Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cherdded

cherdded

Syllu'n reit flinedig ar bawb a cherdded at yr amserlen.

A'r gŵr a aeth heibio iddi ganwaith heb sylwi arni gan fod ei ffroenau mor uchel, a'i feddwl yn barhaol ar ei filiwn nesaf A digwyddodd rhyw ddydd, iddo adael ei swyddfa a cherdded i lawr y grisiau.

HEULWEN: .....erbyn iddo fe ffonio'r AA a cherdded y bum milltir yn ôl, roedd rhywun wedi dwgyd ei olwynion blaen e.

Gadael y car yno a cherdded ar hyd y mynydd agored am filltir gwta tua'r dwyrain.

Trodd ei chefn arni'n ddiamynedd a cherdded yn ôl at y ffenestr.

Arferent fynd am dro, pan oedd y llanw'n isel, a cherdded hyd at yr ogofeydd lle glaniodd y Cymry cyntaf.

Pan safai ar ei draed ceisiai ymsythu a cherdded yn union, ond ni allai.

"Neidia ar ei gefn, Deio," meddai Idris, "i ti gael marchogaeth i'r Cwmwd." "Na wnaiff wir," meddai Cadi yn yr un llais yn union â'i mam, "ddim yn ei ddillad gorau." Gafaelodd Deio ym mwng Llwyd a cherdded ymlaen felly.

Byddwn yn parcio fy nghar lle'r oedd pawb arall yn parcio a cherdded yr holl ffordd i ble bynnag yr oeddwn am fynd - hyd yn oed yn y gaeaf ar hyd palmentydd rhewllyd.

'Beth sy' gen' i dwi'n 'i roi a beth dwi'n gael dwi'n 'i gadw,' meddai hi a phocedu'r goron.) Ailgychwyn o Bontarelan; lle mae'r ffordd yn gwyro i'r chwith rhyw hanner milltir tu hwnt i'r bont, gadael y car a cherdded ar hyd yr hen ffordd las sy'n mynd ar letcroes i fyny'r llechwedd i'r dde.

Ffordd gampus i'w cherdded - ar diwrnod heulog!

o hyd ..." Trodd Morwen oddi wrth y ffenestr a cherdded ar flaenau ei thraed at y gwely.

Er bod Bedwyr wrthi'n traethu cerddodd Mrs R____ ar hyd yr ale/ i'r tu blaen, eistedd, edrych i fyw ei lygaid, a cherdded allan ar ei hunion y ffordd y daeth, gan ddweud wrth geidwad y drysau y tybiai hi mai DLlM a gyhoeddwyd i ddarlithio yno: "Dw-i wedi clŵad hwn o'r blaen." BLJ ei hun a ddywedodd y stori wrthyf i, gyda'r afiaith arferol hwnnw a gyffroai ei aelodau i gyd.

Ro'dd gen i dipyn o daith i'w cherdded yno hefyd; byddai Ysgol Blaen-porth wedi bod yn nes i mi, ac yn well i mi hefyd efallai.

Yn fuan doedd neb i'w weld, felly caeodd y llenni a cherdded yn ofalus i'r gegin i wneud cwpanaid o de a rhywbeth i fwyta iddo ei hun.

'Na.na, does dim pwynt!' 'Syr Troes y milwr a cherdded allan o'r neuadd, a'i esgidiau'n atseinio ar y llawr caled.

Does dim eisie i neb arall ddweud dim chwaith.' Felly allan â hwy heb ddweud gair a cherdded tua'r beiciau yn y cwt.

Synnwyd y a dyma stopio a cherdded heibio'r car tua drws cefn ei gartref.

Rhoddodd y pecyn yn ôl yn y bag yn ofalus a cherdded yn ei blaen i fyny'r stryd.

Ar ddiwedd y diwrnod roedd hi'n braf iawn cael sythu'r coesau a cherdded yn ol i'r gwesty yn hytrach na rhewi wrth aros ugain munud am y bws.

Cofiwch y dderwen a'r brwyn." Disgynnodd yr hen ŵr o ben y boncyff a cherdded yn araf i fyny'r llethr tua'i gartref.

Cydiodd Janet yn ei law eto a'i arwain 'nôl at y Teulu i'r Neuadd a daeth hithau ati ei hun a cherdded yn araf i'w hystafell.

Gadawodd y dynion y Land Rover a cherdded yn gyflym o'r golwg dan y coed.

Cofio cerdded rownd pont y llyn ambell i noson yng nghwmni Ieu Glyndwr annwyl, a cherdded nôl ar hyd y ffordd cyn dod y ffordd osgoi, a sylweddoli yn sydyn yn nhrymder distawrwydd y nos fy mod i'n gallu clywed sŵn hen afon Prysor yn canu yn y Cwm.

Daeth rhyw labwst mawr ohono a cherdded at ddau ffermwr a safai wrth eu lori%au.

Nid wyf am awgrymu bod unrhyw debygrwydd rhwng dringo Everest o ran antur a rhyfyg a cherdded o Gaerfyrddin i Aberystwyth.

Ni waeth beth oedd camgymeriadau Hector ar ei wyliau bu'n ddigon doeth i deithio'n ysgafn, gyda'r canlyniad iddo ymwadu a thacsi, a cherdded yn heini o'r orsaf, a'i fag yn ei law, i'r gwesty.

Fe gymeres i gyngor y ficer, a cherdded mor ofalus ag iar ar farwor.

Dechreuasant ymddiheuro ond torrais ar eu traws a cherdded tuag atynt.

Tynnodd Graham Henry ei grys coch a cherdded mâs chwarter awr cyn y diwedd.

Ac am beth mor ddiniwed â cherdded 'o fewn hyd chwibaniad i safle adeiladu yn ei sgert mini' yr enillodd Miss S. Pollak, hithau, o Eton Villas, London NWS ei CDM neu, Cadbury Dairy Milk.

Mynd am dro i lan y môr a cherdded ar y llwybr cam.

I mi roedd rhywbeth gwirioneddol naturiol am gerdded o fyd y siopau, stondinau y gluewein ar castanau a cherdded i mewn i eglwys ymysg cannoedd i wrando ar gôr yn canu carolau.

Cododd Ibn a cherdded gyda'r capten ar hyd y traeth: 'Rydan ni mewn helbul .

Trôdd pawb ar eu sodlau a cherdded i fyny'r llwybr llydan dan rowlio'r casgenni.

Ymwelwn â mwyafrif y cartrefi yn eu tro, gyda chnoc ar y drws, cyfarchiad: 'Oes 'ma bobol?' A cherdded i fewn.

Troi'n ôl i Fwlch y Clawdd Du a cherdded tua'r gogledd i olwg Llyn Cerrig Llwydion Uchaf, yna, heb golli uchder, gwyro fymryn i'r dde i gyrraedd Llyn Cerrig Llwydion Isaf.

Cododd pawb a cherdded at gwr y lli.