Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

choban

choban

'O?' 'Efo Ifan Paraffîn, yn y bus.' ''Ron i'n meddwl 'mod i'n gweld gola' ac yn clywad rhyw swn pan o'n i'n cau ar yr ieir.' Sylweddolodd Dora Williams ei bod hi'n sefyll yn llond y ffenestr yn ei choban, yn wyneb llafn o olau lleuad, a theimlodd ei hun yn cael ei dadwisgo'n gyflym.

..!" Yn olaf, cyn troi unwaith ac am byth at y drws, agorodd Morfudd y ddau fotwm uchaf ar ei choban wen er mwyn dangos rhyw fymryn pryfoclyd ar gnawd ei mynwes.

Sbiodd yn ofalus drwy agen y drws, a chyfarfu ei llygaid â llygaid mulaidd y ferch fach a oedd erbyn hyn yn sefyll yn droednoeth yn ei choban ar ganol y llawr.

Teimlai'n oer a diamynedd ac roedd codi, a dim ond ei choban amdani, yn hurt bost.

Safai o hyd ar flaenau'i thraed tua hanner ffordd ar draws llawr y gegin, yn ei choban wen, a'i breichiau ar led fel petai ar ganol cofleidio rhyw berson anghwmpasadwy, a'i llygaid wedi rhewi'n fawr a chrwn fel dau blât piwtar.