Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chodi

chodi

Nid rhyfedd felly fy mod i'n amheus i'r eithaf heddiw o'r criw diwinyddol yma sydd mor uchel eu cloch ar i ni gofleidio'r myth a'i chusanu, ac ymbriodi â hi, a chodi teulu gyda hi.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn gwrthod addo i beidio â chodi helynt yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cyfrol i'w chodi dro ar ôl tro, a'i mwynhau.

Na, paid â chodi dani ŝ mi rwyt ti.

Mae Arthur, nid yn unig yn hybu'r gwaith er mwyn y deillion, ond hefyd yn arloesi i helpu'r anabl o gorff mewn cyfeiriadau eraill, a chodi calon sawl un isel ysbryd.

Wrth syllu draw dros yr harbwr tua'r môr, teimlai yn ei gwaed mai yn y pellter glas yr oedd ei rhieni'n ei haros a hithau'n methu â mynd atynt, yn cael ei chadw fel gwylan gloff mewn honglad o hen dŷ ar astell y graig a hithau yn ysu am fynd ond yn methu â chodi ar ei haden, yn cael ei chlymu wrth ei thaid a'i nain am iddynt ei magu.

'Hy!' medda fo, a chodi'i ysgwyddau fel ci yn disgwyl ffoniad, 'arni hi mae'r bai - ond paid ti â bod yn hen drwyn.'

Mae rhain yn dod yma i fridio a chodi teulu.

Cododd y lleisiau yn uwch ac yn y diwedd dyma lanc yn neidio i ben wal y ffynhonnau gan daflu ei wallt cyrliog du yn ôl a chodi ei ddwrn i'r awyr.

Yn ôl yr adroddiad cafwyd sicrwydd na fyddai gostyngiad yn lefelau cynnal a chadw y rheilffordd ond ni chafwyd sicrwydd gan y Rheilffyrdd Prydeinig ynglŷn â chodi dynodiad y rheilffordd o felyn (a oedd yn golygu na fyddai'r trac newydd yn cael ei osod ond na fyddai gostyngiad yn ansawdd y gwasanaeth yn ystod y cyfnod yn arwain at breifateiddio os oedd hynny'n digwydd) i reilffordd werdd (a olygai ychydig o adnewyddu trac newydd ac y byddai hyn yn gwella amseroedd siwrniau).

Plygodd a chodi cas sbectol a'i roi ar y bwrdd.

Giglodd Mam yn sydyn, yn union fel hogan ysgol, a chodi i gadw'r albwms lluniau ar y silff.

Yn araf, araf ac yntau'n rhoi ambell sblash o wrthwynebiad â'i gynffon ac yn dangos dyfnder ochr arian a sgleiniai yn y tywyllwch, tynnais ef dros y rhwyd - a'i chodi .

Dodwch y dorch o dan yr hylif sebon a'i llithro allan yn araf, yn hytrach na'i chodi yn fertigol.

Llongwyr ar fwrdd y llong ryfel Rwsiaidd Potemkin yn cymryd y llong drosodd, taflu'r swyddogion i'r m“r a chodi'r faner goch.

Llongwyr ar fwrdd y llong ryfel Rwsiaidd Potemkin yn cymryd y llong drosodd, taflu'r swyddogion i'r m"r a chodi'r faner goch.

Ei gyrru'n gynddeiriog a wnâi trwy rincian am ei wreiddiau a'i ddyletswydd o a hithau i wrthsefyll pobl ddwad yn mynnu eu hawliau a chodi eu lleisiau hyd yr arfordir.

Gorfu i Manon edrych yn dosturiol arno, a hynny er gwaetha'r ffraeo a chodi cnecs.

Yn y cyfarfodydd dysgais y morse code a'r semaphore, sut i wneud cylymau o bob math a thrafod cwch hwyliau, sut i godi pabell a chwythu biwgl a sut i blygu baner yr Union Jack, ei chodi i dop y polyn a'i hagor yn daclus.

Daethpwyd o hyd i babell bifoac Eidalaidd o rywle a chaniatawyd iddo ei chodi ar ben y rhes, ond heb fod yn rhy agos at y babell nesaf.

Cadwai'r bobl geffylau a gwartheg, defaid a chŵn, ac arferent drin rhyw ddarn o dir cyfleus yn agos i'r ddinas a chodi ŷd arno.

Ei gyffyrddiad cynta o'r bêl fu ei chodi allan o gefn y rhwyd.

Pwysodd ei dau benelin ar bren y ffenestr a chodi ei phen tua'r awyr.

Goelia i y bydd un ddôs o'r Hen Fferam yn ddigon i'w chodi odd'acw.

Efallai ei chodi i fod yn noson gyfriniol.

Ceisiadau am ailraddio a chodi cyflog a.y.

Erbyn hyn fe drefnwyd dosbarthiadau mewn llawer mwy o brofion megis Cneifio, Godro, Mower, Maentumio Tractor, Defaid, Gosod Clwyd, Clawdd Sych a Chodi Gwrych i'r bechgyn, ac yna, Trin Cyw, Addurno Teisen, Crasu, Golchi a Smwddio, Picls a Saws i'r Merched, ac fe ddaeth ffrydlif o fathodynnau aur ac arian i aelodau'r Sir.

Gwariodd yn helaeth ar wladwriaeth les; un o'r blaenoriaethau oedd dymchwel yr hen gartrefi sinc a chodi tai newydd.

Yr adeg hon hefyd dechreuodd Gaunt ar y gwaith o suddo pwll wrth ochr y ffordd fawr i fynd at wythi%en y Gwscwm a chodi clawdd tua deg troedfedd o uchder a deunaw troedfedd o led, ar y gwaelod, i gario'r glo yn haws i'r harbwr.

Byddai wedi hoffi brasgamu i lawr yr eil, ei chodi'n grwn o'i sedd a'i hysgwyd nes bod ei dannedd yn clecian yn ei phen 'mennydd-gwybedyn.

Roedd y rheilffordd i'r Bala wedi ei chau a'i chodi erbyn i mi gyrraedd yr ardal, ac adeiladwyd ffordd newydd sbon drwy Gwm Prysor.

Yn ogystal â chodi'r faner, bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith hefyd yn cyhoeddi fore Llun beth fydd y digwyddiad nesaf yn yr ymgyrch fawr hon.

Mae'n bleser gennyf eich hysbysu, fod y gofgolofn i'r Dywysoges Gwenllian wedi ei chodi o'r diwedd, yn Sempringham.

Cofiaf ei lais yn fy rhegi o'r twllwch am hydoedd hyd nes i mi gael llond bol a chodi yn fy ngwylltineb allan o'm gwely a chroesi llawr pren y babell a lluchio dwrn dirybudd i'w ddannedd i'w ddistewi.

Merch yw hi sydd yn ei hanfod yn debyg i Mary Williams Blaenycwm, a chyfnither Morgan yn Y Tri Brawd, sef un sydd wedi'i chodi uwchlaw amgylchiadau'r teulu gwerinol yn rhinwedd addysg Saesneg mewn ysgol breswyl.

Yn ystod y tymor byr yma mae'r adar yn manteisio ar y digonedd o fwyd ac yn bridio a chodi teulu.

Cafwyd cymorth y llynges i'w chodi i'r wyneb a'i chludo i'r lan lle mae'n aros o hyd dan glo.

Gwna dro da neu ddau, fe wnaiff hynny fyd o les i ti, a chodi dy broffil.

"Pedwar ...!" llafarganodd y bariton, a chodi'i lais mewn crescendo rhybuddiol.

Yr oedden nhw'n cynaeafu cnau y goeden Cacao filoedd lawer o flynyddoedd cyn i Mr Cadbury drio'n gwneud ni i gyd yn Ffrŝt an Nyt Cesus a chodi ei deml yn Bournville.

Tywynnai'r bêl yn ddisgleiriach wrth iddo'i chodi oddi ar ei llwyfan a'i gosod yn y cwdyn a gafodd gan Meirion Lledrith.

Holai'n dyner amdanaf, a dweud fel yr oedd wedi mwynhau cwmni Gwyn pan gyfarfu'r ddau gyntaf Gofynnais yn gynnil beth oedd ei adwaith i'r pasiant ar ôl bod ar y llwyfan, ac yr oedd yn ddigon moesgar i beidio â dangos gwyn ei lygaid a chodi ei ysgwyddau, fel yr arferai Illtud ei wneud i ddangos fod rhywbeth y tu hwnt i eiriau.

Petae ti'n gofyn pa un llinell sy'n mynd trwy fy meddwl i ar adegau anodd, yna Steve fyddai ar y blaen efo'r geiriau 'tyrd allan i ddawnsio'n y glaw a chodi dau fys ar y byd'. Mae Steve yn dynn wrth sodlau Waldo pan ddaw hi at ysbrydoliaeth.

Os oedd hi'n ddydd gwaith, a dyn yn ymdrechu, hyd orau'i allu i chwibanu a chodi'i galon wrth gerdded yn anfoddog tua'r ysgol, mynnai'r galon guro'n gyflymach wrth imi brysuro heibio'r rhes o dai lle roedd Talfan yn byw, ac yno y pwysai'n llechwraidd yng nghysgod y drws, ei wallt cnotiog du yn ei lygaid a darn o'i dalcen yn gwenu arnaf.

"Er mwyn hepgor anhawsterau wrth i bobl dreulio amser yn chwilota yn eu pyrsiau am bres parcio a dal y traffig i fyny fe benderfynwyd peidio â chodi tâl parcio eleni,'' meddai.

Yr unig beth negyddol a ddwedwn i am y gyfrol yw fod rhan rhy helaeth ohoni yn yr adran "Amrywiadau", gyda nifer fawr o gerddi wedi eu seilio ar y pennill "Bachgen Bach o Felin y Wig" ond wedi dweud hynny, mae unrhyw un sydd yn gallu gwneud cywydd neu awdl ar y fath bwnc, a chodi gwen ar yr un pryd, yn haeddu canmoliaeth fawr.

Daeth tri herwr ar ddeg ar eu gwarthaf ger Bwlch y Clawdd Du ond fe laddodd Gwaethfoed y cwbl a chodi carnedd dros eu cyrff.

Camodd at Glyn a rhoi ei law dan ei ên a chodi 'i ben nes yr oedd y bachgen yn edrych i fyny i fyw ei lygaid glas.