Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cemegol

cemegol

Dyma'r adeg, felly, i geisio atal crach drwy eu chwistrellu â deunydd cemegol pwrpasol.

Er hynny, rhaid wrth rywfaint o adweithedd er mwyn gallu torri i lawr ac adeiladu cadwyni cemegol, a thrwy hynny greu hylifedd.

Bydd yn rhaid cael deunydd cemegol arall ar gyfer hynny.

Os yw bywyd ar unrhyw blaned i ddatblygu hyd at stad uwchddiwylliadol yna mae'n rhaid i'r blaned honno ymateb i dri o ofynion o leiaf; rhaid i'w chyfansoddiad cemegol fod yn debyg i un y Ddaear; rhaid i'w phellter o'i haul sicrhau bod tymheredd ei harwyneb rywle rhwng rhewbwynt a berwbwynt dwr; rhaid i'w haul fodoli am ddigon o amser er mwyn galluogi bywyd deallgar i ddatblygu, sef rhyw ychydig o filoedd o filiynau o flynyddoedd.

Nid yw'r glud yn un cryf iawn, mae tua deg gwaith gwannach na bondiau cemegol arferol felly mae'n eitha' hawdd datod y belen protein o'i siap.

Mae'r awydd i fridio ac i fudo hefyd yn gysylltiedig â newidiadau cemegol yng nghorff yr aderyn.

Mae pedwar sylwedd cemegol sy'n bwysig iawn i'r ardd.

Mewn gwirionedd nid yw'r belen yn flêr, mae'r siap a'r ffurf wedi eu trefnu'n ofalus ac yn cael eu dal at ei gilydd gan gysylltiadau neu fondiau cemegol a elwir yn fondiau hydrogen.

Oherwydd nad oes angen unrhyw ddatblygu cemegol ac argraffu i wneud y lluniau terfynol fe all y cynhyrchydd chwarae'r deunydd newydd ei recordio yn ôl yn y man a'r lle i sicrhau fod yr ansawdd o safon dda.

Er enghraifft, os yw'r organeb yn metaboleiddio siwgr, rhaid iddi ddewis y math cemegol o siwgr sydd arni ei eisiau oddi wrth organebau eraill.

Felly, mae'r deunydd cemegol yn y chwynladdwr yn "dewis" lladd y deiliach llydain, neu'r chwyn.

Newid cemegol o'r enw ocsideiddio yw rhwd.

Y mae'r amser sy'n angenrheidiol i fywyd ddatblygu yn ffracsiwn uchel o oes seren fel yr Haul, felly os yw'r adweithiau cemegol yn rhy araf ni fydd bywyd ond prin wedi dechrau cael ei sefydlu pan ddaw ei ddiwedd sydyn yn sgil marwolaeth yr Haul.

Bob dydd, byddwn yn defnyddio llawer o'r hyn a grewyd o ganlyniad i newid cemegol.

Yn ogystal ag atgenhedlu rhywiol, fe geir mwtaniad mewn natur, lle caiff gwybodaeth enetig yn y DNA ei newid yn ddamweiniol - er enghraifft, wrth i ymbelydredd naturiol effeithio ar sail rhai o'r adweithiau cemegol yn niwclews y gell.

Camp y garddwr yw dod i'w hadnabod yn dda fel na bo'n chwistrellu defnyddiau cemegol yn ddiangen.

Ni all organebau byw fod yn solidau ychwaith, gan fod adweithiau cemegol yn ogystal a phrosesau tryledu mor eithriadol o araf mewn solidau fel y gellir eu hanwybyddu.

Gall rhai nwyon cemegol o simneiau ffatrioedd hefyd beri i fetalau rydu.

Mae gwrteithiau'n rhoi sylweddau cemegol sy'n angenrheidiol i blanhigion dyfu.

Gan amlaf, mae'r de nyddiau cemegol yn cael eu gwerthu yn ôl yr enw a roddir arnynt gan y cwmni%oedd masnachol, felly gwell i chwi egluro beth yn union sydd yn eich meddwl cyn prynu unrhyw ddeunydd cemegol ag iddo enw masnachol.

Heb rai cynhwysion sy'n creu newid cemegol, ni fyddai llawer riset yn gweithio.

Wrth feddwl bod yn rhaid i doddiant addas ymateb i'r holl ofynion hyn, a hynny i gyd ar yr un pryd, ychydig iawn o bosibiliadau sy'n bod ymhlith y cyfansoddion cemegol sy'n wybyddus ar y planedau, y meteorau a'r comedau.

Diolch i'r drefn, hwn oedd y tro olaf i bawb ohonom orfod ein diogelu ein hunain rhag bygythiad cemegol Saddam.

Os oes raid, gellir eu difa trwy chwistrellu deunydd cemegol pwrpasol arnynt.

Mewn organebau byw, cemegol yw natur y wybodaeth hon, a molecylau cemegol yw'r symbolau sy'n adlewyrchu'r wybodaeth am y nodweddion gwahaniaethol.

Yn y llyfr hwn, byddwn yn ymchwilio i rai sylweddau cemegol y gellir eu gweld yn y cartref.

Er mwyn datblygu bywyd rhaid i adweithiau cemegol ddigwydd ar gyflymder rhesymol, ond os disgynna'r tymheredd yna mae cyfradd yr adweithiau hyn yn disgyn hefyd.

Y mae asidau ac alcaliau yn sylweddau cemegol pwysig.

Gellir bwydo'r glaswellt a lladd chwyn ar yr un taeniad trwy ddefnyddio cymysgedd o ddeunydd cemegol sy'n cynnwys gwrtaith a chwynladdwr yn yr un cymysgedd.

Gan fod y mwyafrif o'r elfennau cemegol yn rhai prin iawn, nid ydynt yn ateb y gofyn hwn.