Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chithau

chithau

"Pam y gwnaethoch chi ddianc ar ôl y noson gyntaf a chithau wedi addo cynnal ail noson?" "Gwyddwn yn iawn y buasen ni'n eu trechu nhw'n hawdd, meddai Bholu, "ac felly ni fuasai neb eisiau dod i weld y cwshti ar yr ail noson." Rhoddodd ei law yn ngheg y sach a chydiodd mewn dyrnaid o bapurau gan eu rhoi i mi.

"Wn i ddim beth fydd eich rhieni chi'n ei ddweud Nia, ond mi fuaswn i'n meddwl y dylech chithau hefyd fynd ymlaen â'ch cwrs.

Mae sgrech neu floedd yr un peth ond mae'n wahanol iawn pan fydd rhywun yn eich galw chi'n enwau a chithau'n deall yr enwau hynny.

Perthynas chi-a-chithau fu rhwng Mona a Tref gynt ond wrth iddynt gydweithio closiant fesul tipyn: unwyd hwy yn eu consyrn a'u nod.

Un o'r adegau hynny pan fo eich plentyn yn mynnu rhywfaint o annibyniaeth a chithau heb baratoi ar ei gyfer.

"Mae'n hawdd i chi, a chithau'n ifanc siarad yn rhamantus.

A'ch hen lais mawr, yn smalio bod yn gymanfa o ddyn, a chithau ddim hyd yn oed yn solo!

Ac yn awr dyma fi'n hen ŵr ar fin marw a chithau'n ifanc o hyd.

Wedi'r cwbl, rheolwr ydach chithau, a sbiwch ar y gwahaniaeth rhyngom ni.' Cyn gynted ag y gwelodd ei wên ddiog, sylweddolodd ei bod wedi dweud y peth anghywir.