Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chredai

chredai

Taith droellog iawn oedd hi a chredai llawer un a gyfrannodd at y drafodaeth ei fod yn ffyddlon i'r argyhoeddiadau Cristionogol.

'Roedd Mr Roberts,Daufryn, yn fosyn arni, a chredai'n siwr y buasai'n medru cael bachiad imi fel decboi.Addawodd yrru teligram o Gaerdydd pe bai'n llwyddiannus.

Roedd hen dderwen yn gysylltiedig â Sant Oswald ger Croesoswallt a chredai'r bobl y deuai anlwc ar neb a dorrai ei changhennau.

eu dyhead oedd cael mwynhau cyfnod hir o heddwch gan obeithio na fyddai'n rhaid i brydain ryfela am flynyddoedd lawer, a chredai rhai fod dyfodol masnach prydain yn dibynnu ar heddwch ar fôr a thir.

Er na chredai hynny, adlewyrchwyd y Gwynfydau yn ei fywyd diwyd.

Nid na chredai mewn gweithredu cyfansoddiadol.

Ond mynnu mynd yn ei flaen wnaeth Merêd; ni chredai y deuai'r glaw'n fuan - ni fynnai gredu hynny gan gymaint oedd ei awydd i sugno'r diferyn eithaf o fwynhad o'r profiad hwn.

Trodd y cynnig i lawr oherwydd na chredai y gallai Eidalwyr wneud Westerns gydag unrhyw lewyrch.

Yn wahanol i aelodau seneddol yr wythdegau edrychai Hyde yn ôl i gof y genedl, i'w hen wareiddiad Gwyddelig a'i iaith, a'i len a'i hanes, a chredai y gellid eu troi'n wrthglawdd yn ebryn y diwylliant Seisneg oedd yn brysur Seisnigo Iwerddon.

Mae'n rhaid ei fod wedi penderfynu aros dros nos gyda Mr Raboul,' meddai'r Indiad, a chredai Peter Owen fod peth petruster yn ei lais wrth ateb.

meddai Abdwl, a chredai Glyn mai ochenaid o ryddhad a roddodd.

Ni chredai iddi erioed weld cymaint o bobl wedi dod at ei gilydd i foli.