Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ceisiodd

ceisiodd

Ceisiodd Carol lunio rhestr neges yn ei phen fel y gallai ei throsglwyddo i Emyr dros y ffôn.

Ceisiodd gofio pwy fuasai'n dod â'r coffi i rywun mewn cwmni enfawr.

Yn ei waith ceisiodd Harry Hughes Williams gyfleu ei ymateb i hyn, gan symleiddio a rhoi mynegiant i'w ganfyddiad mewn paent.

Ceisiodd Llinos ei amddiffyn.

Ceisiodd Hector groesawu brwdfrydedd y gwynt llym, gan obeithio magu lliw haul, neu, o leiaf, liw tywydd ar ei groen tyner.

Ceisiodd Ali ei orau i berswadio Mary i aros, gan fynd cyn belled â gwrthod i'r plant fynd gyda hi yn y gobaith y byddai hynny'n ei darbwyllo.

Ond wedi rhai munudau o dawedogrwydd a golwg anesmwyth ar y ddau, ceisiodd Dilys ymesgusodi am ei hymarweddiad.

Dyma'r math o gymdeithas, a fodelwyd yn glos ar y gymdeithas yn 'yr hen wlad'; y ceisiodd y wasg ei gwasanaethu, ac nid yw'n syn mai'r cylchgronau enwadol a lwyddodd orau, fel yng Nghymru ei hun.

Ceisiodd hithau gofio'i wyneb.

Pan ddaeth i wybod am berthynas Cassie a Huw ceisiodd ei gorau glas i roi stop ar y cwbl.

Ond o groniclo ei hanes yn ystod y cyfnod hwnnw fe geir mai'r hyn sydd bwysicaf yw, nid ei dylanwad politicaidd cyffredinol (oblegid bychan ydoedd) ond twf ei syniadau a'r modd y ceisiodd ei harweinwyr lunio a diffinio safbwynt ac agwedd Gymreig tuag at argyfwng y dydd.

Ceisiodd brynu amser trwy sefydlu Quango dof -- 'Bwrdd yr Iaith Gymraeg' -- gan ddewis yr aelodau eu hunain.

Ceisiodd rhai picedwyr dynnu'r gatiau oddi ar eu pyst.

Pan ddaeth Teg i wybod fod Cassie'n disgwyl plentyn Huw ceisiodd ei orau i fyw gyda'r sefyllfa, ond methodd.

Ceisiodd feddiannu maenor Llandygwydd a oedd ym meddiant Robert Birt fel tenant.

Ceisiodd sicrhau lle amlwg i'r Gymraeg yng Ngholeg Dewi Sant.

Fel y ceisiodd un athrawes bwysleisio wrth ei diadell o blant anystywallt.

yng nghymru ceisiodd pregethwyr o fri ddarbwyllo eu cynulleidfaoedd y dylent gefnogi bob ymdrech i ymgyrchu o blaid heddwch.

Ceisiodd bob modd gan ei rieni adael iddo ddod i'r ysgol i'r Bala, ac roedd Hugh Evans mewn awydd mawr i fynd.

Tua dechrau'r bymthegfed ganrif y seiliwyd, ymhlith eraill, brifysgolion hynaf yr Alban ac y ceisiodd Owain Glyn Dwr wneud yr un gymwynas â Chymru.

Ceisiodd dyn ar hyd yr oesoedd fesur fy modolaeth, ac, yn ei ddoethineb, erbyn hyn, wedi llwyddo, a sylweddoli mai fi ydyw mesur ei fodolaeth ef o'i grud i'w fedd.

Ynddo ceisiodd egluro sut y ffurfiwyd yr ynys wedi'r Dilyw, a holai beth oedd iaith y trigolion, ai o'r Hebraeg y tarddodd y Gymraeg: disrifiodd gyfraith a chrefydd gynnar yr ynys, athroniaeth a defodau'r Derwyddon, eu tamlau, eu hallorau a'u canolfannau yn y llwyni derw, gan atgynhyrchu'r lluniau o'r henebion derwyddol a gynhwysodd yn ei atebion i Queries Lhwyd.

Ceisiodd Syr John ddarbwyllo ei fab hynaf y dylai weithio'n fwy dyfal gyda'i astudiaethau yn Ysbyty Lincoln oherwydd, oni wnâi ei hun yn addas ar gyfer bywyd Llundain, byddai'n rhaid iddo fodloni ar fywyd y wlad.

Gwr oedd ef a oedd wedi gwneud yn union yr un peth ag y ceisiodd Casement ei wneud.

Ceisiodd Carol gysuro Guto a sicrhau Owain fod popeth yn iawn; yn wir, roedd hi'n falch o fedru ymateb i'w gofynion syml er mwyn hoelio ei meddwl ar y presennol ac ar y fan a'r lle, a thrwy hynny gadw'r cwestiynau ofnadwy draw.

Ceisiodd ganolbwyntio.

Ceisiodd Lisa fyw gyda Dic am gyfnod ond 'doedd cyd-fyw ddim yn hanner cymaint o sbort ag affêr a chwalodd y cwbwl yn fuan wrth i Lisa ddychwelyd at Barry John a'i dwyllo yntau hefyd.

Ceisiodd symud yn ôl, ond yr oedd ei desg yn union y tu ôl iddi.

Rhwng 1925 a 1939 ceisiodd Saunders Lewis ymddiswyddo droeon o fod yn Llywydd y Blaid Genedlaethol, hynny am resymau amrywiol a dieithriad anrhydeddus.

Ceisiodd gerdded heibio i Gary tua drws y toiledau, ond camodd hwnnw'n gyflym wysg ei ochr a chafodd Dilwyn ei fod rhyngddo a'r drws.

Ceisiodd W.

Ceisiodd Cei Hir daro bargen ag Esyllt, gan gynnig gadael i Drystan fynd yn rhydd os câi yntau Olwg Hafddydd, yr oedd wedi ymserchu ynddi.

Ceisiodd yr Athro Steve Jones, genetegydd o Goleg Prifysgol Llundain, ddatrys dirgelion yr hyn a olygir wrth Gymreictod a chenedligrwydd, ynghyd â dadansoddi o ble, yn hanesyddol felly, y daeth cenedl y Cymry.

Ond ceisiodd Wyn ei pherswadio fod raid i'r Llewod i gyd fynd yno.

Y bennod yr ymddiddorodd Peate fwyaf ynddi (a barnu wrth y dyfyniadau mynych a gododd ohoni yn ei waith diweddarach) oedd y ddegfed, 'Soul-Making', lle y ceisiodd Murry dreiddio i seiliau metaffisegol estheteg Keats.

Roedd llwythau cyntefig yn ymwybodol iawn o'i allu dir- gel, ac addolent hwy ef fel duw.Wrth i ddyn ddysgu mwy am ei fyd, ceisiodd ddeall a dysgu mwy am yr haul, gan arbrofi llawer er mwyn esbonio'i ryfeddodau.

Gafaelai'r rhew am ei gorff yr un fath â phawen arth wen yn glynu mewn morlo bach "Helpwch fi, ffrindiau annwyl, helpwch fi!' Ceisiodd Alphonse weiddi, ond syrthiodd yn llonydd ar y ddaear.

Steddwch!" O'i eistedd ceisiodd wrthwynebu ar dir arall.

Ceisiodd ddisgybl Stalin yng Nghymru, T.

Ceisiodd ei godi ei hun o'r dŵr wrth iddo gael ei lusgo drwy'r tonnau.

Ceisiodd ddysgu rywfaint o Gyrnraeg, er na fu, ysywaeth, yn llwyddiannus iawn yn ei ymdrechion.

Ceisiodd eu mam eu lonni trwy chwarae eu hoff gase/ t, Tomos y Tanc, ond aeth hi'n gymaint o ffrae rhwng y ddau fel na chlywent y tâp.

'Roedd Graham yn awyddus i ail afael yn y berthynas ond ceisiodd Diane ei gorau i aros yn ffyddlon i Reg.

Ceisiodd y Capten berswadio un o'r criw i neidio i'r môr a nofio o dan y dwr i weld lle roedd y llong yn gollwng.

Ceisiodd y Torïaid brynu'r Cymry Cymraeg trwy roi iddynt grantiau i ddiwylliant Cymraeg a'u Quangos bach eu hunain ar yr amod nad oeddent yn herio'r drefn.

Yn y cyfrwng hwn yn union y daeth T Gwynn Jones i'r maes gyda'i astudiaeth o Rieingerddi'r Gogynfeirdd, a chan dderbyn rhai o awgrymiadau'r ysgolheigion a fu'n gweithio ar Ddafydd ap Gwilym a gwrthod eraill ohonynt, ceisiodd ddangos fod yn y 'rhieingerddi' yr un math o farddoniaeth ag a geir yng ngwaith y Trwbadwriaid, a bod rhai o arferion y Trwbadwriaid gan y beirdd Cymraeg.

Ceisiodd hefyd eu paratoi'n ofalus ar gyfer y ffaith na fyddai Taid yno eleni i chwarae efo nhw a chanu am oriau bwy gilydd.

Ceisiodd y gwasanaeth gydnabod yr effaith a gafodd y camdrin ar bobl yn ymwneud â gofal plant yng ngogledd Cymru.

Ceisiodd wau ei ffordd drwy'r dyrfa a'r ceffylau, a chyhyrau'i freichiau'n dyheu am roi'r gurfa.

Ceisiodd hwnnw esbonio ei benbleth gan ofyn a oedd y ferch wedi cyrraedd rai eiliadau o'i flaen.

Ceisiodd ei orau i gael gafael yn y darn o haearn a ddaliai'r cloc yn sownd wrth ochr y llong, ond doedd ei feddwl ddim yn glir gan ei fod mor gysglyd, a chyn iddo sylweddoli beth oedd yn digwydd, roedd wedi disgyn i'r dŵr y tu ôl i'r llong!

Fel gweddill ei deulu agos, cyrhaeddodd Mark Gwmderi yn 1993 ac er fod gweddill y gymuned yn ei gasáu ceisiodd Hywel Llewelyn weld y gorau yn Mark ond talodd Mark ei garedigrwydd yn ôl drwy losgi car Hywel a dwyn ei draethawd ymchwil.

Ceisiodd ddweud hynny wrtho drwy'r beipen ond roedd yntau hefyd yn swnio'n hollol wirion i'w frawd.