Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

celfyddydol

celfyddydol

Mae siarad ag Eryl Ellis am eiwaith yn sicr yn cynnig cipolwg ar fyd artistig, deallusol cynhyrchu theatr; cawn yr argraff ei fod ar fin ehangu ar y theori%au dwfn, abstract, a syniadau a iaith gymhleth, aruchel yr athronwyr celfyddydol.

Er mwyn dathlu'r cof, roedd yr Arlywydd Vytautas Lansbergis, cerddor a droes yn wleidydd, wedi trefnu cyngerdd swyddogol yn yr Opera, y palas celfyddydol moethus a godwyd, medden nhw, am fod Brezhnev unwaith wedi'i addo yn ei feddwdod.

Ei gyfraniad mawr i lywodraeth yr Eisteddfod oedd ei allu i edrych ar broblem o sawl cyfeiriad, o safbwynt ariannol, o safbwynt trefniadol, ac o safbwynt celfyddydol, ac arwain ei gydgynghorwyr yn y diwedd at benderfyniad y byddai'r budd mwyaf ohono yn deillio i'r eisteddfodwr cyffredin.

(Yn Lloegr y gwrthwyneb sy'n digwydd, mae diwylliant yn cael ei ddihidlo o'r sefydliad i lawr.) Ef oedd y llais Cymreig a lefarai dros swyddogaeth cymdeithasol celfyddyd, a bu'n cydweithio â phobl eraill mewn gwahanol feysydd celfyddydol dros y blynyddoedd, gan sefydlu'r mudiad Beca oddeutu ugain mlynedd yn ôl.

Roedd yn naturiol, felly, i ni fod yn uchelgeisiol yn ein hymateb i'r Uwch-gynhadledd Ewropeaidd yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 1998: nid adroddiadau a dadleuon yn unig, ond hefyd rhaglenni dogfen, celfyddydol ac adloniant ysgafn.

Trafodwyd digwyddiadau celfyddydol eraill ar Four Star, gyda rhaglenni unigol arbennig megis This is My Truth, Tell Me Yours yn dilyn taith y Manic Street Preachers o'r Coed Duon i enwogrwydd.