Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chrynswth

chrynswth

Rhaid i farn gytbwys ynglŷn â diwylliant Ffrianc ac Ewrop yn ei chrynswth, wrth gwrs - gydnabod cyfraniad y Chwyldroadwr a'r Ceidwadwr, y Chwith a'r Dde i'w gwareiddiad, a chydnabod hefyd werth a dilysrwydd cyfraniadau'r ddwy garfan.

Ar un wedd y mae hon yn rhoi camargraff inni, am ei bod yn llawer mwy personol na chrynswth gwaith y clerwr, ond eto i gyd y mae'n gwbl nodweddiadol o'i waith o ran ei hanfod, am fod tynerwch dynol o fewn y teulu yn wedd ar fywyd a bwysleisir yn arbennig yn ei gerddi mawl, ac am fod ei arddull seml ar ei mwyaf effeithiol yma yn cyfleu argraff o deimlad dwfn a diffuant.

Cyn hynny, system ramadegol i'w dysgu'n ddernynnol oedd unrhyw iaith ac fe'i dysgid yn ei chrynswth cymhleth heb roi fawr o sylw i'r cynnwys.

Gwasanaethau Staff: Noda'r Adain fod yr Awdurdod yn gwario mwy o arian ar annog ei staff ei hun i ddefnyddio cludiant preifat nag ar ddarparu cludiant cyhoeddus i'r Sir yn ei chrynswth.

Diau fod Saunders Lewis yn ystyried y ganrif ddiwethaf, a'i chymryd yn ei chrynswth, fel canrif drychinebus yn ein hanes (er nad yw'n condemnio pob unigolyn a phob mudiad, wrth gwrs).