Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cheisiodd

cheisiodd

'Roedd Rhian dan bwysau aruthrol a cheisiodd ladd ei hun wrth baratoi at yr arholiadau.

Canys ni cheisiodd Saunders Lewis a'i ddau gydymaith ond cyflawni yn union yr hyn a argymhellir yn awr gan y Tywysog Charles - sef gwarchod y Winllan a roddwyd i'w gofal.

Byseddodd defnydd cras ei drowsus a cheisiodd ddychmygu mai jîns oedd ganddo am ei goesau.

Agorodd y drws yn araf, a cheisiodd gadw ei lais yn naturiol wrth alw "Meg!" Ond doedd dim ateb.

Ni ddangosodd unrhyw syndod o gael ei ddal yn syllu arni, ac ni cheisiodd ei chydnabod trwy wên na gweithred.

Ildiodd Gadaffi i demtasiwn, fodd bynnag, a cheisiodd ddenu tair ohonyn nhw i'w wely.

Beudy'r Gors.' Sylweddolodd 'rhen ferch faint ei chamgymeriad a cheisiodd adfeddiannu'r tir a gollwyd drwy roi ymosodiad ar William Huws, druan.

Bu'n beirniadu cystadleuaeth y Gadair bron bob blwyddyn o droad y ganrif hyd at ei farwolaeth ym 1929, a cheisiodd arwain y canu caeth o'r diffeithwch yr oedd ynddo ar y pryd.

Ni cheisiodd THP-W ateb y cwestiwn ac erbyn hyn efallai na all neb ohonom ei ateb drosto, ond gallwn roi cynnig arni.

Yr oedd Rowland cyn bo hir yn gweld colli Harris a cheisiodd gyfannu'r rhwyg.

Ni cheisiodd neb ei droi'n Fwslim; ystyrid ef yn rhyw fath o wirionyn, diniwed os nad sanctaidd, fel y cannoedd a oddefir yn y byd Islamaidd o ben bwygilydd.

Gad inni fwynhau gweddill yr amser.' Ond er nad oedd neb arall yn y cerbyd, ni cheisiodd glosio ati; roedd wedi ei feddiannu gan siom a dadrith.

naddo.' 'Dan ba arwydd y cest ti dy eni - Virgo?' Chwarddodd y lleill a cheisiodd Dei chwerthin hefyd er nad oedd o'n deall y jôc.

Bu bron i Mark briodi Meinir Powell yn 1997 - 'roedd Meinir wedi cyfarfod Kath mewn ysbyty meddwl a cheisiodd Mark gymryd mantais ohoni.

'Gwranda di yma, Dei Neith, ysbi%wr i ba giang wyt ti'r cythrel bach?' Dychrynodd Dei am ei fywyd a cheisiodd ei ryddhau ei hun o grafangau Bilo.

Mae hi'n treulio blwyddyn yno% Gan ei fod yn gwybod iddo'i brifo ni cheisiodd ei chusanu wrth ymadael ac ni sgwennodd ati am amser hir.