Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

charcoal

charcoal

Yn yr oesoedd canol gallai glo olygu "coal" neu "golosg, charcoal" yn Gymraeg.

Gallai'r geiriau cytras mewn Llydaweg a Chernyweg olygu hyn hefyd a gallai'r gair Saesneg coal olygu "charcoal" weithiau hefyd yn y dyddiau gynt.

Y tebyg yw felly mai "golosg", "charcoal" yw ystyr glo yn yr enw Cwm-y- glo a bod yr enw yn cyfeirio at grefft golosgi - crefft a oedd yn bwysig ac yn weddol gyffredin yng Nghymru gynt.