Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chrefydd

chrefydd

Sylwyd eisoes mor effro oedd i broblemau a digwyddiadau cyfoes, a rhoes arweiniad sicr o'i gadair olygyddol i'w fudiad ar gwestiynau llosg a phwysig ym meysydd gwleidyddiaeth, cymdeithas a chrefydd.

Pan oedd neb o gwmpas, mi'r oedd pethau'n go dawel, er yn amal mi fyddai 'na ryw gnofa eiriol rhwng y ddau, ond y tro yma roedd y cydddealltwriaeth mor berffaith a chrefydd y Piwritaniaid, ac roedd 'na obaith am lasiad yn y fargen, 'dach chi'n gweld.

Ers miloedd o flynyddoedd, mae pobol Llydaw wedi gwneud defnydd o'r graig hon ar gyfer dau ddiben yn arbennig, sef rhyfel a chrefydd.

Yn amser y Diwygiad, mewn sgwrs a Pitar Wilias, un o wyr amlwg y pentra, ynglyn a chrefydd, fe ddwedodd Rondol wrtho, 'Dwi ddim yn ama na fedrwn i arwain fy hun i ymuno a'r Bedyddwyr pe bawn i'n gwybod y cawn i drochfa mewn cwrw' 'A finna' meddai Begw.

Nid dyma'r lle i feirniadu eu syniadau; digon efallai yw dywedyd nad hawdd gan Gymry a anwyd yn y ganrif ddiwethaf lyncu holl syniadau'r adwaith Ffrengig am genedlaetholdeb a chrefydd.

Ynddo ceisiodd egluro sut y ffurfiwyd yr ynys wedi'r Dilyw, a holai beth oedd iaith y trigolion, ai o'r Hebraeg y tarddodd y Gymraeg: disrifiodd gyfraith a chrefydd gynnar yr ynys, athroniaeth a defodau'r Derwyddon, eu tamlau, eu hallorau a'u canolfannau yn y llwyni derw, gan atgynhyrchu'r lluniau o'r henebion derwyddol a gynhwysodd yn ei atebion i Queries Lhwyd.

Lle bu ei mosg yn destun gwawd a chrefydd y Moslem yn esgymun o dan.

Yn Lloegr yr oedd llenorion nid yn unig yn chwilio posibiliadau sech fel ffordd ddihangfa amgenach na chrefydd, eithr hefyd yn chwilio posibiliadau celfyddyd fel trydedd ffordd ddihangfa.

Y mae dwy ohonynt yn trafod pynciau'n ymwneud â chrefydd yn yr Oesoedd Canol.

Ond dyma dystiolaeth drawiadol sy'n dangos sut y buwyd ym more oes yn hau hadau'r serch a goleddodd Davies trwy weddill ei fywyd tuag at iaith, llenyddiaeth a chrefydd Cymru.

Yr oedd hi'n danbaid eisiau i'r bobl ifanc gael pob mantais addysg a chrefydd, ac iddynt eu gwerthfawrogi.

Y mae'n amlwg ei bod hi'n ymarferol yn ei chrefydd.

Ni all rhywun ond dychmygu yr ymateb pe byddair cwmni wedi ceisio bod mor glyfar gyda chrefydd Islam.

'Wn i ddim beth mae hynny'n ei brofi ynglŷn â'r berthynas rhwng iaith a chrefydd, os ydyw'n profi unrhyw beth o gwbl .

Ei effaith ar Peate oedd peri iddo ystyried am y tro cyntaf gydberthynas driphlyg a chydymddibynnol barddoniaeth a chrefydd a phrofiad.

Cymerid yn ganiataol fod cyfnod Cristionogaeth ar ben, ac ategwyd y farn honno gan un o'r caplaniaid a adnabu pan ddywedodd fod wyth deg a phump y cant o'r bechgyn dan ei ofal heb un arlliw o gysylltiad â chrefydd.

Sawra 'Middleton Murry a Chrefydd' yn gryf o'r pendantrwydd cenhadol a gyfyd o anesmwythyd, pan fo gŵr yn

Penllanw dadl gyfatebol i eiddo Murry ac Eliot rhwng Gruffydd a Saunders Lewis oedd y 'Llythyr' ar y cyswllt rhwng llenyddiaeth a chrefydd.

Mi wyddost am y misus acw, mai glanweithdra ydi'i chrefydd hi.

I'r tyaid plant a fagwyd yn Ralltgoch, Llanfaethlu, roedd 'na llawer o bethau a oedd yn fwy o demtasiwn na chrefydd.

Yr oedd dyhead o du'r ifanc yn y Lluoedd i weld byd gwell lle gwelid cyfiawnder, rhyddid, a heddwch yn teyrnasu, ond nid oedd gan na chrefydd nac Eglwys ddim i'w wneud â sylweddoli'r dyhead hwnnw.

Roedd y cynhyrchiad, felly, i fod i greu llun oedd yn caniatau inni ddarllen meddwl Ifans; ofn y genhedlaeth hŷn o offer mecanyddol, o fod allan o waith wrth gael eu sarhau gan newydd-ddyfodiad di-grefft sydd yn medru defnyddio'r offer hwnnw; ofn agweddau newydd o ddiffyg parch; ofn ffyrnigrwydd caled, hyderus y to newydd a chymysgedd meddwl ynglŷn a Chrefydd - a yw'r Giaffar yna i wrando ar yr holl gwynion hunan-aberthol?

Pwnc y gerdd fuddugol yw tair o gorlannau crefyddol y byd, crefydd Islam, Cristnogaeth a chrefydd Bwda'r Tseineaid.