Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chappell

chappell

Tra mae Dick Chappell yn gynnil yn ei ddefnydd o ofod a lliwiau, fel petai am dynnu popeth i mewn i fyd bach agos ato, mae lluniau'r artist hwn yn rhoi argraff gyffredinol o ehangder.

Ac os yw lluniau Dick Chappell yn deillio i raddau helaeth o ddiddordeb manwl mewn daeareg, mae a wnelo rhai Bert Isaac yn fwy uniongyrchol â'r hyn sy'n weladwy i'r llygad, er nad oes dim oll yn ffotograffig yn eu cylch.

Fel Dick Chappell, mae Bert Isaac yn cael ei ddenu at olion diwydiant, ond yn ei achos ef mae'r diddordeb yn esgor ar waith gwahanol iawn.