Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chalon

chalon

Mae hi newydd fynd o ma yn torri'i chalon.

Nid oedd yn rhaid i'w lygaid duon ei hanwesu ac i'w gyhyrau wingo dan ei groen tywyll pan fyddai'n rhwydo na theimlai hi ei gwaed yn byrlymu yn ei gwythiennau a'i chalon yn chwyddo.

Safai yn ei hunfan, yn oer, annifyr ac yn gwybod yn ei chalon mai y fo oedd yn llygad ei le.

Ni theimlai'r fam ar ei chalon olchi, na gwneud dim arall, ac aeth i fyny yn y prynhawn i Twnt i'r Mynydd.

ER pan ddywedodd Wiliam yn herfeiddiol na fedrai ddioddef bod yn gardotyn yn hwy yn y chwarel a'i fod am fynd i'r Sywth - yr oedd fel petai bwysau wrth ei chalon.

Doedd dim i dynnu hiraeth arni yma - doedd dim yma i godi atgofion a fyddai'n rhwygo'i chalon.

Daliai hithau ei phen yn uchel, a cheisio anwybyddu curiad cyflym ei chalon.

A chalon Rhamantiaeth oedd yr enaid unigol a dilyffethair:

Dyna i ti pwy fu yma!" gwaeddodd Deio, "does yna neb arall." Geneth ddewr oedd Cadi, ond fe aeth llaw oer ofn am ei chalon o feddwl fod rhywun wedi bod mor hy â mynd trwy'r tŷ tra oeddynt i ffwrdd.

Nid yw'n condemnio ei blant am wneud camgymeriad syml, gyda chalon ddidwyll.

Gwrthododd hithau ddianc gyda Maelon a thorrodd ei chalon o ofid serch.

Ac eto, yr oeddynt yn agos iawn at ei chalon, a honno'n curo mewn cariad atynt.

Tu cefn i'r Adroddiadau yr oedd Llywodraeth yr oedd ofn ei chalon arni bod y Cymry'n mynd allan o'i gafael.

Yn wir, roedd ei chalon yn y lle iawn.

Fferrodd ei chyhyrau a gallai glywed ei chalon yn curo'n uchel.

Nod BBC Cymru ers tro yw sicrhau bod delweddau Cymru, ei llais a'i chalon, yn cael eu gweld a'u clywed trwy'r DG. Roedd y flwyddyn a fu, pan ddenwyd y nifer mwyaf erioed o archebion radio a theledu rhwydwaith, felly, yn hynod galonogol.

Teimlodd Llio ei chalon yn peidio 'a churo, ei bysedd a'i thraed yn ddiffrwyth a hithau'n ysgafn ei chorff ac yn teimlo ei bod yn codi uwchlaw y gwely.

Yn eu rhagymadroddion a'u cyflwyniadau gadawodd y dyneiddwyr inni gorff o ysgrifennu, yn Gymraeg ac yn Lladin, sy'n allwedd, na cheir mo'i thebyg mewn cyfnodau eraill, i ddeall meddwl a chalon cyfnod.

Ar y ffordd tu allan yr oedd rhyw bump neu chwech o blant tlawd, troednoeth yn chware 'i chalon ac yn chwerthin, ac yn cyfarch ei gilydd mewn Gwyddeleg, yn y ffordd fwyaf naturiol yn y byd.

Gyda chalon drom yr ymlwybrodd Harri tua chartref.

Nid oedd ar y tynged, blentyn iddi o'r groth, ond magodd dri o'i chalon.

Roedd yn gyngor buddiol, ac fel rheol ni châi unrhyw drafferth i ofalu bod ei phen yn rheoli'i chalon.

Agorwch y drws!" Clustfeiniodd yn boenus, ond chlywai hi ddim ond sūn ei chalon yn pwmpio yn rhywle.

'Rwy'n digwydd bod yn ffrind da i Ffantasia, a doeddwn i ddim am weld Gwenhwyfar yn colli'i chalon eilwaith.

Ac mae'r trwch o golur yn cuddio ymennydd chwim a chalon fawr.

"Ia i hon," medda fi, a dyma fi'n dangos fy mhib iddi hi, ac mi ddeudais hanas y plisman hwnnw a phob dim - fel yr oedd o wedi gyrru dau foto i wyneba'i gilydd, a pha mor uchal oedd y trethi, i edrych fasa hynny'n tynnu deigryn o'i chalon hi.

Roedd y rhai llygadog yn ame cyd-ddigwyddiad dyfodiad Madog i'r pentre a'r ergyd a gafodd Mrs Morris ar 'i chalon - gan awgrymu i Madog ddod a'r hen wraig wyneb yn wyneb a rhywbeth o'i gorffennol a bod Luned yn 'i briodi fe er mwyn iddo fe gadw'i geg ynghau.

Yn un peth, fe ddechreuodd wherthin llai, ond plentyn 'i mam oedd hi wedi bod eriod, achos roedd 'i thad wedi marw cyn iddi hi ddechre'r ysgol, ac ma'n rhaid 'i bod hi'n gwbod bo'i mam yn colli tir wythnose cyn iddi farw, yn enwedig gan iddi hi gal ergyd ysgafn ar 'i chalon yr union wythnos y daeth Madog i'r pentre.