Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

certmon

certmon

Ar ei eistedd o flaen ei wŷdd y mae'r certmon bellach a chyrn ei radio am ei glustiau yn llenwi'r clyw a phob a roc a jeif a jas.

A waeth heb a malu awyr am brydferthwch cwysi union gwŷdd main yn sgleinio yn yr haul, a siffrwd y gyllell drwy'r dywarchen, a rhugl y cwlltwr drwy'r pridd wrth i wedd o geffylau porthiannus ei dynnu, a'r certmon rhwng y cyrn yn ei ddal ag un troed yn y rhych ac un goes yn fwy na'r llall drwy'r dydd.