Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

celfyddyd

celfyddyd

Ar ben hynny yr oedd y Swyddfa Amddiffyn wedi atafaelu Neuadd Prichard-Jones i fod yn gartref tros gyfnod y Rhyfel i rai o drysorau celfyddyd y deyrnas.

Symudodd i Aberystwyth, yn teimlo ei fod angen newid, a thrwy weithio ar brosiect cymunedol ac aml-gyfrwng ym mhentref Cribyn, croesodd y bont rhwng byd celfyddyd gain a'r theatr, gan weithio am dair blynedd wedyn gyda Chwmni Cyfri Tri.

Nid creu darlun pert yw celfyddyd ddifrifol, ond yn hytrach math o athroniaeth ymarferol, neu ymgorfforiad o arwyddion sy'n cyfleu rhyw agwedd o'r byd.

Y gwrthwyne, fynychaf, sy'n wir ym myd celfyddyd," meddai.

Ochr yn ochr a chanu modern yn Gymraeg, mae yna, yn epigau'r Eisteddfod ac yn ymarferion barddol y talyrnau a'r ymrysonfeydd, grefft arbennig sydd ambell dro yn codi i dir celfyddyd ond yn amlach yn syrthio beth yn is.

O'n i'n ffendio byd celfyddyd gain yn uffernol o 'pretentious', a do'n i ddim yn lecio'r unigrwydd o weithio ar dy ben dy hun, ddydd a nos, ar rywbeth sy'n hunan- obsesiynol beth bynnag.

Yr Eglwys oedd prif ffynhonnell celfyddyd weledol Cymru drwy gydol yr Oesoedd Canol.

Roedd pêl-droed Brazil yn codi rhywun i'r entrychion -- ....nid jest chwarae oedd yma ond celfyddyd yn rhoi mynegiant i'r ysbryd dynol ar ei orau, yn llawn llif dychymyg, creadigrwydd a llawenydd.

Gofidia'r golygydd nad yw materion celfyddyd o ddiddordeb i'r rhan fwyaf o Gymry

'Roedd yr awdl yn sôn am oes aur celfyddyd a gwarineb, ond ar ddiwedd y Rhyfel dechreuad yr Oes Oer ac nid yr Oes Aur a welwyd yn Eisteddfod Rhosllannerchrugog.

Yn Lloegr yr oedd llenorion nid yn unig yn chwilio posibiliadau sech fel ffordd ddihangfa amgenach na chrefydd, eithr hefyd yn chwilio posibiliadau celfyddyd fel trydedd ffordd ddihangfa.

Y mae celfyddyd y Pwyliaid, fel hwy euhunain, yn lawn dewrder, gwreiddioldeb ac ysfa angerddol i gyfathrebu.

Celfyddyd er mwyn celfyddyd?

Mae'r frwydr rhyngddo ef a Thomas Jones Dinbych ar raddfa eang: 'P'run ai fo ai Mr Jones, Dinbych ddaw i'w Waterlŵ yfory?' A yw'r dehongliad hwn yn gorliwio'r sefyllfa sy'n gwestiwn arall: y pwynt yw ei fod yn argyhoeddi fel celfyddyd.

Mae Darwin hefyd yn gartref i lawer o frodorion - aborigini - felly dyma'r lle i ddod i ddysgu am eu celfyddyd a'u hanes.

Bellach yn tynnu am ei nawdegau, roedd hi'n rhan o symudiad penodol mewn celfyddyd theatr, yr English Stage Company, a ffurfiwyd yn Sadlers Wells ar ôl y rhyfel; yna, ymlaen drwy'r Birmingham Rep.

Tynnai'r rhain oll nerth a swcwr at eu hamcanion o'r cynnydd mewn masnach, addysg, celfyddyd, diwylliant a balchter gwladol a lleol y buwyd yn cyfeirio atynt eisoes.

Yn ogystal â dangos lluniau rhai o arlunwyr enwocaf Môn, megis Kyffin Williams, mae Oriel Ynys Môn yn cefnogi celfyddyd a chrefft yr ynys yn gyffredinol drwy drefnu rhaglen o arddangosfeydd cyhoeddus (yn yr ystafell arddangosfeydd dros dro).

Er bod lle i ddal fod Traed mewn Cyffion yn rhy gynnil mewn mannau, ac mewn perygl o droi'n gronicl moel, rhaid derbyn yn gyffredinol nad yw Lewis Jones ddim yn yr un cae a Kate Roberts lle mae celfyddyd lenyddol yn y cwestiwn.

Trwy'r rhestrau hyn, gosododd Dewi Mai o Feirion faes llafur ardderchog ar gyfer y gymdeithas newydd-anedig, a thrwy lunio'r braslun o reolau, fe orfododd aelodau'r gymdeithas i ystyried eu celfyddyd o ddifrif, gan lunio canllawiau diogel i'w harwain ymlaen i'r dyfodol.

Yn y rheini, gan amlaf, pwysleisir gogoniant y diwylliant a fu, a'i bwysigrwydd yn hanes Ewrob; fe roddir i ni ddarlun o gampau'r Groegiaid mewn celfyddyd, llenyddiaeth, gwyddoniaeth ac athroniaeth, gyda'r canlyniad y gwahoddir ni i'w hedmygu yn hytrach na'u deall.

Y mae celfyddyd ysgrifennu a chreu unrhyw fath o lenyddiaeth yn ffrwyth hyfforddiant o fath gwahanol i'r hyn a geid yn yr ysgol Sul.

'Roedd ei genedlaetholdeb yn pwysleisio'r undod rhwng hanes, llenyddiaeth, celfyddyd, gwerthoedd cymdeithasol ac ideolegau gwleidyddol.

Er y gall hyn swnio fel esthetigiaeth, sef dyrchafu celfyddyd er ei mwyn ei hun, nid dyna a olygir.

Canfyddir y delfryd yn eglur iawn yn Il Cortegiano gan Castiglione lle y disgrifir prototeip y gŵr bonheddig perffaith, sef y cortegiano amryddawn ac eang ei gyraeddiadau a fagodd chwaeth at ddysg, celfyddyd, a bywyd cyhoeddus.

Roedd Harry Hughes Williams yn baentiwr talentog a brwd o dir a daear Gogledd Cymru, ond mae ei ddiymhongarwch yn gur pen i'r hanesydd celfyddyd a fynn sôn amdano.

O sylwi fel y trodd bopeth a ddywedodd yn 'Safonau Beirniadaeth Lenyddol' â'i wyneb i waered yn 'Swyddogaeth Celfyddyd', mae hynny'n sicr o fod yn wir.

(Yn Lloegr y gwrthwyneb sy'n digwydd, mae diwylliant yn cael ei ddihidlo o'r sefydliad i lawr.) Ef oedd y llais Cymreig a lefarai dros swyddogaeth cymdeithasol celfyddyd, a bu'n cydweithio â phobl eraill mewn gwahanol feysydd celfyddydol dros y blynyddoedd, gan sefydlu'r mudiad Beca oddeutu ugain mlynedd yn ôl.

Y mae ei gynhyrchion yn rhyfeddol o gywrain: cynhyrchion celfyddyd, yn wir, yw ei waith.

A chorfforwyd y brotest yn y Mudiad Rhamantaidd mewn llenyddiaeth, celfyddyd a miwsig.

Yr argraff oedd, fod creu rhaglen deledu i rai fel Gwyn Erfyl yr adeg honno yn ymdrech hefyd i greu celfyddyd.

Y mae ambell ddarn o graffiti yn codi dir uchel mewn celfyddyd weledol: Balls to Picasso - Ambell un yn grefyddol ei naws: "Jesus Saves--but Southall is better." Mae amryw byd yn rhywiol wrth gwrs ac mae waliau tū bach yn feysydd ymchwil anhepgorol i'r sawl sydd am lunio Blodeugerdd o Limrigau neu hyd yn oed gasgliad o englynion coch.

Ond nid yn llym y dywedir hynny: mae'r awdur fel petai'n cydnabod anghysonderau'n bywyd ni y tro hwn ac yn cael gras i'w croesawu a'u troi'n ddefnydd celfyddyd.

Er ei methiant cymharol (ac onid trafod llwyddiant a methiant cymharol yr ydym mewn celfyddyd fel mewn bywyd?), fe berthyn iddi liaws o rinweddau, ac efallai fod hyd yn oed ei gwendidau yn dadlennu pethau diddorol am natur ein diwylliant llenyddol yn gyffredinol.