Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

changhennau

changhennau

Dylai canghennau cylch Bangor ddod a'u Llyfrau Lloffion at Delyth Murphy a changhennau cylch Caernarfon at Mary Roberts, yr Is-ysgrifennydd Rhanbarth.

Roedd hen dderwen yn gysylltiedig â Sant Oswald ger Croesoswallt a chredai'r bobl y deuai anlwc ar neb a dorrai ei changhennau.

Roedd y goeden wedi tyfu o ffynhonnell popeth a'i changhennau uchaf yn ffurfio'r ffurfafen.

Yn raddol, mae'i changhennau wedi pydru ac wedi diflannu.

Cleciodd ei changhennau noethion gan herio'r gwynt i ddal ati.

Roedd hi'n goeden fawr, yn goeden gref, a'i changhennau praff yn gynnig cysgod llydan rhag gwres yr haul neu gawod o law.

Daw adar a gwiwerod i nythu yn ei changhennau; trychfilod fel cacwn, gwyfynnod, chwilod a gwiddonau i fwyta'r dail; eiddew, uchelwydd, cen, mwsogl, algae a ffyngau i ymosod ar y canghennau a'r rhisgl; adar, pryfed a mamolion i fwyta'r mes, a daw rhagor o bryfed i ymosod ar gwreiddiau sy'n ymestyn ymhell dan y ddaear.

Dywedodd Meira Roberts ei bod hi ar gael yn rhinwedd ei swydd i ymweld â changhennau yn rhad - i ddangos sleidiau a hysbysebu'r Mudiad.

Oherwydd cyfyngiadau ar amser -- fel ymhob rhaglen deledu mae'n siŵr -- ni allodd Moc Morgan wneud cyfiawnder â dawn Ray Jones, Conglywal, Blaenau i lunio ffyn o bob math o'r defnyddiau y mae'n eu casglu o frigau a changhennau y mae'n eu gweld yng nghoed ei fro.

Rwyt yn rhedeg nerth dy draed drwy'r goedwig â changhennau'r coed yn chwipio ac yn crafu dy wyneb.

Ar yr un pryd, ceisiwyd atal llif y twyni trwy'u hamdoi a changhennau coed bythwyrdd, a'u plannu â moresg a thyweirch o laswellt ochr-lôn.

Rhennir y plwyf bron yn ddwy adran gydradd o ran maint gan afon Wyre sy'n rhedeg o Fynydd Bach drwy Lledrod a Llangwyryfon i'r môr yn Llanrhystud; mae i honno ei changhennau a'i nentydd mân, ac y mae'n disgyn fil o droedfeddi o'i tharddell i'r môr; am hynny mae hi'n codi'n wyllt ar ôl glaw ac yn gostwng yr un mor sydyn pan ddaw hindda.