Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cenedlaetholdeb

cenedlaetholdeb

Rhaid gwahaniaethu hefyd rhwng cenedlaetholdeb, imperialaeth o thotalitariaeth, er cydnabod y gallant oll weithiau gyd- fodoli yn yr un wlad.

Ef a roes fawredd i ymgyrch Cymdeithas yr Iaith yn erbyn gwarth arwisgiad y tywysog Charles yng Nghaernarfon, seremoni, fe wyddom heddiw, a wthiwyd ar eu gwaethaf ar y teulu brenhinol Seisnig gan Swyddfa Gymreig y Blaid Lafur er mwyn lladd cenedlaetholdeb Cymru.

Heddiw rhaid inni ddeall fod rhagfarn wrth-Gymreig y blaid Lafur mewn rhai rhannau o Gymru-Morgannwg Ganol, er enghraifft - yn deyrnged uniongyrchol i'n cynnydd ni, gan fod rhaid i Lafur ystyried cenedlaetholdeb Cymreig fel gelyn gwleidyddol o'r radd flaenaf.

Ond mi fentraf anghytuno ag RT Jenkins ar un peth go bwysig, sef yr oed a rydd i'n cenedlaetholdeb diwylliadol.

Fel Grundtvig yn Denmarc yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cysylltodd "AE" athroniaeth elfennol cenedlaetholdeb ag "egni ymarferol".

Prin yr ystyriai, er hynny, mai 'i alwedigaeth ef oedd ysgrifennu cyfrolau ar egwyddorion cenedlaetholdeb.

Sut bynnag, yr oedd Ymgyrch y Cyfamod yn ymgyrch gyffrous a llwyddiannus dros ben, a chafodd ddylanwad mawr ar dwf cenedlaetholdeb yn Sgotland.

I ddod yn nes atom, ystyrier cenedlaetholdeb Iddewig.

Rhaid gwahaniaethu rhwng cenedlaetholdeb diwylliannol a gwleidyddol, diwylliannol - da, i gadw amrywiaeth.

Canys y mae hefyd wir berygl i hynny frysio lladd cenedlaetholdeb Cymreig.

Mae'r pwyslais ar werth cadarnhaol cenedlaetholdeb cydweithredol a chreadigol yn un i'w ganmol.

Cwyd y dyryswch o ddau ddiffyg, methu â gweld y gall cenedlaetholdeb fod yn dangnefeddus a methu â sylweddoli rhywbeth a ddylai fod yr un mor amlwg, sef fod gwahanol fathau o genedlgarwch yn bod ymhlith yr Iddewon y pryd hynny megis ymhob cenedl ymhob oes.

Y mae cenedlaetholdeb a cheidwadaeth yn eu hanfodion yn un.

Mae'n ddiddorol, er hynny, fod Stalin, hyd yn oed, yng nghanol berw'r Chwyldro Comiwnyddol wedi gorfod rhoi ystyriaeth i athroniaeth cenedlaetholdeb.

Rhoddir cryn bwyslais yn athroniaeth cenedlaetholdeb - fel y'i mynegir, er enghraifft, yn nramâu Saunders Lewis, yr oedd Kitchener yn fawr ei edmygedd ohonynt - ar y ffaith fod angen cymdeithas ar yr unigolyn fel cyfrwng i gyflawni ei natur.

Yn ei haraith Jiwbili, y Frenhines, yn anuniongyrchol, yn beirniadu cenedlaetholdeb yng Nghymru a'r Alban.

Defnyddio'r genedl a wnânt i amcanion gwladwriaethol, tra bo cenedlaetholdeb yn ceisio datblygu adnoddau moesol a materol y gymdeithas genedlaethol.

Ni fynnaf drafod yma odid ddim ar yr Oesau Canol a pharhad y math (neu'r mathau) o genedlaetholdeb a geid yno, am y rheswm syml fy mod o'r farn inni gael yn rhan o'n cynhysgaeth o'r unfed ganrif ar bymtheg i lawr lun ar genedlaetholdeb diwylliadol 'newydd', cenedlaetholdeb ag iddo nodweddion anfediefal, cenedlaetholdeb yn y meddwl a'r dychymyg a oedd yn ymgais i wrthsefyll nerth y dylanwad allanol a oedd arnom.

Yn ei henaint dangosodd gryn ddewrder yn ei ymlyniad wrth gydwybod ar bwnc heddwch a rhyfel, ond er iddo dreulio blynyddoedd yng Nghymru nid ymddengys iddo ymglywed o gwbl â'r cyffro cenedlaethol na dangos y diddordeb lleiaf ym mhwnc cenedlaetholdeb mewn egwyddor na gweithred yng Nghymru.

Wel, mae cryn waith mysgu ar elfennau'r cenedlaetholdeb hwn hefyd.

(Ie, yn y cyfnod cynnar, peth rannol Seisnig, peth a gyfryngwyd drwy Loegr, 'mediated through England', chwedl RT, yw hyd yn oed ein cenedlaetholdeb diwylliadol!

Ond nid ydynt yn dysgu unrhyw wers o'u cenedlaetholdeb!

Bu'n hawdd yn wastad i feirniaid gysylltu cenedlaetholdeb Cymreig ag unrhyw fath o genedlaetholdeb a all ddigwydd bod yn niweidiol: yn nes ymlaen, disodlwyd arf cenedlaetholdeb Gwyddelig gan arf Natsiaeth.

Hyn yw sylfaen cenedlaetholdeb Cymreig.

Manteisiodd llawer ohonom ar y dosbarth hwn; fe'n hyfforddid yn egwyddorion cenedlaetholdeb Cymreig ac ym mholisi'r Blaid o dan arweiniad JE Daniel ac Ambrose Bebb.

Gan wahaniaethu rhwng cenedligrwydd a chenedlaetholdeb, a chan dderbyn fod y naill o reidrwydd yn sail i'r llall, y mae'n dweud ar ei ben taw peth diweddar iawn yw cenedlaetholdeb gwleidyddol yng Nghymru - 'little older (apart from the occasional voice crying in the wilderness) than the second half of the nineteenth century.' Yna, yn ail hanner yr erthygl, try RT Jenkins at 'y ffurf arall ar genedlaetholdeb Cymreig', y ffurf ddiwylliadol arno.

Peth ofnadwy yw cenedlaetholdeb onide?

'Roedd tyndra, i ddechrau, rhwng Cymreictod a Phrydeindod, rhwng cenedlaetholdeb ac Imperialaeth.

Ar hyn o bryd y mae cenedlaetholdeb rymusaf yn Affrica ac Asia.

Lle y mae gwahaniaeth hil, dwyseir cenedlaetholdeb y ddwy blaid.

Yn ystod y rhyfeloedd hyn yn y bymthegfed ganrif y datblygodd cenedlaetholdeb Seisnig.

'Roedd cenedlaetholdeb yn codi yn Iwerddon.

Wrth sefydlu'r Blaid daethpwyd o hyd i egwyddorion sylfaenol cenedlaetholdeb Cymreig.

Mi ddaliaf i ei fod yn hŷn o lawer na'n cenedlaetholdeb gwleidyddol, ac y gellir ei olrhain, yn ei ymwneud a'n hiaith ac a'n hanes, i ddechreuad y cyfnod modern.

Thema ganolog: Gwrthdaro: y gwrthdaro rhwng yr hen werthoedd a'r gwerthoedd newydd, rhwng Cymru Oes Victoria a Chymru'r ugeinfed ganrif; rhwng Sosialaeth a Chyfalafiaeth; rhwng anterth a dechreuad cwymp yr Ymerodraethau Mawrion; rhwng aelodau'r Orsedd, cefnogwyr a dilynwyr Iolo Morganwg, a'r ysgolheigion newydd, dinoethwyr Iolo; rhwng beirdd hen-ffasiwn yr Orsedd a beirdd 'yr Ysgol Newydd'; rhwng cenedlaetholdeb a Phrydeindod.

Nesaf at berygl rhyfel rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin barnaf mai cenedlaetholdeb yw'r perygl mwyaf sy'n wynebu dyn ar hyn o bryd.

Llyfrau a phamffledau J R Jones yw clasuron ein cenedlaetholdeb ni heddiw.

Lladd cenedlaetholdeb yw pregethu i etholwyr Cymru mai mantais economaidd iddynt hwy fyddai fod gan Gymru annibyniaeth neu mai felly'n unig y cânt hwy lywodraeth sosialaidd.

Yn ei hanfod, cenedlaetholdeb diwylliannol yn hytrach nag annibyniaeth wleidyddol y dymunai ef i'r blaid newydd fabwysiadu - awgrymodd y gallai annibyniaeth wleidyddol awrain at drais a gormes.

Hanes Cymdeithas yr Iaith yw hanes cenedlaetholdeb Cymreig o 1962 hyd heddiw.

Thema ganolog: Oes y Brotest: cyfnod y protestio mawr yng Nghymru ac ym Mharis, America, a mannau eraill; yr Arwisgo yng Nghymru yn chwalu gobeithion llawer ond yn caledu cenedlaetholdeb, protestio mawr gan Gymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod, ond y cyfan yn diweddau mewn siom gyda phleidlais negyddol Cymru yn y Refferendwm ar Ddatganoli ym 1979, ac ymateb T.James Jones yng nghystadleuaeth y Goron.

Awdl arall yn y gyfres o awdlau a cherddi a ddanbgosai fod yr ysbryd cenedlaetholdeb yn codi.

Fel y dengys y teitl, trafod datblygiad cenedlaetholdeb Cymreig y mae yn yr erthygl honno.

Mynnai Glanffrwd mai'r Gymraeg oedd 'canolbwynt ein cenedlaetholdeb'.

Pwysig yw i ni, sydd yn sôn am seiliau Cristnogol i'n cenedlaetholdeb, gofio fod Iddewiaeth a Hindwaeth a chrefyddau eraill wedi cynhyrchu rhai o arweinwyr pennaf cenhedloedd yn y cyfnod modern.

Cychwyn gyda gwrtheb a wnaeth yr awdur - ar Genedlaetholdeb yr oedd y bai am bicil Cymru gyfoes, cenedlaetholdeb gwladwriaethau Ewrop, gyda'u pwyslais ar undod a chryfder ar draul diwylliannau lleiafrifol.

Yn gyntaf, cenedlaetholdeb fel ffenomen wleidyddol.

Pan ymffyrnigodd y tyndra rhwng awdurdod Rhufain a'r cenedlaetholdeb herfeiddiol daeth gwŷr y dagr, y Sicarii, yn amlwg ymhlith y Selotiaid.

Yr anerchiad pwysicaf, fodd bynnag, oedd un Saunders Lewis yn y cyfarfod agoriadol ar "Egwyddorion Cenedlaetholdeb" a gyhoeddwyd yn ddiweddarach fel pamffledyn cyntaf y Blaid.

Yr athronydd o Gymro a fyfyriodd ddwysaf ac a gyfrannodd fwyaf i seiliau syniadol cenedlaetholdeb yw J.

Thema ganolog: disgyflogi, diboblogi, a bygwth dwyn tir Cymru yn arwain at ddechreuad Oes y Brotest: cenedlaetholdeb ar gynnydd yn sgîl y bygythiad i foddi Cwm Tryweryn, darlith 'Tyned yr Iaith' Saunders Lewis a ffurfio Cymdeithas yr Iaith, a phroblemau economaidd a gwleidyddol Cymru yn arwain at gyfnod y Brotest; a buddigoliaeth Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin efaill yn pwyntio i gyfeiriad Oes y Brotest.