Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ceisio

ceisio

Ni welodd y math hwn o feirniad erioed y gwahaniaeth rhwng gwlad fechan yn ceisio'i rheoli ei hun a gwlad fawr yn ceisio rheoli eraill.

Yn ôl yr adroddiadau mae'r rhain yn ceisio rhoi consortiwm at ei gilydd i brynu'r clwb.

Doedd ei dad byth wedi dod adref a gwaith go ddiflas fyddai ceisio cysuro ei fam wrth iddi bryderu ynglŷn a chyflwr ei gŵr meddw.

Roedd fel gwylio rhywun ar draeth yn ceisio codi castell tywod wrth i'r tonnau olchi trosto.

Mam yn ceisio dianc o galedi ac oerfel Trefeca, o'r llafur a'r ddisgyblaeth ddiderfyn, gan adael un bach yn crio yn ymyl y lan a'r llall yn farw yn ei chôl.

Mae hynny'n gyson â chred y cwmni bod yn rhaid ceisio creu diddordeb a marchnad y tu hwnt i Gymru.

Hawdd coelio hynny; hawdd hefyd darlunio'r darlithydd teimladwy wynepglawr yn eistedd o'u blaen a'i law fawr yn ceisio cuddio'r wep a oedd yn gymysg o wên a dagrau.

Mae'n dweud ei neges yn glir ond nid yw'n ceisio llorio neb.

Oedd Mr Gorbachev yn ceisio celu rhywbeth?

Gorfod chwilio am ryw chwe throedfedd o dywod go lân i barcio'r corff, y bwced a'r rhaw a'r holl geriach a chael tywod yn crensian rhwng ein dannedd wrth fwyta'r brechdanau ac yn rhedeg yn afon fach ar hyd y tudalennau rydych chi'n ceisio'u darllen.

Os bydd y Cynulliad yn methu yn ei dyletswydd, bydd Cymdeithas yr laith yn ceisio trefnu cynhadledd o'r fath. Nodiadau

Mi fedra i ei glywed o 'nghwmpas ym mhob man - ar wahân i arogl lledr, glud, cemegolion a defnyddiau crai eraill.' Tydi hynna ddim yn wir,' meddai, gan gasa/ u dweud celwydd, ond yn ceisio'i hargyhoeddi ei hun mai dyna'r unig amddiffyniad yn erbyn y diwydiannwr hwn oedd mor annioddefol o lwyddiannus.

O dan yr amgylchiadau, yr unig beth caredig i'w wneud fyddai bod wedi ei gadael hi ar ei phen ei hun i lyfu ei chlwyfau ac nid ceisio esmwythau cydwybod, a dangos i'r byd ein bod ni'n bobl 'neis' yn y bon drwy arllwys ein cydymdeimlad nawddoglyd ar ei phen." "Doedd dim rhaid iddi dderbyn ein croeso..." "Ond roedd y ferch yn dal i'n caru, er ei gwaethaf hi ei hun, ac yn cael ei thynnu fel gwyfyn at fflam noeth.

Nid crynhoi nac adolygu ymdriniaeth JR yw f'amcan yma ond ceisio chwanegu rhywfaint bach ati.

Roedd hi'n bedlam ceisio mynd ar draws y dref.

Dywed Kamarin fod mudiad 'Kurdish Relief Wales' sydd â swyddfa yng Nghaerdydd, wedi bod yn ceisio helpu trwy anfon ysbytai teithiol i'w defnyddio gan y Cwrdiaid.

Un bore denodd sŵn ffidil yn canu ei sylw ac aeth at ddrws siop i weld criw o gerddorion yn gorymdeithio ar hyd y stryd ac yn ceisio cyhoeddi beth oedd sylfaen eu ffydd.

Ar yr un pryd bydd yn rhaid ceisio deall yn well arwyddocâd canlyniadau Cyfrifiad 1991.

Rydan ni yma yn ceisio rhoi llawer o gefnogaeth i'r aelodau.

Ond, fe all globwll hefyd olygu "pwll glo% yn yr ystyr cyffredin wrth gwrs ac anodd iawn fyddai ceisio dyfalu beth yn union yw ystyr yr enw Globyllau yn Aberteleri a Sain Ffagan.

Nofel ar gyfer dysgwyr am newyddiadurwraig yn ceisio datrys dirgelwch.

Dylai fod cydymdeimlad a Thony Blair - a'i fusus - ymhlith pawb sydd wedi ceisio magu plant.

Y ffordd y gallwn wneud hyn yw trwy edrych i ffwrdd o'r hyn rydym yn ceisio ei weld!

Rhaid ceisio gweld yr Adroddiadau fel esiamplau o anallu llwyr Dirprwywyr o gefndir cymdeithasol, crefyddol, cenedlaethol a dosbarth rhai tebyg i Lingen i ddeall sut y gallai unrhyw un feddwl am gefnogi'r fath fudiadau.

Dywedodd entomolegydd (person sy'n astudio pryfetach yn broffesiynol) wrthyf yn ystod un gaeaf caled fod y mathau sy'n gaeafu yn y ddaear yn treiddio'n ddyfnach fel y disgyn tymheredd pridd er mwyn ceisio amddiffyn eu hunain tuag at oroesi i dymor arall.

Yma, fwy neu lai, roedd yr 'hafanau diogel' a sefydlwyd ar awgrym John Major er mwyn ceisio gwarantu diogelwch y trigolion.

Daethant yn fwy hyf a ffyrnig fel y ciliai awdurdod y Rhufeiniaid, nes dod yn bla ar y wlad a rhaid oedd ceisio'u gorchfygu.

Bu farw'n dlotyn wedi oes fer o gynllunio a dyfeisio er lles yr ardal ac ar y diwedd roedd yn druenus ei weld yn ceisio bodoli ar yr ychydig bres a gai oddi wrth Urdd y Seiri yn Llundain.

Mae'n syndod gynifer o bobl yn yr eglwysi sy'n ceisio darganfod ar ba gyn lleied o grefydd y gallant fyw.

Mae sawl teulu wedi bod yma'n ceisio ganddo wneud y gwymwynas brudd hon iddynt.

Nid ydym wedi ceisio amcangyfrif y costau na llunio amserlen fanwl yn y ddogfen hon.

Mae'r ddogfen hon yn ceisio dweud yn fras beth ddylai'r Bwrdd ei wneud i sicrhau dyfodol ffyniannus i'r iaith Gymraeg.

Yn y cerddi hyn y mae Iwan Llwyd yn ceisio canu'r genedl yn ôl i'w bodolaeth.

Oherwydd mai proses yw, ofer felly yw edrych am nodweddion pendant o'r economi y gellir ceisio eu darganfod yn yr uwch-ffurffiant.

Daeth Myrddin at y barrau haearn yr oedd Geraint erbyn hyn yn ceisio'u tynnu'n rhydd â'i holl egni.

Mi roedd o hefyd yn feirniadol eu bod wedi ceisio rhoi pwysau gwleidyddol ar y Cynulliad.

Roedd milwyr Iran ym mhob man oherwydd yn ystod y rhyfel rhwng y ddwy wlad roedd Iraq wedi ceisio defnyddio'r groesfan ar fwy nag un achlysur er mwyn cael mynediad i Iran.

Yr hyn y mae'n ceisio ei fynegi yw nad yw trin dynion a merched yn gydradd yn golygu eu trin yr un fath.

Mae nodiadau ymyl dalen ar y llawysgrifau, fel 'ceisir cymhariaeth well' a 'ceisio cael cymhariaeth bwrpasol yma' yn gwrthbrofi hyn, i raddau.

Er ei fod yn sgrifennu o fewn cwmpas byr, y mae'n cywiro llawer o gamgymeriadau am fywyd Theophilus, ac yn ceisio unioni'r cam a gafodd trwy roi ystyriaeth i'w holl weithiau llenyddol a'i waith fel offeiriad cydwybodol.

Byddai'n rhaid, mewn geiriau eraill, gyfnewid y model rhannol a geir yn Ffigur I, model sy'n ceisio dadansoddi'r farchnad nwyddau ar wahân i farchnadoedd eraill, am fodel cyffredinol, model a fyddai'n ceisio dadansoddi'r gydberthynas rhwng y gwahanol farchnadoedd hyn a'i gilydd.

Rwyt yn ceisio mwmian rhywbeth, gan dynnu'r sbienddrych o'th ysgrepan.

Adroddiad yn dangos fod carfan Drosgïaidd dan yr enw ' Militant Tendency' yn ceisio rheoli'r Blaid Lafur.

Roedd Saran Nicholas o Gaerdydd yn ceisio talu am nwyddau werth £22.95 yn siop Howells yn y brifddinas.

Wyt ti'n ceisio cyhuddo'r ferch o fynd i'r fath eithafon a lladd ei hunan dim ond er mwyn ein brifo ni?" "Nac ydw, wrth gwrs, nid dim ond er mwyn hynny.

'Roedd y glowyr yn ceisio atal 'cynffonwyr' rhag torri'r streic; ymoso~odd-yr heddlu yn wyllt ar y picedwyr, gan bwnio un ohonynt yn gelain.

Felly, er mwyn ceisio gwneud iawn am y diffyg hwn, hoffwn ddod â'r cyflwyniad i fwcwl drwy gyfeirio at rai prosiectau sydd ar waith neu ar y gweill gennym fel Menter yng Nghwm Gwendraeth.

I sicrhau hynny, rhaid ceisio dylanwadu'n gadarnhaol ar agweddau ac arferion siaradwyr Cymraeg o ran defnyddio'r iaith.

Yn wir, fe all fod yn amhosibl dyrannu'r argost ar unrhyw sail synhwyrol, a byddai ceisio gwneud hynny'n rhoi atebion hollol gamarweiniol.

WS Owen, Cricieth, yn rhoi sgwrs ar Seicoleg ac yn ceisio egluro peth mor fyr yw breuddwyd er i ni feddwl ein bod wedi breuddwydio drwy'r nos.

Mewn un mosg yng nghanol Tripoli, buom yn ffilmio rhesi o blant yn ceisio efelychu'r gamp.

Pa ateb oedd i amheuon felly oddieithr ceisio ymwroli a chredu'r gorau.

Yn naturiol, does dim modd bwrw golwg feirniadol o ddifri ar bum cyfrol wahanol iawn i'w gilydd o fewn cwpas erthygl fer: hwyrach, serch hynny, fod rhywfaint o bwrpas mewn croniclo bras- argraffiadau sy'n codi o ddarllen cynifer o stori%au gwahanol y naill ar ôl y llall o fewn ychydig ddyddiau, a'r cyfan ohonyn nhw, rhaid dweud, yn gynnyrch llenorion go iawn sy'n grefftwyr yn y maes ac sydd, o'r herwydd, yn gwybod beth y maen nhw'n ceisio'i wneud.

Yn y flwyddyn sy'n dod byddwn yn ceisio adeiladu gwrthwynebiad unedig i gynlluniau'r llywodraeth ym maes darlledu digidol trwy ymgyrchu a chynghreirio gyda mudiadau eraill ym maes darlledu yng Nghymru.

(b) Ceisio ail-ddehongli yr hyn a ddigwyddodd mewn modd sy'n lliwio a newid yr hyn a ddigwyddodd.

Y Sul nesaf bydd y ddau sefydliad yn ceisio denu at ei gilydd y nifer fwyaf erioed o bobl i gerdded eu cwn i gyd efo'i gilydd yn yr un lle.

Rwy'n credu mai rhai pobl heb welyau sy'n ceisio hawlio trwy lwgrwobrwyo.

Tenau yw plot y nofel ac mae'r rhan fwya' o'r llyfr yn ceisio crynhoi gwahanol safbwyntiau a daliadau ynglŷn â'r ymgyrch losgi.

Pan ddywedodd yr Iesu wrth y disgyblion i fod e'n mynd i baratoi lle iddynt, a'u bod nhw'n gwybod y ffordd, a'r lle 'roedd e'n mynd, a thra oedd y gweddill o'r disgyblion yn meddwl dros y peth, yn pwslo ac yn ceisio dyfalu beth i'w ddweud, Tomos oedd yr un, y very one a ddwedodd wrtho yn blwmp ac yn blaen nad oedden nhw ddim yn gwybod o gwbwl, y ffordd na'r lle.

Y bwriad oedd ceisio gwneud y defnydd gorau o ychydig o amser.

Mae Dal Ati yn ceisio helpu dysgwyr Cymraeg a'r ieithoedd Celtaidd eraill.

Dealla'r Goriad mai'r cam diweddaraf yw ceisio prynu garej Foulkes ar Ffordd Ffarrar sy'n union wrth ochr y fynedfa i'r cae pel-droed.

Cydgerddodd y ddau i fyny'r allt, ac yntau'n ceisio tynnu sgwrs â hi, ond doedd dim yn tycio.

Dyna pam roedd Sydna, y forwyn fawr, yr eiliad honno, ar riniog y drws ffrynt yn ceisio boddi y gofid â'i chroeso a'r hwsmon, Obadeia Gruffudd, ar ei liniau ar lawr cegin y gweision yn chwilio am feddyginiaeth wahanol.

Hwyrach bod miloedd o bobl Dwyrain Berlin wedi bod yn dyheu am gael mynd i ryddid Gorllewin Berlin - ond fe fuasen nhw wedi cael eu lladd yn syth pe baen nhw wedi ceisio croesi'r wal.

Damwain mae'n siwr ydy'r ffaith fod prif gymeriadau'r ddwy nofel yn ferched ifanc, hyderus a'u bod yn ceisio datrys dirgelwch o ryw fath.

Ceisio dal gafael ar yr hawliau chwaraeon presennol, ac os yn bosibl, adennill rhywfaint o hawliau a fydd yn galluogi BBC Cymru i wasanaethu ei gynulleidfaoedd yn llawn ar radio, teledu ac arlein yn y ddwy iaith.

Mae prinder adlodd i besgi wyn ar ambell ffarm ac mae eraill, lle bu gwrteithio am ail dyfiant, yn ceisio ennill crop ychwanegol o silwair yn yr hydref.

a'r unig ymateb oddi wrthi hi oedd ceisio ein clwyfo ni drwy sylwadau creulon, o dan gochl diniweidrwydd.

Dyma fardd nad yw'n ceisio bod yn arloesol yn ei bwnc na'i fesur.

Ar ôl iddo adrodd yr hanesyn wrthyf ryw noson, fe syrthiodd ysbaid hir o ddistawrwydd rhyngom (fel a ddigwyddai'n aml), ac yn ystod y distawrwydd hwnnw dyma fi (a oedd yn Meuryna llawer yn y dyddiau hynny) - yn ceisio gorffen y cwpled.

Yr wyf yn ymwybodol wrth gyflwyno'r anerchiad hwn, sydd wedi ceisio codi cwr y llenni ar fyd ieuenctid a sefyllfa bresennol y Gymraeg, fy mod wedi codi mwy o gwestiynau ar y thema dan sylw nag ydwyf wedi gallu cynnig atebion iddynt.

Serch hynny, y mae hwn yn faes y bydd yn rhaid ei ddatblygu a byddwn yn ystod y cyfnod dan sylw yn ceisio defnyddio pob cyfle i ddwyn mwy o ddylanwad ar y sawl sy'n ffurfio a gweithredu polisïau economaidd a chymdeithasol.

Collodd ei swydd fel newyddiadurwr yn 1994 oherwydd ei fod yn mynnu gweithio ar stori oedd yn ceisio profi fod Ferret yn ddieuog o lofruddio Sian, gwraig Clem.

Ers dechreuad gwareiddiad mae'r dynolryw wedi edrych ar y sêr ac wedi ceisio dehongli eu safle yn y greadigaeth.

At ddiwedd ei lyfr y mae Dr Morgan yn mynd i blu'r haneswyr hynny sy'n ceisio esbonio'r diwygiadau crefyddol fel adwaith pobl mewn argyfyngau cymdeithasol neu ddiwydiannol.

Gyda phob deddf neu ddamcaniaeth, y peth pwysicaf y dylid ceisio ei wneud yw ei chwalu a'i gwrthdystio (falsify).

Ystyriwn mai gwaith o natur cyhoeddus a wneir gan asiantau fydd yn ceisio am gomisiwn i roi gwasanaethau cymorth i ysgolion a cholegau unigol, megis hyfforddiant-mewn-swydd, ymgynghori neu arolygu (dan gomisiwn i SPAEM, i'r Cynghorau Cyllido neu i awdurdod lleol), gan fod y fath wasanaethau wedi'u cynnig hyd yn ddiweddar gan gyrff cyhoeddus, awdurdodau addysg lleol yn enwedig ac, yn achos arolygu ysgolion a cholegau, AEM a oedd yn atebol i'r Goron.

Gofynwyd imi annerch cinio misol o Rotariaid a bu+m yn ceisio egluro dipyn am Gymru yng nghyfarfod y merched pwysig, sef, 'The Daughters of the Revolution'.

Dywedodd Alun Michael iddo ymweld âr ysbyty ddwywaith yn ddiweddar - yn ceisio cywain pleidleisiau i Lafur, mae'n debyg - ond ddim digon i gadw Helen Mary draw.

Y drefn ym Mhrydain yw ceisio rhyw le canol rhwng y ddau safbwynt - cyfuno'r awydd naturiol i gosbi a dial a'r duedd llai greddfol i ddiwygio.

Mi gei lonydd bellach." Pan oeddwn yn cael te y prynhawn hwnnw a minnau'n ceisio ateb cwestiynau Mam ynghylch yr ysgol a chelu oddi wrthi hanes yr ymladdfa, daeth cnoc ar y drws.

Roeddem yn ffodus yn y rhai fu'n ceisio ein dysgu i ganu.

Erbyn hyn, a hithau'n hen gyfarwydd â phobol yn ei chyfarch fel 'Olwen', dyw hi ddim yn ceisio dianc rhag y cyhoedd.

Ac weithiau meddyliaf ein bod wrth gwyno am y cam a ddioddefwn fel Plaid, megis ynglŷn â darllediadau gwleidyddol, er enghraifft, yn methu â dirnad yn llawn y bygythiad a wnawn i lawer o'r buddiannau breiniol yn Llundain, ac fe fyddai'n achos pryder mawr i mi pe na bai'r llywodraeth ganol yn ceisio llesteirio'n cynnydd.

Yn ôl Branwen Brian Evans, cyd-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mae'n warthus fod yr Archwilydd Dosbarth yn ceisio gorfodi polisi addysg arbennig ar y cyngor ac ar y sir.

Petai ei gyfreithiwr yn ceisio gwneud trefniant o'r fath, byddai'n debyg o'i gael ei hun yng ngharchar.

Defnyddio'r genedl a wnânt i amcanion gwladwriaethol, tra bo cenedlaetholdeb yn ceisio datblygu adnoddau moesol a materol y gymdeithas genedlaethol.

Bydd y tîm pêl-droed cenedlaethol yn ceisio ateb beirniadaeth a sicrhau pwynt o leia yn y gêm yn erbyn Gwlad Pwyl yn Warsaw, heno.

Ar yr un pryd, fe welir fod Ferrar yn ceisio adfeddiannu eiddo a aeth i ddwylo lleygwyr a'r eglwys wedi cael ei thlodi yn ei dyb ef oherwydd hynny.

Fe ddaw cyn hir." "Ac er mwyn ceisio gwneud y Nadolig ychydig yn hapusach i bawb," roedd y Maer yn siarad eto, "rydw i wedi rhoi gorchymyn i holl blant ysgol y dref yma fynd o gwmpas i ganu carolau.

Gwelwyd hyn yn neilltuol yng Ngweithgor y Genhadaeth Gartref yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd yr oedd ceisio ymateb yn greadigol i'r argyfwng ysbrydol yn yr eglwysi a'r wlad yn fater agos iawn at ei galon.

Wrth weld unrhyw fargen, dylem fod yn ceisio dyfalu pam tybed fod y gwerthwr mor awyddus i gael gwared a'r garafan os yw hi mewn cystal cyflwr ac y mynn ei bod.

Mae'r ysgolfeistr yn ceisio rheoli'r gêm yn union fel y byddai athro yn ceisio rheoli dosbarth.

Mae'r system graddio yn ceisio crynhoi nodweddion hinsawdd, tirwedd a phriddoedd mewn un system sy'n disgrifio tir yn ôl ei ddefnyddioldeb amaethyddol.

Mae'r hanes diddorol hwn am etifedd olaf Llywelyn ap Gruffudd yn ceisio ennill yn ôl ei hawl i fod yn Dywysog Cymru wedi'i gadw i ni yng ngwaith Ffrancwr o'r enw Froissart.

I mi, merch yw'r un a gyferchir yn y penillion ac ol-athronyddu methiant carwriaeth yw'r cynnwys, sef ceisio dadansoddi'r gyfathrach agosaf a mwyaf personol a all ddigwydd rhwng mab a merch.

Yr un awen a'r un ysfa greadigol sy'n cynhyrfu'r ddau, ac yn yr un ysbryd y dylid ceisio eu deall.

Heibio i'r paragraff cyntaf, ac wele: 'Oferedd i'w printio llawer o lyfrau, Blinder i'w cynnwys llawer o feddyliau, Peryglus i'w dwedyd llawer o eiriau, Anghyssurus i'w croesawu llawer o ysbrydoedd, a ffolineb yw ceisio ateb holl resymmau dynion, Ond (o Ddyn) cais di adnabod dy galon dy hun, a mynd i mewn ir porth cyfyng.' Pa arfau a feddwch i ddringo creigiau'r dychymyg hwn?

Mae'r teirw yn ceisio gwthio'i gilydd wysg eu pennau o amgylch y cylch ond dim ond am rhyw ddau funud neu dri mae'r gystadleuaeth yn para - nes y bydd un tarw ar ei liniau neu pan yw'r gwr efo'r corn siarad yn rhoi diwedd ar bethau a dau darw arall yn cael eu tywys i'r cylch a'r holl beth yn dechrau eto.