Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cerddor

cerddor

Er mai cerddor oedd Ffrancon Thomas o'i ben i'w sawdl nid dyma ffon ei fara oherwydd gweithiai o ddydd i ddydd yn swyddfa'r cyfreithwyr Carter Vincent a'i Gwmni ym Mangor.

Daeth anrhydedd a chlod i ran cerddor ifanc o Lanfairdechan, sef John Williams, mab Mr a Mrs Leslie Williams, Tegla, Bangor, ac ef a gyfansoddodd um o'r Carolau.

Wrth ddod ar draws y rhain yn ddiweddar y penderfynais roi yr ychydig eiriau hyn wrth ei gilydd i gofio am y cerddor talentog a fu mor barod i rannu ei ddawn a'i allu gydag eraill - i ddysgu, hyfforddi a rhoi pleser a mwyniant i gymaint o bobl.

Er mwyn dathlu'r cof, roedd yr Arlywydd Vytautas Lansbergis, cerddor a droes yn wleidydd, wedi trefnu cyngerdd swyddogol yn yr Opera, y palas celfyddydol moethus a godwyd, medden nhw, am fod Brezhnev unwaith wedi'i addo yn ei feddwdod.

Bydd nifer o wynebau cyfarwydd fel Cerys Matthews, Rhys Ifans a Ioan Gruffydd yn talu teyrnged iddo, nid yn unig fel cerddor, ond hefyd am ei waith arloesol fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu.

Roedd ei diweddar briod, William Hughes, yn frawd i'r cerddor John Hughes (Rhos, Treorci a Dolgellau).

Ond anaml y clywch chi neb yn son am John Cale - cerddor a chyfansoddwr sy'n fwy adnabyddus yn America nag yng Nghymru.

yr oedd robert griffith yn hollol gywir yn cyfeirio at y ffaith fod david hughes wedi diflannu'n llwyr o gylchoedd cerdd dant, ond serch hynny mae aml i gyfeiriad yn ei farwnadau i'w ddawn fel telynor yn y gymdeithas o wyddonwyr ac arloeswyr peiriannegol yr oedd yn aelod ohoni yn llundain, ac yn wir mae lle i amau a fyddai ei ddyfais bwysig gyntaf wedi gweld golau dydd oni am ei allu fel cerddor.

Heb anghofio Larry Adler, y cerddor harmonica-geg byd-enwog sydd, mae'n debyg, wedi treulio peth o'i amser yng Nghymru.

CERDDOR IFANC Y FLWYDDYN: Llongyfarchiadau i Delyth Buse ar ennill y drydedd wobr o ddeugain punt yng nghystadleuaeth "Cerddor Ifanc y Flwyddyn, Clwb Rotari, Bangor".

Geni'r cerddor Daniel Jones ym Mhenfro.

Cofiaf y diweddar Harry Roberts, cyn gadeirydd y Cor, ac yn un o'r dynion mwyaf ffraeth i mi ei adnabod, yn adrodd hanes y Cor yn canu mewn tref gyfagos ac organydd y capel, lle cynhaliwyd y cyngerdd, a oedd hefyd yn adnabyddus fel cerddor, yn gwrthod i Ffrancon gael defnyddio'r organ!

Ysbrydolwyd y cerddor o'r Ariannin, Ariel Ramirez, i'w gyfansoddi ar ôl cael ei ysgwyd gan yr hanes am ddewrder lleianod yn bwydo 800 o Iddewon newynnog yn yr Almaen adeg y rhyfel gan wybod mai eu crogi fyddai eu cosb o gael eu dal gan y Natsiaid.