Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chawsant

chawsant

Arbedwyd llawer ohonynt rhag cael eu cywilyddio yn eu noethni a chawsant eu torri gan adael stympiau o foncyffion fel byrddau coffa.

Bu dysgwyr o sawl rhan o Geredigion yn cymryd rhan a chawsant fudd mawr wrth baratoi'r cystadlaethau ysgrifenedig ac eitemau llwyfan.

Mae miloedd o bobl yng Nghymru na chawsant gyfle teg i ddysgu'r Gymraeg tra yn yr ysgol ac sy'n dymuno cael cyfle yn awr i ddysgu'r iaith.

Dyma ymweliad cyntaf Owen ac Eurgain Jones â Chymru a ni chawsant eu siomi roedd yr haul yn gwenu ym Mhenybont a phopeth 'mor wyrdd'.

Gresynai Cynddylan fod cymaint o ôl syniadaeth William Owen Pughe - ar y cystadleuwyr a barnai Hawen i'r beirdd eu harwain 'i diroedd gwynfaol - rhamant disylwedd...' Diystyrwyd gwersi ieithyddiaeth gymharol yn llwyr: 'Ofnwn, pe cyfieithid rhai darnau o rai o'r pryddestau hyn, y câi y philistiaid Seisnig wledd na chawsant ei bath er ys llawer dydd.

Ni chafodd ef weledigaeth y dynion hyn ar bwysigrwydd ysgolheictod, ac ni chawsant hwythau ei weledigaeth ef o'r werin.

Cynigodd Steven a Mabel goginio pryd inni a chawsant hwyl reit dda - pryd blasus dros ben.

Ni chawsant amser i sylwi ar ychwaneg oherwydd roedd y dyn, yn amlwg yn teimlo ei hun yn berffaith ddiogel yn y fan honno, wedi goleuo ei dorts.

I'r tadau Methodistiaid Calfinaidd ym Mon, ac yn wir ym mhob ardal yng Nghymru bron, roedd Gwyddelod a Phabyddion i'w hosgoi ar bob cyfrif, ac felly roedd llongau Cymreig yn perthyn i Fethodistiaid Calfinaidd Cymraeg, gyda chapteiniaid a swyddogion a oedd yn aelodau o'r un enwad, yn llawer mwy deniadol na llongau porthladdoedd Lloegr a oedd yn llawn o Wyddelod tlawd, afiach.Dyma pam y daeth llongau Davies Porthaethwy mor boblogaidd a chawsant lwyddiant ysgubol yn y fasnach i Ogledd America, gyda'u llongau'n cludo llechi ac ymfudwyr i Quebec, Efrog Newydd a New Orleans, ac yn dychwelyd gyda llwythi gwerthfawr o goed Gogledd America i adeiladu tai a llongau yn yr hen wlad.

Ni chawsant brofiad

Eithr yn y bleidlais ni chawsant y nesaf peth i ddim cefnogaeth gan Saeson.