Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ceisiais

ceisiais

Un amser ceisiais ei hefelychu, a bum yn hel planhigion cactus ar yr paith a'u plannu mewn gwahanol fannau yn yr ardd.

Ond wrth fynd ati i gofnodi'r atgofion hyn ceisiais fod mor ddiduedd ac onest ag sy'n bosibl.

Ceisiais ei berswadio i dynnu ei esgidiau ac i orwedd ar ei hyd ar y gwely.

Yr ail ar bymtheg oedd hi, mae hynny'n bendant i chi." Ceisiais innau gofio.

Ceisiais ymddangos yn ddidaro.

Gan wybod fod distawrwydd yn andwyol i gerfiwr nerfus, ceisiais ailgychwyn ymgom gyffredinol trwy wneuthur sylw edmygol parthed darlun o General Buller a oedd yn hongian ar y pared gyferbyn.

* "Doeddwn i ddim yn sicr lle i droi ffwrdd oddi ar y draffodd felly ceisiais estyn map o'r 'glove-compartment'.

Ac fe'i gwelais yn suddo hefyd ddwy flynedd yn ôl i fis Gorffennaf diwethaf." Ceisiais feddwl sut y gallwn i drechu ofnau'r truan.

Wrth ei dwyn i gof wedi i mi roi yr Herald i lawr ceisiais gofio pwy oedd yr hogiau ar y traeth.

Wrth gychwyn i fyny'r lôn at y tū wedyn, ceisiais osgoi gweld y garreg fawr a saif o hyd fel arwydd o'm euogrwydd mewn perthynas â Gruff, ac erbyn hyn o bob methiant ac euogrwydd arall yn fy mywyd.

Ar ôl dychwelyd i'r Almaen, ceisiais sgrifennu'r erthygl gytbwys a oedd gennyf mewn golwg, ond rywsut ni fedrwn gysylltu'r pethau cadarnhaol a wyddwn am yr Almaen, fy mamwlad, gyda'r hyn a oedd yn digwydd o'm cwmpas bob dydd.