Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chanfod

chanfod

Mae prif thema La Queste a Perlesvaus yn sylfaenol debyg, ac yn sawru o Gristnogaeth asetig: er mai marchogion llys Arthur yw'r gorau yn y byd, mae eu diffygion moesol yn eu rhwystro rhag cyflawni'r gamp uchaf oll a chanfod y Greal; cedwir y fraint arberlnig honno i farchog ysbrydol a moesol berffaith, sef Persifal (cefnder cyfandirol Peredur y traddodiad Cymreig) yn Perlesvaus, a Galaad neu Galaath (sy'n fwy cyfarwydd bellach fel Galahad), arwr newydd sbon a ddyfeisiwyd yn arbennig ar gyfer y dasg yn La Queste.

Cofiaf gael un 'wers' trwy ddysgu tôn a geiriau cân werin yn dechrau 'Pegi Bach a aeth i olchi', a'r drychineb ofnadwy iddi orfod mynd adre i nôl y sebon a chanfod pan ddychwelodd fod y dillad wedi diflannu gyda'r llif.

Trodd yn ei ôl o'r diwedd i ddiddosrwydd yr ogof a chanfod y Cripil yn gorwedd ar ei hyd ar ddarn o groen anifail o flaen tanllwyth.

Disgrifiodd ei hun fel 'meddwyn gwaeth nag erioed' erbyn hyn--câi ei gyflog gan y porthmon wedi cyrraedd pen y daith, a byddai'n meddwi, yn cadw cwmni drwg a bron bob tro byddai'n deffro a chanfod bod ei bres wedi'u dwyn.

Mae'r fyddin wedi chwilio pob man a chanfod dim byd.

Gall ildio i demtasiwn, a gall trwy ei ddallineb ei hun ddilyn llwybr anghywir, gan fethu a chanfod beth yw arweiniad Duw ar ei gyfer.

Disgrifir siom Elin yn gelfydd, wrth i'r awdures gymharu'r profiad â chanfod siop ddillad ar gau a dadlennir llawer am greulondeb henaint trwy gyfrwng y ddelwedd.

Gan feddwl mai lleidr oedd yno, o o wedi codi bat criced o'r porch ac wedi mynd ar flaenau'i draed at ddrws y gegin, troi nobyn y drws a chanfod ei fod o wedi'i gloi o'r tu mewn.

Yr unig brotest wirioneddol effeithiol fyddai i'r bobol hyn hepgor eu ceir yn llwyr a chanfod ffordd arall fwy cyfeillgar o fynd a dod i'w gwaith.

A chanfod nad oedd angen y lle wedir cwbl.

Pan ddarganfuwyd gweddillion y Santa Maria de la Rosa (is-longfaner sgwadron Guipuzcoan yr Armada) prin y gellid ei chanfod ar wely'r môr gan mor llwyr yr ymdoddai i'w hamgylchedd.

Roedd y ddau wrth eu bodd gan eu bod yn hoff iawn o gerddoriaeth glasurol ac ar y nos Wener cafodd y ddau noson i'w chofio - a mwy fyth o achos cofio pan ddaethant adref a chanfod fod lladron wedi dwyn popeth oedd o werth yn y tū...

Troes o'r bar ar ôl yr ymdrech dila honno i ddiwallu syched ei chymydog a chanfod un o griw bychan a safai yn ei hymyl yn codi'i lygaid mewn cyfarchiad wrth ei gweld.

Y mae'r Athro Ford, er hynny, yn pwysleisio fod y rhesymau a gynigwyd o blaid ac yn erbyn y ddamcaniaeth hon, fel ei gilydd, yn rhai cryfion, ac efallai'n wir y bydd modd cyfuno'r rhesymau hyn a chanfod y tu ôl i Arthur draddodiadau mytholegol a ymglymodd wrth berson hanesyddol.

Atebodd: "Wel, os byddai wedi gwneud camgymeriad a chanfod fod priodas yn hunllef fydd dim rhaid imi ddioddef yn hir.