Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cerddodd

cerddodd

Cerddodd rhai i lawr ond ces i docyn dychwel.

Tybed ydy William Thomposon, Moelfre, yn cofio'r nos Sadwrn honno y cerddodd nifer ohonom ar hyd y traeth o Draeth Coch i Fenllech.

Cerddodd at ddrws y gegin.

Cerddodd y tri ohonynt yn ôl at y car ac agorodd Carol y drws cefn i'r bechgyn gael dringo i mewn.

Cerddodd yn araf tuag ataf "Pam na fasech chi'n dwad i eistedd efo mi yn y sedd flaen?" "'Roedd yn well gen i fod o'r golwg.

Fel wiwer, cerddodd Alun ar hyd y boncyff a phlygu i lawr i ryddhau'r bachyn o'r pren.

Cerddodd yn araf ar draws y llawr tuag atom a symudodd y ferch oddiwrthyf gyda phlwc sydyn.

Jaco, dywed wrtho fo be ydi'r dasg gynta.' Cododd Jaco'n swrth o'i sedd ar y fainc yn y gornel, cerddodd yn ddioglyd at Dei a sefyll o'i flaen a'i goesau ar led.

Cerddodd yn ei ôl i'r beudy'n flin a thaflodd y bwced nes yr oedd yn drybowndian i erbyn un arall!

Er bod Bedwyr wrthi'n traethu cerddodd Mrs R____ ar hyd yr ale/ i'r tu blaen, eistedd, edrych i fyw ei lygaid, a cherdded allan ar ei hunion y ffordd y daeth, gan ddweud wrth geidwad y drysau y tybiai hi mai DLlM a gyhoeddwyd i ddarlithio yno: "Dw-i wedi clŵad hwn o'r blaen." BLJ ei hun a ddywedodd y stori wrthyf i, gyda'r afiaith arferol hwnnw a gyffroai ei aelodau i gyd.

Cerddodd yn araf i gyfeiriad y cwt mawr a welai yn y pellter.

Yr oedd yn Sarah Owen, meddai ef, 'ryw ddefnydd anghyffredin', nid yn unig yn gorfforol - cerddodd bedair milltir a deugain un diwrnod gwresog gan gario plentyn ar ei braich y rhan fwyaf o'r ffordd - eithr hefyd yn feddyliol, oblegid er ei bod yn anllythrennog, yr oedd ganddi gof cryf a chariai lawer o lenyddiaeth arno.

Plygodd pawb eu pennau tra cerddodd pedwar Gwyliwr yn araf urddasol am y llwyfan.

Cerddodd pawb yn bwyllog i ganol y pentre ac at y ffynnon ond er mawr siom roedd hi wedi sychu'n grimp.

Cerddodd y ddau ar hyd y llwybr ymhellach o'r pentref i gyfeiriad Clogwyn Arthur, craig fawr oedd yn codi uwchben Pwll Mawr.

Cerddodd gorymdaith fawr o aelodau'r Gymdeithas o Faes yr Eisteddfod yn Llangefni at y Swyddfa Gymreig yng Nghaerdydd gan gasglu 20,000 o enwau ar Ddeiseb ar y ffordd.

Cerddodd Mary Games yn ol tuag at ei phlas yn Llanelli.

Cerddodd yn dalog at y blaenaf o'r ceir.

Ond mae'n debyg iawn fod pawb arall yn y pentre yma yn credu rhywbeth yn debyg i mi." Cerddodd Einion atynt gyda dau ddarn o wifren yn ei law.

Heb edrych i'm cyfeiriad, cerddodd y ddau at y ffenestr gyferbyn, ac edrych allan tua'r fynedfa.

Dyma'r dydd y cerddodd gobaith law yn llaw â marwolaeth.

Cerddodd Del yn ôl i'r tŷ yn ddigalon.

Erbyn heddiw cerddodd y Khmer Rouge Comiwnyddol i fewn i'r wlad brydferth hon ac ar ôl rhyfel erchyll o ladd ac ysbeilio creulon fe'i trowyd ganddynt hwy yn wlad gomiwnyddol a newidiwyd ei henw wedyn i Kampuchea.

Yn hytrach nag ymddiheuro, fodd bynnag, cerddodd yn dalsyth rhwng y peiriannau, gan egluro bob cam o'r gwaith hyd y gallai.

Cerddodd hwnnw'n gyflym gyda chamau bychain siarp a sefyll o flaen Dei tra y sychai hwnnw'r chwys oedd ar gledrau ei ddwylo.

Roeddwn wedi meddwl bod siarad dim ond Cymraeg o'r eiliad cerddodd yr heddlu i mewn yn ddigonol.

Cerddodd ar flaena ei welintons at ffenest y beudy.

Cerddodd Ifor ar ei hôl fel oen llywa'th, a'i awydd i gysgu yn gryfach na'r un i ddadlau hefo'r ffurat o'i flaen!

Yn ôl Luc, ac y mae'n rhyfeddol fel y mae'r efengylau yn cyflenwi ei gilydd: 'Croesawodd ef hwy, a dechrau llefaru wrthynt am deyrnas Dduw ac iacha/ u'r rhai ag angen gwellhad arnynt' Trwy'r cwbl, cerddodd y dydd ymhell, ac yn ôl adroddiad Luc a Marc, daeth ei ddisgyblion ato a dweud: 'Mae'r lle yma'n unig, ac y mae hi eisoes yn hwyr.

Ond fyddai Bilo a'i fêts ddim yn clywed sŵn y moto beic, diolch am hynny; fe'i gadawyd wrth y moniwment mewn llecyn parcio o flaen y siopau, ac ar ôl cloi'r gadwen am yr olwyn flaen, cerddodd efo Cen i gyfeiriad stad o dai lle'r oedd cartref a garej Bilo.

Fe agorodd y drws ac aeth i mewn i'r ty a be welodd ond Rondol yn gorwedd ar ei hyd ar lawr, a heb fod ymhell oddi wrtho roedd Begw yr un modd.Cerddodd fy nhaid i ganol y ty ac edrychodd arnynt yn ddifrifol ac meddai 'Diar mi.

Cerddodd ymlaen i ddatgelu adfeilion pellach o demlau, plasau, colofnau uchel wedi'u cerfio'n gain, baddondai a neuaddau.

"Rhaid iddo fynd allan ar unwaith." Cerddodd o ystafell i ystafell yn eofn, ond nid oedd neb yno.

Cerddodd i mewn i'r lolfa ac edrych o gwmpas mewn anghrediniaeth.

Ar ôl i gloc yr eglwys daro, cerddodd ar ei union i Bant Glas a churodd ar y drws.

Tyrd Nia." Cerddodd Alun allan o'r ystafell heb ddweud yr un gair arall.

Cerddodd y ddwy filltir a hanner o'r fflat i'r tū.

Cerddodd ymaith, ac ni welwyd mohono gan neb na chynt nac wedyn.

Cerddodd Nia i mewn.

Cerddodd Ifor ar flaena ei draed at ddrws y beudy a sbecian ar y fuwch.

Cerddodd y protestwyr ar draws tir gwaharddiedig yr awyrlu i blannu croes fel symbol o heddwch a gwrthwynebiad i'r fath ormes.

Nid ple yw hyn dros fynd yn ol i'r hen amser yn gymaint a rhyfeddu mor rymus o nobl y cerddodd y canrifoedd rhagddynt, a hynny heb un arlliw o dechnoleg ein blynyddoedd esmwyth ni.

Daeth y gwn i lawr o ysgwydd y milwr ac yna cerddodd y ddau yn nes i wrando.

Ar brynhawn braf, hydref diwethaf, tra mod i'n golchi'r llestri yn y gegin, cerddodd yr heddlu i mewn gyda gwarant i chwilio'r tŷ. Yn anffodus, roedd fy nghynhaeaf cannabis yn sychu yn fy stafell wely.