Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chorff

chorff

Doed o hyd i ol ei traed her creigiau Trwyn yr Wylfa drannoeth, a darganfuwyd ychydig o datws yma ac acw, ond ni welwyd byth mo'i chorff.Dyna un rheswm dros i Mam gasau'r mor.

Yna edrychodd ar weddill ei chorff.

Diflannodd y ferch a theimlodd Llio ei hun yn disgyn, disgyn ac yna ysgytwad yn dirdynnu ei chorff.

A chorff gwirfoddol wedi ei recriwtio o blith y meistri tir a'r clerigwyr oedd hwn.

Yr oedd y carchar yn y nos fel claddfa, pob carcharor yn ei gell fel pe byddai mewn arch ar ei sefyll ac yn unicach na chorff yn ei amdo, a'r goleuadau bychain y tu allan i'r celloedd fel y lampau bychain hynny ar feddau mynwentydd Catholig y cyfandir.

Ne...ne mi eith y gwarthaig i'r mart 'i hunan." Er ei bod hi'n bnawn myglyd 'roedd drws Nefoedd y Niwl yn agored led y pen a chorff byrgrwn, wynebgoch Laura Elin o'r Felin yn hanner llenwi'r drws hwnnw.

Yn ogystal â defnyddio ei llais mawr defnyddiodd holl nerth ei chorff mawr wrth fwrw top ei desg yn erbyn y ffrâm.

Digwyddodd hyn bron ar ddiwedd y gwyliau ac er bod y fam a'r tad yn sylweddoli y dylent roi cyfrif am yr achlysur ar unwaith i'r awdurdodau yn y Cei, eto sylweddolsant y byddai yn rhaid iddynt aros yn hwy yn Sir Aberteifi nag y trefnasent, felly, dyma benderfynu mynd â chorff y famgu adref gyda nhw a chymryd arnynt ei bod wedi marw gartref gan hysbysu'u meddyg teulu o'r ffaith bod marwolaeth wedi digwydd a gofyn iddo ef ddelio â'r mater ar ôl cyrraedd gartref.

Bob tro y meddyliai amdani, hyllaf yn y byd y gwelai ef ei hwyneb a'i chorff hen, fel bod y côf amdani bellach yn hunllef a dyfai'n ffieiddiach beunydd.

Ond, wedi i'w chorff flino, cafodd fod ei meddwl yn dal yn effro, a doedd dim awydd troi'n ôl i'r bwthyn arni.

Gafaelodd yn dynn amdani a phwysodd hithau ei chorff yn ei erbyn.

Trodd ei chorff wedyn yn araf a gosgeiddig, heb godi ei thraed.

Disgynasant fel cawod o gesair arni, ond er gwaethaf y rhain, aeth y ddraig ymlaen atyn nhw, ei chorff yn troi'n goch gan lif ei gwaed.

Teimlodd Llio ei chalon yn peidio 'a churo, ei bysedd a'i thraed yn ddiffrwyth a hithau'n ysgafn ei chorff ac yn teimlo ei bod yn codi uwchlaw y gwely.

Rhedai i fyny'r bonciau ar ôl yr hogiau a lluchio'i chorff ar y gwellt nes bod cwmpas ei gwisg laes yn un llanast wrth ei thraed.

I ddynion a'u gwelai eu hunain yn oœer bywiol yn llaw'r Ysbryd Glân, neges i'w chyflwyno'n uniongyrchol ar lafar i'w pobl gyda holl nerth eu cyneddfau meddwl a chorff ydoedd neges eu pregethau.

Dyma'r adeg y bydd pwerau grymus yn Difo oddi wrth Dduw a'r Crist Atgyfodedig trwy nerth yr Ysbryd Glân i mewn i feddwl, enaid a chorff y claf i'w gyfannu.

Ddarllenais i o yn rywle wsnos dwytha -- a dwi'n dyfynnu i'w gael o'n gywir -- taw swyddogaeth Cymdeithas yr Iaith ydi 'chwalu'r drefn bresennol.' Nid dyna swyddogaeth Deddf yr Iaith Gymraeg na chorff cyfrifol fel Bwrdd yr Iaith.

Roedd hi'n gawres yn ymyl ei gŵr, yn ddynes gref, bum troedfedd a naw o daldra, yn llydan ei chorff ac o asgwrn cryf.

Felly fydd Catherine Zeta Jones ddim yn priodi nes y bydd ei chorff wedi dod yn ôl i siap ar ôl iddi esgor ar ei babi.

Tasgodd cudynnau o wallt gwinau hardd o'i phen, toddodd ei sbectol i ddangos pâr o lygaid sionc, esmwythodd ei chroen fel cotwm dan hetar, diflannodd y crychau, a daeth rhwy wytnwch newydd i'w chorff.

Roedd hi'n dalach na fi a'r diffyg braster ar ei chorff yn dyst i'w bywyd caled ymhlith y bobol gyffredin, y campesinos.

Cododd ran uchaf ei chorff gwyrdd a rhuo buddugoliaeth.

Yr oedd o'n rhan ohoni hi a'i chorff hi'n dyheu amdano.

Ni byddai na rhaff o gylch ei chorff na gefynnau am ei choesau yn ddim ond moddion iddi ddangos ei champau.