyfnach adnabyddiaeth o gymdeithas ddauwynebog y Cei.

Yn wir, rwy'n cofio'r dydd y gwawriodd arnaf gyntaf fod y fath beth a chymdeithas bentrefol yn bod o gwbl yn y Cei.

Holi am Stryd y Cei, a'i chael yn weddol agos, trwy lwc.

Yn y gemau eraill yn y Cynghrair Cenedlaethol curodd Cei Connah Dderwyddon Flexsys Cefn 2 - 0 a churodd Caersws Y Rhaeadr oddi cartref hefyd 2 - 0.

Cei di fynd i'r salwn os mynni.

Nid oeddem i loetran o gwmpas Cnwc y Clap, cornelyn uchel uwchben harbwr y Cei, a gwrando ar y morwyr a'r pysgotwyr a arferai ymgasglu yno ac adrodd am eu hanturiaethau ar y mor a son am arferion cudd rhai o bobl barchus y Cei a hynny mewn Cymraeg graenus, anfeiblaidd.

"Cei yrru neges ar y radio i longau eraill i ddweud am yr helynt," atebodd ei gapten.

"A gobeithio y cei di gwmpeini," meddai ei fam, "ac na chei di ddim annwyd."

Wrth iddo gyrraedd yn ôl i'r harbwr gwelodd Jabas fod y cwch cyflym yn dal wrth angorion y Wave of Life, ond suddodd calon Jabas wrth weld ei dad a dau o'i bartneriaid yfed yn rhefru ar ben wal y cei.

Cei gwmni da ryw ddydd.

Mae'n arwyddocaol fod tad un o'm ffrindiau cyntaf yn y Cei wedi bod yn lowr a bod mam-gu un arall yn hanu o Gernyw.

Doedd gan Jabas ddim dewis ond angori yng nghanol yr afon a benthyg cwch rhwyfo i gyrraedd wal y cei.

"Os na fydd gwahaniaeth gennych chi," meddai Huw, "mi drof yn f'ôl ar f'union wedi'ch rhoi chi ar y cei rhag ofn i'r nos fy nal." "Popeth yn iawn, Huw, mi fyddwn yn iawn ond cael ein traed ar yr ynys, a diolch i chi eto." "Os daw'ch Mam unrhyw bryd, fe ŵyr ble i gael gafael arna i, ac fe ddôf â hi draw ar unwaith." Diolch eto, a chwifio llaw ar Huw.

Chwaraeir dwy gêm yn y Cwpan Cenedlaethol heno - Caerfyrddin yn erbyn Aberystwyth ac Abertawe yn erbyn Cei Connah.

Eitha peth, meddai, oedd atgoffa cynghorwyr Caernarfon bod cyfoeth a ddaeth trwy Doc Fictoria a'r Cei Llechi wedi ei ennill ar gefn chwarelwyr y lechan las o Ddyffryn Nantlle a Llanberis.

Ni chaniateid llysenwau, ac roedd gan bawb ymron lysenw yn y Cei.

Cyn iddynt ei gyrraedd galwodd Williams arno, 'Cei glywed diwedd y stori rywbryd 'to.' 'Edrych mla'n,' meddai gan agor y drws a gadael y gwynt oer i mewn i'r orsaf.

Yn ddiweddarach ceisias gan fy nhad cychwyn cangen o'r Urdd yn y Cei, ond ni fynnai.Credaf ei fod yn ofni creu clwb a fyddai'n cystadlu a Chyrddau Pobl Ifainc y Capel.

Dyna fel y cei di lonydd ganddyn nhw.

Yr oedd llythyr ganddo oddi wrthi, ac agorodd Idris hwn cyn symud o'r cei.

Yn y man gwag wrth wal y cei lle'r arferai'r Wave of Life angori roedd chwip o gwch cyflym.