Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chefnogi

chefnogi

Ni fydd hyn yn tanseilio hawl ein celloedd lleol a'n rhanbarthau i drefnu ymgyrchoedd i amddiffyn buddiannau cymunedau lleol yn ogystal â chefnogi ymgyrchoedd canolog yn yr ardal.

Gellid datblygu hyn fwy fyth trwy ddefnyddio'r papurau bro nid yn unig i wyntyllu anghenion yr iaith Gymraeg yn eu hardaloedd, ond fel y gwneir mewn rhai papurau, canmol a chefnogi'r gweithredoedd sydd o fudd i'r Gymraeg.

Does ganddo'r un amheuaeth ynglŷn â chefnogi Owain.

Mae'r drefn weithredu a ganlyn yn strwythur awgrymedig i hybu a chefnogi eich meddwl, i ddatblygu eich cynllun, i fonitro ei weithrediad a gwerthuso ei lwyddiant.

annog a chefnogi defnyddio'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol newydd.

Dafydd a Branwen a phob ddi-smygwr arall sydd wedi bod yn agos at swyddfa'r Gymdeithas am ddioddef fy mwg; Owain am y sylwadau hollol diwerth; Grant am deutha fi sut i gyhoeddi blincin' peth i ddechrau; pawb sy 'di cyfrannu a chefnogi; pawb sy 'di rhoi cysylltiadau i'r Tafod Trydanaidd ar eu tudalennau Gwe nhw; pawb sy 'di ymweld â'r Wefan hon; pawb sy 'di cynorthwyo a chefnogi Cymdeithas yr Iaith rhywsut rhywbryd -- diolch am eich ysbrydoliaeth a'ch gwaith. Cas-berson y Mis

Y mae'r Cristion yn rhwym o barchu a chefnogi ymdrech dyn i gadw neu sicrhau ei hunaniaeth a'i urddas gan i Grist roi'r fath werth ar y person dynol.

Ei amcan yw hybu'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn ei holl agweddau a chyd-gysylltu buddiannau awduron, cyhoeddwyr, llyfrwerthwyr a llyfrgelloedd, ac hefyd i gynorthwyo a chefnogi awduron.

Roedd y Torïaid yn ei chefnogi -- eu deddf nhw yw hi.

(Gweler y Rhagarweiniad am y manylion.) Rhan o'ch rol chi fel cydgysylltwr yw ysgogi arbrofi, annog a chefnogi menter mewn dysgu.

a) Cydlynu a chefnogi rhwydwaith gweithgareddau'r canghennau lleol drwy ymweld â hwy'n gyson yn ogystal â threfnu gweithgareddau ar y cyd i holl ganghennau'r ardal, megis nosweithiau Cabaret, a theithiau i Sain Ffagan.

Caiff Gwobrau Beacon eu cyflwyno i fentrau sy'n hybu a chefnogi dysg a hyfforddiant.