Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chomsky

chomsky

Y mae stôr o wybodaeth gan bob siaradwr, sy'n ei alluogi i gynhyrchu a deall nifer annherfynol o olyniadau newydd yn ei iaith, ac â'r wybodaeth fewnol honno'n bennaf (competence yw term Chomsky) nid â'r sylwedd a gynhyrchir gan y siaradwr (performance yw gair Chomsky) y mae a wnelo gramadeg.

cyflwynir dewis yr awdur o fframwaith cyffredinol ar gyfer disgrifio'r Gymraeg, ond cyn mynd at hwnnw, sonnir ychydig am rai o ieithyddion America ac yn eu plith, Noam Chomsky, awdur y system ramadegol a elwir Gramadeg Trawsffurfiol Cenhedol.

Ym marn Chomsky, nid disgrifio'r hyn sydd eisoes wedi ei lefaru yw unig swydd gramadeg ond hefyd roi cyfrif am yr hyn y gellir ei lefaru - ei genhedlu - yn y dyfodol.