Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cherddodd

cherddodd

Rhoddwyd Dei i eistedd ar gadair fregus yng nghanol y garej, a cherddodd Bilo o'i gwmpas gan edrych arno fel pe bai'n edrych ar fuwch cyn ei phrynu.

Rhoddodd blwc i'w het dros un llygad fel y gwnai gyda'i gap a cherddodd fel ewig i gyfeiriad y Tŵr a godai'n saeth o ser i'r awyr.

Heb guro, agorodd Abdwl ddrws cefn y tŷ a cherddodd i mewn i'r gegin.

''Fasa 'rhen dlawd yn medru hel y ffers 'tasa hi'n cal benthyg pynsiar gin y Paraffîn.' Daeth yn dro i'r wraig anwybyddu sylw'r gwr a cherddodd yn fân ac yn fuan i gyfeiriad y gegin allan.

Doedd JR ddim yn siŵr iawn pa fodd i ymddwyn mewn sefyllfa o'r fath, oherwydd ni cherddodd y ffordd hon o'r blaen.

Cododd hanner bagiad o nyts ar ei gefn a cherddodd heibio'r tŷ i'r cae.

Ymhen ychydig agorwyd y drws a cherddodd dyn dieithr i mewn yn dalog.

Stwmpiodd ei smôc rhwng ei bympsan a'r concrit a cherddodd yn hamddenol at y cwt y diflannodd Ifor i mewn iddo.